RHAN 8LL+CMEYSYDD TREF A PHENTREF
52Datganiad gan berchennog i ddod â diwedd i ddefnyddio tir drwy hawlLL+C
(1)Mae adran 15A o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (p.26) (cofrestru meysydd: datganiad gan berchennog) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1), hepgorer “in England”.
(3)Hepgorer is-adran (8).
53Eithrio o’r hawl i wneud cais am gofrestruLL+C
(1)Mae Deddf Tiroedd Comin 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 15C (cofrestru meysydd: eithriadau)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)hepgorer “in England”;
(ii)yn lle “Schedule 1A” rhodder “the relevant Schedule”;
(b)yn is-adran (2), ar ôl “the Table” mewnosoder “set out in the relevant Schedule”;
(c)yn is-adrannau (3) a (4), yn lle “Secretary of State” rhodder “appropriate national authority”;
(d)yn is-adran (5)—
(i)yn lle “Secretary of State” rhodder “appropriate national authority”;
(ii)yn lle “Schedule 1A” rhodder “the relevant Schedule”;
(e)ar ôl is-adran (8) mewnosoder—
“(9)In this section “the relevant Schedule” means—
(a)Schedule 1A, in relation to land in England;
(b)Schedule 1B, in relation to land in Wales.”
(3)Ar ôl Atodlen 1A (y mae ei henw yn newid i “Exclusion of right under section 15: England”) mewnosoder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 6.
54Ceisiadau i ddiwygio cofrestrau: pŵer i wneud darpariaeth ynghylch ffioeddLL+C
(1)Mae adran 24 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (ceisiadau etc) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (2A), hepgorer “made by the Secretary of State”.
(3)Hepgorer is-adran (2B).