- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cymwysterau Cymru 2015, Croes Bennawd: Darpariaeth atodol sy’n berthnasol i bob cymeradwyaeth.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)O ran cymeradwyo ffurf ar gymhwyster —
(a)rhaid iddo fod yn ddarostyngedig i amod o fewn is-adran (2), a
(b)mae i fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill y caiff Cymwysterau Cymru eu gosod naill ai ar adeg rhoi’r gymeradwyaeth neu wedi hynny.
(2)Mae amod o fewn yr is-adran hon yn amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ffurf ar gymhwyster sydd i’w dyfarnu fel cymhwyster a gymeradwywyd gael ei nodi â rhif cymeradwyo.
(3)Mae rhif cymeradwyo yn rhif (gyda neu heb lythrennau neu symbolau) sydd wedi ei ddyrannu i gymhwyster gan Gymwysterau Cymru.
(4)Dim ond os yw ffurf ar gymhwyster wedi ei ddyfarnu â’i rhif cymeradwyo yn unol â’r amod a grybwyllir o fewn is-adran (2) y’i dyfernir fel cymhwyster a gymeradwywyd.
(5)Caiff yr amodau y caiff Cymwysterau Cymru eu gosod wneud darpariaeth wahanol, mewn cysylltiad â dyfarnu’r un cymhwyster, at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ymhlith pethau eraill drwy gyfeirio at yr amgylchiadau pan fo cymhwyster yn cael ei ddyfarnu, neu at y personau neu’r disgrifiadau o bersonau y dyfernir cymhwyster iddynt).
(6)Os yw Cymwysterau Cymru, ar ôl cymeradwyo ffurf ar gymhwyster i’w dyfarnu gan gorff cydnabyddedig—
(a)yn gosod amodau newydd y mae’r gymeradwyaeth i fod yn ddarostyngedig iddynt, neu
(b)yn amrywio’r amodau y mae’r gymeradwyaeth i fod yn ddarostyngedig iddynt,
rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff dyfarnu am yr amodau newydd (neu’r amodau sydd wedi eu hamrywio).
(7)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)pennu’r dyddiad y bydd yr amodau newydd (neu’r amodau fel y maent wedi eu hamrywio) yn cael effaith, a
(b)rhoi rhesymau dros y newid.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 22 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
(1)Mae cymeradwyaeth o dan adran 16 neu 17—
(a)yn cael effaith o ba ddyddiad bynnag a bennir gan Gymwysterau Cymru, a
(b)i gael ei rhoi am gyfnod cyfyngedig a bennir gan Gymwysterau Cymru wrth roi’r gymeradwyaeth.
(2)O ran cymeradwyaeth o dan adran 18 neu 19—
(a)mae’n cael effaith o ba ddyddiad bynnag a bennir gan Gymwysterau Cymru, a
(b)caniateir iddi gael ei rhoi am gyfnod amhenodol neu am gyfnod cyfyngedig a bennir gan Gymwysterau Cymru wrth roi’r gymeradwyaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I4A. 23 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud rheolau ynghylch gwneud ceisiadau iddo o dan y Rhan hon.
(2)Caiff y rheolau wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(3)Caiff y rheolau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ffurf a chynnwys ceisiadau;
(b)y ffordd y mae ceisiadau i gael eu gwneud (gan gynnwys o ran unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais).
(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r rheolau a wneir o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I6A. 24 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys