- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cymwysterau Cymru 2015, Croes Bennawd: Is-swyddogaethau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio datganiad o’i bolisi (“datganiad polisi”) mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan—
(a)Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu);
(b)Rhan 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau);
(c)Rhan 5 (dynodi cymwysterau eraill);
(d)Rhan 7 (pwerau gorfodi Cymwysterau Cymru);
(e)adran 45 (darparu gwasanaethau etc gan Gymwysterau Cymru);
(f)adran 46(1) (adolygiadau).
(2)Rhaid i’r datganiad polisi gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)yr amgylchiadau pan fo cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu yn debygol o gael ei gwneud yn ddarostyngedig i amod arbennig;
(b)y materion sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu pa un ai i ddynodi ffurf ar gymhwyster o dan adran 29, wrth benderfynu ar y cyfnod y mae dynodiad o’r fath i gael effaith ar ei gyfer ac wrth benderfynu pa un ai i ddirymu dynodiad o’r fath;
(c)y meini prawf sy’n debygol o gael eu cymhwyso gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu a yw’n briodol mewn unrhyw achos osod amod capio ffioedd er mwyn sicrhau gwerth am arian;
(d)y materion sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu ar y terfyn a bennir mewn amod capio ffioedd;
(e)cyfnod para tebygol amod capio ffioedd;
(f)yr amgylchiadau pan fo cyfarwyddyd yn debygol o gael ei roi i gorff dyfarnu yn unol ag amod trosglwyddo, a thestun tebygol unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol ag amod trosglwyddo;
(g)y materion sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu pa un ai i wneud taliad i gorff dyfarnu o dan baragraff 15 o Atodlen 3, ac wrth benderfynu ar swm unrhyw daliad o’r fath;
(h)yr amgylchiadau a’r adegau pan fo amodau arbennig yn debygol o gael eu hadolygu neu eu diwygio, a’r ffactorau sy’n debygol o gael eu hystyried mewn unrhyw adolygiad neu ddiwygiad;
(i)yr amgylchiadau pan fo Cymwysterau Cymru yn debygol o osod cosb ariannol o dan adran 38;
(j)y ffactorau y mae Cymwysterau Cymru yn debygol o’u hystyried wrth benderfynu ar swm cosb sydd i’w osod o dan yr adran honno.
(3)Rhaid i Gymwysterau Cymru hefyd lunio datganiad sy’n nodi—
(a)yr amgylchiadau pan fo Cymwysterau Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau;
(b)ym mha fodd y mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad.
(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru adolygu’r datganiadau a lunnir o dan yr adran hon yn gyson, ac os yw’n ystyried ei bod yn briodol o ganlyniad i adolygiad, lunio datganiadau diwygiedig.
(5)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi unrhyw ddatganiad neu ddatganiad diwygiedig a lunnir o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 47 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion a wneir mewn cysylltiad—
(a)ag arfer ei swyddogaethau;
(b)â dyfarnu cymwysterau a gymeradwywyd gan gorff cydnabyddedig;
(c)â dyfarnu ffurfiau ar gymhwyster sydd wedi eu dynodi o dan adran 29 gan gorff cydnabyddedig;
(d)ag unrhyw weithgareddau eraill corff cydnabyddedig y mae Cymwysterau Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol i gydnabyddiaeth y corff.
(2)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r trefniadau.
(3)Caiff y trefniadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth—
(a)ynghylch y math o gŵyn y maent yn gymwys mewn cysylltiad â hi;
(b)i gŵyn gael ei hatgyfeirio at berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru.
(4)Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—
(a)yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;
(b)yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I4A. 48 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
(1)Caiff Cymwysterau Cymru godi ffioedd sydd i’w talu gan gorff dyfarnu mewn cysylltiad â’r costau y mae’n mynd iddynt mewn perthynas â’r corff hwnnw mewn cysylltiad—
(a)ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3 (cydnabod cyrff dyfarnu),
(b)ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau),
(c)ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 5 (dynodi cymwysterau eraill),
(d)ag arfer ei swyddogaethau o dan adran 46(1) i (c) (adolygu cymwysterau a gymeradwywyd, cymwysterau sydd wedi eu dynodi a chyrff cydnabyddedig), neu
(e)â delio â chŵyn yn erbyn corff dyfarnu o dan y trefniadau a wneir o dan adran 48.
(2)Rhaid i unrhyw ffioedd a godir gan Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (1) gael eu codi yn unol â chynllun a luniwyd ac a gyhoeddwyd gan Gymwysterau Cymru sy’n nodi’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r materion hynny.
(3)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.
(4)Mae’r cynllun (ac unrhyw gynllun diwygiedig) i’w drin fel pe na bai ond yn cael effaith os caiff ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I6A. 49 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
(1)Caiff Cymwysterau Cymru roi grantiau i berson os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Cymwysterau Cymru.
(2)Caniateir i grant o dan yr adran hon gael ei roi yn ddarostyngedig i amodau (gan gynnwys amodau o ran ad-dalu).
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I8A. 50 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
Os gofynnir iddo wneud hynny gan Weinidogion Cymru, rhaid i Gymwysterau Cymru ddarparu unrhyw wybodaeth neu gyngor i Weinidogion Cymru, ar faterion sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, a bennir yn y cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I10A. 51 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
Caiff Cymwysterau Cymru gydweithio â pherson arall os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Cymwysterau Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I12A. 52 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
(1)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw agweddau ar bolisi llywodraeth, ac i unrhyw faterion eraill, a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.
(2)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (1)—
(a)rhaid iddo gael ei gyhoeddi gan Weinidogion Cymru;
(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I14A. 53 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i’r egwyddorion yn is-adran (2) wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan—
(a)Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu);
(b)Rhan 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau);
(c)Rhan 7 (pwerau gorfodi Cymwysterau Cymru);
(d)adran 46(1)(a) i (c) (adolygu cymwysterau a gymeradwywyd, cymwysterau sydd wedi eu dynodi a chyrff cydnabyddedig);
(e)adran 48 (cwynion).
(2)Yr egwyddorion yw—
(a)y dylid cyflawni gweithgareddau rheoleiddiol mewn ffordd sy’n dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson, a
(b)mai dim ond at achosion pan fo angen gweithredu y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I16A. 54 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys