Deddf Cymwysterau Cymru 2015

PwyllgorauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

18(1)Caiff Cymwysterau Cymru, mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, sefydlu pwyllgor ar y cyd ag unrhyw berson.

(2)Yn yr Atodlen hon cyfeirir at bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn fel “cyd-bwyllgor”.

(3)Caiff cyd-bwyllgor sefydlu is-bwyllgorau (“cyd-is-bwyllgorau”).

(4)Caiff Cymwysterau Cymru dalu tâl a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor, ond

(b)nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru neu’n aelod o’i staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 6.8.2015 gan O.S. 2015/1591, ergl. 2(c)