Tynnu cydnabyddiaeth yn ôlLL+C
19(1)Os yw corff cydnabyddedig yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod y mae cydnabyddiaeth mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl ei gydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad â dyfarnu—
(a)cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu
(b)pob cymhwyster y cydnabyddir y corff mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.
(2)Os yw corff cydnabyddedig sy’n dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl ei gydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad â dyfarnu—
(a)cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu
(b)pob cymhwyster y cydnabyddir y corff mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)