xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Oni bai bod gofyniad a nodir yn is-adran (3) neu (5) wedi ei fodloni, ni chaniateir i gwrs addysg neu hyfforddiant sy’n arwain at ddyfarnu ffurf ar gymhwyster ac sydd o fewn is-adran (2)—
(a)cael ei gyllido gan gorff awdurdodedig, neu
(b)cael ei ddarparu gan neu ar ran ysgol a gynhelir yng Nghymru.
(2)Mae cwrs addysg neu hyfforddiant o fewn yr is-adran hon os y’i darperir, neu os bwriedir iddo gael ei ddarparu—
(a)gan neu ar ran ysgol neu sefydliad neu gyflogwr, a
(b)ar gyfer disgyblion sydd o oedran ysgol gorfodol, neu’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond sydd o dan 19 oed.
(3)Y gofyniad yw—
(a)y caiff y ffurf ar gymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati ei dyfarnu gan gorff cydnabyddedig fel cymhwyster a gymeradwywyd, a
(b)os yw’r ffurf ar y cymhwyster yn ddarostyngedig i amod sy’n cyfyngu ar ddyfarniad, na ddarperir y cwrs mewn ffordd sy’n arwain at ddyfarnu’r cymhwyster i berson ac eithrio yn unol â’r amod hwnnw.
(4)Yn is-adran (3)(b), mae amod sy’n cyfyngu ar ddyfarniad yn amod y mae cymeradwyaeth i’r ffurf ar gymhwyster o dan Ran 4 yn ddarostyngedig iddo ac sy’n ymwneud â’r person neu’r disgrifiad o berson y caniateir i’r cymhwyster gael ei ddyfarnu iddo.
(5)Y gofyniad yw—
(a)y caiff y ffurf ar y cymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati ei dyfarnu gan gorff cydnabyddedig ac y caiff ei dynodi o dan adran 29, a
(b)os yw Cymwysterau Cymru wedi pennu dibenion o dan adran 30(6) y mae’r dynodiad i gael effaith atynt, na ddarperir y cwrs mewn ffordd sy’n arwain at ddyfarnu’r cymhwyster ac eithrio yn unol â’r dibenion hynny.
(6)Mewn perthynas ag ysgol a gynhelir, rhaid i’r awdurdod lleol a’r corff llywodraethu gyflawni eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau nad eir yn groes i is-adran (1)(b).
(7)Nid yw’r cyfyngiad a osodir gan yr adran hon yn gymwys mewn cysylltiad â darparu cwrs addysg neu hyfforddiant i berson sydd ag anhawster dysgu.
(8)Nid yw’r cyfyngiad ychwaith yn gymwys mewn cysylltiad â chwrs addysg neu hyfforddiant a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddiben yr adran hon.
(9)Caiff dynodiad o dan is-adran (8) wneud darpariaeth—
(a)yn gyffredinol mewn cysylltiad â chwrs neu ddisgrifiad o gwrs, neu
(b)mewn cysylltiad â chwrs neu ddisgrifiad o gwrs a ddarperir mewn amgylchiadau, neu a ddarperir i berson neu ddisgrifiad o berson, a bennir yn y dynodiad.
(10)O ran dynodiad o dan is-adran (8)—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu.
(11)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at gwrs sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster yn cynnwys cyfeiriadau at gwrs sy’n un o ddau neu ragor o elfennau sy’n arwain at ffurf ar y cymhwyster.
(12)Yn yr adran hon—
ystyr “corff awdurdodedig” (“authorised body”) yw—
Gweinidogion Cymru;
awdurdod lleol yng Nghymru;
[F1y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;]
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw—
ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol;
ysgol arbennig gymunedol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 34(12) wedi eu mewnosod (1.8.2024) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 34(2) (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 2(k)(xviii) (ynghyd ag ergl. 28)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 34 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)