xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CCYDNABOD CYRFF DYFARNU

Cydnabod cyrff dyfarnuLL+C

9Cydnabod corff dyfarnu mewn ffordd sy’n benodol i gymhwysterLL+C

(1)Caiff corff dyfarnu wneud cais i Gymwysterau Cymru i gael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster y gosodir meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster mewn perthynas ag ef o dan adran 6.

(2)Os yw’r corff yn bodloni’r ddau o’r canlynol—

(a)y meini prawf cydnabod cyffredinol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 5, a

(b)y meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster sy’n berthnasol mewn cysylltiad â’r cymhwyster a’r corff o dan sylw,

rhaid i Gymwysterau Cymru gydnabod y corff mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(3)Os nad yw’r corff yn bodloni’r holl feini prawf hynny caiff Cymwysterau Cymru, er hynny, os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, gydnabod y corff mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

(4)Wrth benderfynu a yw’n briodol cydnabod corff o dan is-adran (3), rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i—

(a)pa un a yw’r corff yn bodloni’n sylweddol y meini prawf y cyfeirir atynt yn is-adran (2),

(b)effaith ei fethiant i fodloni’r meini prawf hynny yn llawn, ac

(c)pa mor debygol ydyw o fodloni’r meini prawf hynny yn llawn wedi hynny.

(5)Effaith cydnabyddiaeth o dan yr adran hon, cyhyd â bod y corff yn cael ei gydnabod o dan adran 8, yw ei fod yn cael ei gydnabod hefyd mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster a bennir yn y gydnabyddiaeth o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2A. 9 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)