Adran 20 – Ymgynghori ac ymchwilio
42.Wrth gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig rhaid i’r Comisiwn gynnal pa bynnag ymchwiliad sy’n briodol yn ei farn. Rhaid iddo hefyd baratoi adroddiad sy’n cynnwys y cynigion ar gyfer trefniadau etholiadol y brif ardal arfaethedig, ac unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol. Rhaid i’r adroddiad hefyd gynnwys manylion yr adolygiad ei hun.
43.Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyhoeddi ei adroddiad cychwynnol ar-lein, ei anfon at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion mandadol, sicrhau ei fod ar gael i edrych arno mewn mannau penodedig yn ystod y cyfnod ar gyfer sylwadau (y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod heb fod yn llai na 6 wythnos a heb fod yn fwy na 12 wythnos), hysbysu unrhyw un y mae’n ei ystyried yn briodol sut i gael copi o’r adroddiad a gwahodd sylwadau ar ei gynigion yn yr adroddiad hwnnw gan Weinidogion Cymru, yr ymgyngoreion mandadol ac unrhyw berson arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.