10Darpariaeth ganlyniadol etc. arall
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff rheoliadau uno gynnwys unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu throsiannol neu darpariaeth arbed—
(a)at ddibenion rheoliadau uno neu o ganlyniad iddynt, neu
(b)er mwyn rhoi effaith lawn i reoliadau uno.
(3)Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau uno.
(4)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—
(a)ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau ac eiddo, hawliau neu rwymedigaethau (gan gynnwys rhwymedigaethau troseddol) o awdurdod sy’n uno i brif awdurdod lleol newydd;
(b)i achos sifil neu droseddol a gychwynnir gan neu yn erbyn awdurdod sy’n uno gael ei barhau gan neu yn erbyn prif awdurdod lleol newydd;
(c)ar gyfer trosglwyddo staff, digolledu am golli swydd, neu mewn perthynas â phensiynau a materion staffio eraill;
(d)ar gyfer trin prif awdurdod lleol newydd at rai dibenion neu at bob diben fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod sy’n uno;
(e)mewn perthynas â rheolaeth neu gadwraeth eiddo (tirol neu bersonol) a drosglwyddir i brif awdurdod lleol newydd;
(f)ynghylch cynnal refferendwm sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 9;
(g)mewn perthynas ag ymddiriedolwyr siarter;
(h)mewn perthynas â siroedd wedi eu cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972).
(5)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau y caniateir eu trosglwyddo yn unol â rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â chontract cyflogi.
(6)Mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, yn gymwys i drosglwyddiad a wneir yn unol â rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y Rheoliadau hynny ai peidio).
(7)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed hefyd yn cynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag—
(a)sefydlu cyrff cyhoeddus neu aelodaeth cyrff o’r fath mewn unrhyw ardal yr effeithir arni gan y rheoliadau uno ac ethol neu benodi aelodau’r cyrff cyhoeddus, neu
(b)diddymu neu sefydlu, neu gyfyngu neu ymestyn, awdurdodaeth unrhyw gorff cyhoeddus mewn neu dros unrhyw ran o unrhyw ardal yr effeithir arni gan reoliadau uno.
(8)Caiff darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) fod ar ffurf darpariaeth—
(a)sy’n addasu, yn eithrio neu’n cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad, neu
(b)sy’n diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad (gydag arbedion neu hebddynt).
(9)Mae “deddfiad” yn is-adran (8) yn cynnwys unrhyw siarter, pa bryd bynnag y’i rhoddwyd.
(10)Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru achosi i ymchwiliad gael ei gynnal o dan is-adran (6) o adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (awdurdodau cyfunol) mewn perthynas â gorchymyn o dan is-adran (4) o’r adran honno a wneir o ganlyniad i reoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2).
(11)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)amrywio rheoliadau uno (neu reoliadau o dan y paragraff hwn) drwy reoliadau, a
(b)amrywio neu ddirymu rheoliadau o dan is-adran (2) (neu’r paragraff hwn) drwy reoliadau.