- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(1)Os nad yw’r Comisiwn wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru sy’n cynnwys argymhellion gan y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad cychwynnol sy’n ymwneud â phrif ardal arfaethedig erbyn y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol ei gynnal, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (2).
(2)Caiff Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud y ddarpariaeth y maent o’r farn ei bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ac unrhyw ddarpariaeth y maent o’r farn ei bod yn briodol ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol.
(3)Rhaid i’r Comisiwn roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw faterion sydd wedi dod i’w sylw o ganlyniad i—
(a)unrhyw ymgynghoriad o dan adran 19,
(b)unrhyw ymchwiliad o dan adran 20,
(c)paratoi adroddiad o dan adran 20 neu 21, neu
(d)unrhyw beth arall a wnaed wrth gynnal yr adolygiad cychwynnol,
fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.
(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2) mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig, rhaid i’r Comisiwn gynnal ei adolygiad cyntaf o’r brif ardal o dan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 cyn gynted â phosibl ar ôl diwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal a, sut bynnag, cyn diwrnod yr un nesaf.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu rheoliadau o dan is-adran (2) (neu’r is-adran hon) drwy reoliadau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys