Yn ddilys o 01/12/2022
PENNOD 5LL+CCYD-DDEILIAID CONTRACT A CHYD-LANDLORDIAID
Cyd-ddeiliaid contractLL+C
48Cyd-ddeiliaid contract: cyd-atebolrwydd etc.LL+C
(1)Os oes dau neu ragor o gyd-ddeiliaid contract o dan gontract meddiannaeth, mae pob cyd-ddeiliad contract yn llwyr atebol i’r landlord am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i’r landlord o dan y contract.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ddeiliad y contract, ac eithrio pan ddarperir fel arall, yn gyfeiriadau at gyd-ddeiliaid y contract.
(3)Mae is-adran (2) yn gymwys hyd yn oed os yw’r contract meddiannaeth yn denantiaeth a’r ystad lesddaliol wedi ei breinio yn un neu ragor, ond nid ym mhob un, o gyd-ddeiliaid y contract.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
49Ychwanegu cyd-ddeiliad contractLL+C
(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth a pherson arall, gyda chaniatâd y landlord, wneud y person arall hwnnw yn gyd-ddeiliad contract o dan y contract.
(2)Os gwneir person yn gyd-ddeiliad contract o dan yr adran hon bydd ganddo’r hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau deiliad contract o dan y contract o’r diwrnod y daw’n gyd-ddeiliad contract.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
50Ychwanegu cyd-ddeiliad contract: cydsyniad landlordLL+C
Pan fo landlord yn gwrthod cydsynio i ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan adran 49, neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
51Ychwanegu cyd-ddeiliad contract: materion ffurfiolLL+C
(1)Ni ellir ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth ond drwy ddogfen wedi ei llofnodi neu ei chyflawni gan bob un o’r partïon i’r trafodiad.
(2)Os yw’r contract yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y landlord i’r ychwanegiad, rhaid i’r landlord lofnodi neu gyflawni’r ddogfen hefyd.
(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r landlord yn cael ei drin fel pe bai wedi cydsynio o dan adran 84(6), (8) neu (10).
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Cyd-ddeiliaid contract: goroesiLL+C
52Cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaethLL+C
(1)Os yw cyd-ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth yn marw, neu’n peidio â bod yn barti i’r contract am ryw reswm arall, o’r adeg y mae’n peidio â bod yn barti—
(a)mae gan weddill cyd-ddeiliaid y contract hawl lwyr i’r holl hawliau o dan y contract, a
(b)mae gweddill cyd-ddeiliaid y contract yn llwyr atebol am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i’r landlord o dan y contract.
(2)Nid oes hawl gan gyd-ddeiliad y contract i unrhyw hawl ac nid yw’n atebol am unrhyw rwymedigaeth o ran y cyfnod ar ôl iddo beidio â bod yn barti i’r contract.
(3)Nid oes dim yn is-adran (1) na (2) yn dileu unrhyw hawl nac yn ildio unrhyw atebolrwydd ar ran cyd-ddeiliad y contract sy’n cronni cyn iddo beidio â bod yn barti i’r contract.
(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract am fod ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract yn cael eu trosglwyddo yn unol â’r contract.
(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Cyd-landlordiaidLL+C
53Cyd-landlordiaidLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw dau berson ar y cyd, neu ragor, yn landlord o dan gontract meddiannaeth.
(2)Mae pob un ohonynt yn llwyr atebol i ddeiliaid y contract am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i ddeiliad y contract o dan y contract.
(3)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y landlord yn gyfeiriadau at y personau sydd, ar y cyd, yn landlord.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)