xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract [F1diogel].
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 163(2) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 11(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 163 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 163 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163 fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I4A. 164 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(2)Mae adran 212 yn darparu bod rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract [F2diogel].
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn a. 165(3) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 11(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 165 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I6A. 165 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 165 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.
(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 165 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 163 fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.
(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 166 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I8A. 166 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—
(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a
(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I10A. 167 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2