xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

PENNOD 5LL+CTERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

Terfynu gan landlord: hysbysiad y landlordLL+C

173Hysbysiad y landlordLL+C

(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C2A. 173 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 98A (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(6))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 173 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

174Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na [F2chwe mis] ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

[F3(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—

(a)nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 174 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 174 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F4174AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8ALL+C

(1)Os yw contract safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sydd—

(a)yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, a

(b)o fewn Atodlen 8A.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 174A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

175[F5Cyfyngiad ar adran 173: ni chaniateir rhoi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth]LL+C

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o [F6chwe mis] sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.

(2)Os yw’r contract yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o [F7chwe mis] sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract yn dod yn union ar ôl diwedd contract meddiannaeth blaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract, ddeiliad contract o dan y contract yn ddeiliad contract o dan y contract blaenorol a landlord o dan y contract yn landlord o dan y contract blaenorol, a

(iii)os yw’r contract yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol, a

(b)ystyr “contract gwreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd contract nad yw’n gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth sy’n rhagflaenu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall;

(ii)pan fo cyfres o gontractau olynol yn gontractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—

(a)nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio),

F8...

Diwygiadau Testunol

F5Pennawd A. 175 wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 4(2), 19(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I7A. 175 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F9176Cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173: torri rhwymedigaethau statudolLL+C

Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 176 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I9A. 176 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F10177Cyfyngiadau ar roi hysbysiadau pellach o dan adran 173LL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo—

(a)landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (“yr hysbysiad cyntaf”), a

(b)y landlord wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl wedi hynny (gweler adran 180(3)).

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd yr hysbysiad cyntaf ei dynnu’n ôl, ac eithrio yn unol ag is-adran (3).

(3)Caiff y landlord roi un hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cyntaf.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—

(a)landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173, a

(b)y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 wedi dod i ben heb i’r landlord fod wedi gwneud hawliad.

(5)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â diwrnod olaf y cyfnod y gallai’r landlord fod wedi gwneud yr hawliad cyn iddo ddod i ben (gweler adran 179(1)(b)).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I11A. 177 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F11177ACyfyngiad ar roi hysbysiad o dan adran 173 yn dilyn hawliad meddiant dialgarLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178, a

(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 177A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

178Adennill meddiantLL+C

(1)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar: contractau safonol) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I14A. 178 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

179Cyfyngiad ar adran 178LL+C

(1)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178—

(a)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan adran 173, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I16A. 179 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

180Terfynu contract yn dilyn hysbysiad y landlordLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os[F12

(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu

(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—

(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a

(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.]

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I18A. 180 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2