xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

PENNOD 5LL+CTERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

Terfynu gan landlord: ôl-ddyledion rhent difrifolLL+C

181Ôl-ddyledion rhent difrifolLL+C

(1)Os oes gan ddeiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol ôl-ddyledion rhent difrifol, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol—

(a)pan fo’r cyfnod rhentu yn wythnos, yn bythefnos neu’n bedair wythnos, os oes o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu;

(b)pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu;

(c)pan fo’r cyfnod rhentu yn chwarter, os oes rhent o leiaf un chwarter dros dri mis yn hwyr;

(d)pan fo’r cyfnod rhentu yn flwyddyn, os oes o leiaf 25% o’r rhent dros dri mis yn hwyr.

(3)Mae adran 216 yn darparu bod rhaid i’r llys (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract) wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd os yw’n fodlon bod gan ddeiliad y contract—

(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a

(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 181 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

182Cyfyngiadau ar adran 181LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail honno i ddeiliad y contract.

(2)Ni chaiff landlord o dan gontract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)Ni chaiff y landlord o dan gontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Mae is-adran (1) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac

(a)mae is-adran (2) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;

(b)mae is-adran (3) yn ddarpariaeth sylfaenol nad yw ond wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 182 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2