Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 10

 Help about opening options

No versions valid at: 05/08/2016

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 05/08/2016. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Atodlen yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Close

Statws

 Nid yw'n ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn yn golygu yn gyffredinol nad oedd darpariaeth mewn grym ar gyfer y pwynt mewn amser rydych wedi dewis.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ATODLEN 10 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 08 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Yn ddilys o 01/12/2022

(a gyflwynir gan adrannau 209, 210 a 211)

ATODLEN 10LL+CGORCHMYNION ADENNILL MEDDIANT AR SEILIAU DISGRESIWN ETC.: RHESYMOLDEB

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

RhagarweiniolLL+C

1Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddiben penderfynu a yw’n rhesymol—

(a)gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 (tor contract) neu 210 (seiliau rheoli ystad), neu

(b)gwneud penderfyniad o dan adran 211 i ohirio achos ar hawliad meddiant neu ohirio ildio meddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 10 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

2Rhaid i’r llys, wrth benderfynu a yw’n rhesymol gwneud gorchymyn neu benderfyniad o’r fath, neu wrth wneud unrhyw benderfyniad arall sydd ar gael iddo (ymysg pethau eraill), roi sylw i’r amgylchiadau a nodir ym mharagraffau 4 i 13 i’r graddau y mae’r llys o’r farn eu bod yn berthnasol (ac i’r graddau nad yw’n ofynnol fel arall iddo roi sylw i’r materion hynny; er enghraifft, o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42)).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 10 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

3Mae paragraff 14 yn dynodi amgylchiad, sy’n ymwneud â chymorth gan awdurdodau lleol mewn perthynas â digartrefedd, na ddylai’r llys roi sylw iddo (yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw y mae’r llys yn ddarostyngedig iddo).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 10 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Amgylchiadau o ran deiliad y contractLL+C

4Effaith debygol y gorchymyn neu’r penderfyniad ar ddeiliad y contract (ac ar unrhyw feddianwyr y caniateir iddynt feddiannu annedd).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 10 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

5Os yw’r achos yn un lle y caniateir i’r llys benderfynu gohirio ildio meddiant, y tebygolrwydd y bydd deiliad y contract yn cydymffurfio ag unrhyw delerau a all gael eu gosod.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 10 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Amgylchiadau o ran y landlordLL+C

6Effaith debygol peidio â gwneud y gorchymyn, neu’r penderfyniad, ar fuddiannau’r landlord, gan gynnwys buddiannau ariannol y landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 10 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

7Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, effaith debygol peidio â gwneud y gorchymyn, neu’r penderfyniad, ar allu’r landlord i gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â thai, gan gynnwys cynorthwyo personau eraill sydd angen llety.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 10 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Amgylchiadau o ran personau eraillLL+C

8(1)Effaith debygol y gorchymyn neu’r penderfyniad ar—

(a)deiliaid contractau a meddianwyr y caniateir iddynt feddiannu anheddau eraill y landlord,

(b)personau sydd wedi gofyn i’r landlord ddarparu llety tai iddynt, ac

(c)personau sy’n byw, yn ymweld neu fel arall yn ymgymryd â gweithgaredd cyfreithlon yn yr ardal (a phersonau sy’n dymuno byw, ymweld neu ymgymryd â gweithgareddau cyfreithlon yn yr ardal).

(2)Os gwneir hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract), effaith debygol yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 10 ar y personau a grybwyllir yn is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 10 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Contract meddiannaeth newydd wedi ei gynnigLL+C

9Pa un a yw’r landlord wedi cynnig neu’n ymrwymo i gynnig contract meddiannaeth newydd (boed ar gyfer yr un annedd neu anheddau eraill) i un neu ragor o’r personau sy’n meddiannu’r annedd neu’n byw yn yr annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 10 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Amgylchiadau mewn perthynas â hawliad meddiant ar sail tor contractLL+C

10Os gwneir hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract)—

(a)natur, amlder neu hyd y tor contract neu’r toriadau contract,

(b)y graddau y mae deiliad y contract (neu feddiannydd y caniateir iddo feddiannu’r annedd) yn gyfrifol am y toriad,

(c)pa mor debygol yw hi y bydd y toriad yn ailddigwydd, a

(d)unrhyw gamau i ddod â’r toriad i ben, neu i’w atal rhag ailddigwydd, a gymerwyd gan y landlord cyn gwneud hawliad meddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 10 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Amgylchiadau mewn perthynas â hawliad meddiant yn ymwneud ag adran 55LL+C

11Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall), budd y cyhoedd yn gyffredinol mewn atal yr ymddygiad y mae’r adran honno yn ei wahardd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 10 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Amgylchiadau yn ymwneud â Sail G o’r seiliau rheoli ystadLL+C

12Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar Sail G o’r seiliau rheoli ystad (olynydd wrth gefn heb fod angen llety)—

(a)oedran deiliad y contract a olynodd i’r contract meddiannaeth o dan adran 73,

(b)y cyfnod y mae deiliad y contract wedi meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref, ac

(c)unrhyw gymorth ariannol neu gymorth arall a roddodd deiliad y contract i’r deiliad contract a fu farw (neu, os oedd y deiliad contract a fu farw yn olynydd i ddeiliad contract blaenorol, i’r deiliad contract blaenorol hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 10 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Amgylchiadau yn ymwneud â Sail H o’r seiliau rheoli ystadLL+C

13Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar Sail H o’r seiliau rheoli ystad (cyd-ddeiliad contract yn ymadael)—

(a)oedran y deiliad contract sy’n weddill (neu bob un o’r deiliaid contract sy’n weddill ), a

(b)y cyfnod y mae’r deiliad contract sy’n weddill (neu bob un o’r deiliaid contract sy’n weddill) wedi meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 10 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Cymorth mewn perthynas â digartrefedd heb fod yn berthnasolLL+C

14Nid yw’r tebygolrwydd y rhoddir cymorth i berson o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) neu Ran 7 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (digartrefedd) yn amgylchiad perthnasol (yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw y mae’r llys yn ddarostyngedig iddo).

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 10 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill