xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 12LL+CTROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Gwast ac ymddwyn fel tenantLL+C

16Nid yw adran 101 yn gymwys i gontract wedi ei drosi; felly—

(a)mae deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi yn ddarostyngedig i’r un atebolrwydd am wast mewn perthynas â’r annedd ag yr oedd yn ddarostyngedig iddo yn union cyn y diwrnod penodedig, a

(b)mae’r rheol gyfreithiol sy’n golygu bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio mangre sydd ar les yn gymwys i ddeiliad contract o dan gontract wedi ei drosi fel yr oedd yn gymwys iddo yn union cyn y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 12 para. 16 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2