Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

13(1)Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond sy’n ymwneud â llety â chymorth (gweler adran 143), yn gontract meddiannaeth os yw’r landlord yn bwriadu nad yw’r llety a ddarperir o dan y denantiaeth neu’r drwydded i fod yn ddarostyngedig i gontract meddiannaeth.LL+C

(2)Ond os yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol, mae’n dod yn gontract meddiannaeth yn union ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Y cyfnod perthnasol (yn ddarostyngedig i baragraff 14) yw—

(a)y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded, neu

(b)os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded ac sy’n dod i ben â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.

(4)Dyddiad meddiannu tenantiaeth neu drwydded sy’n dod yn gontract meddiannaeth o dan is-baragraff (2) yw’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(5)At ddibenion y Rhan hon, dyddiad dechrau tenantiaeth neu drwydded yw’r diwrnod y mae gan y tenant neu’r trwyddedai hawl o dan y denantiaeth neu’r drwydded i feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth neu’r drwydded am y tro cyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2