Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

(a gyflwynir gan adran 46)

ATODLEN 5LL+CCYNLLUNIAU BLAENDAL: DARPARIAETH BELLACH

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Cynlluniau blaendalLL+C

1(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod un neu ragor o gynlluniau blaendal ar gael.

(2)Ystyr “cynllun blaendal” yw cynllun at ddiben—

(a)diogelu blaendaliadau a delir mewn cysylltiad â chontractau meddiannaeth, a

(b)hwyluso’r broses o ddatrys anghydfodau sy’n codi mewn cysylltiad â blaendaliadau o’r fath.

(3)Ystyr “trefniadau” yw trefniadau gydag unrhyw berson (“gweinyddwr y cynllun”) y mae gweinyddwr y cynllun yn ymrwymo i sefydlu a chynnal cynllun blaendal o ddisgrifiad a bennir yn y trefniadau oddi tanynt.

(4)Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i weinyddwr y cynllun roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, ac unrhyw gyfleusterau ar gyfer cael gwybodaeth, a all fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi cymorth ariannol i weinyddwr y cynllun;

(b)gwneud taliadau eraill i weinyddwr y cynllun yn unol â’r trefniadau;

(c)rhoi gwarant mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth ariannol a ddaw i ran gweinyddwr y cynllun mewn cysylltiad â’r trefniadau.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n rhoi pwerau ac yn gosod dyletswyddau ar weinyddwyr cynlluniau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 5 para. 1(6) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

Yn ddilys o 01/12/2022

Cynlluniau blaendal awdurdodedig: dwyn achosion pan na fo’r contract meddiannaeth wedi dod i benLL+C

2(1)Pan fo blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth nad yw wedi dod i ben, caiff deiliad y contract (neu unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran) wneud cais i’r llys sirol ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a ganlyn.

(2)Y sail gyntaf yw nad yw’r landlord wedi cydymffurfio ag adran 45(2)(a) (gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig).

(3)Yr ail sail yw nad yw’r landlord wedi cydymffurfio ag adran 45(2)(b) (darparu gwybodaeth ofynnol).

(4)Y drydedd sail yw—

(a)bod yr ymgeisydd wedi cael ei hysbysu gan y landlord bod cynllun blaendal awdurdodedig penodol yn gymwys i’r blaendal, ond

(b)nad yw’r ymgeisydd wedi gallu cael cadarnhad oddi wrth weinyddwr y cynllun bod y blaendal yn cael ei ddal yn unol â’r cynllun.

(5)Rhaid i’r llys sirol weithredu fel a ganlyn—

(a)yn achos cais ar y sail gyntaf neu’r ail sail, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, neu

(b)yn achos cais ar y drydedd sail, os nad yw’n fodlon bod y blaendal yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.

(6)Rhaid i’r llys sirol naill ai—

(a)gorchymyn i’r person yr ymddengys ei fod yn dal y blaendal ad-dalu’r blaendal i’r ymgeisydd cyn diwedd y cyfnod perthnasol, neu

(b)gorchymyn i’r person yr ymddengys ei fod yn dal y blaendal dalu’r blaendal, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, i weinyddwr cynllun blaendal gwarchodol (os oes cynllun o’r fath mewn grym yn unol â threfniadau o dan baragraff 1) i’w ddal yn unol â’r cynllun.

(7)Rhaid i’r llys sirol hefyd orchymyn i’r landlord dalu i’r ymgeisydd, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, swm o arian heb fod yn llai na swm y blaendal a heb fod yn fwy na thair gwaith swm y blaendal.

(8)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad y gorchymyn.

(9)At ddibenion y paragraff hwn, cynllun blaendal gwarchodol yw cynllun blaendal (o fewn ystyr paragraff 1(2)) y telir blaendaliadau oddi tano gan y landlord i weinyddwr y cynllun ac y caiff y blaendaliadau eu dal oddi tano gan weinyddwr y cynllun, yn unol â’r cynllun, hyd nes y daw’n bryd eu talu i’r landlord neu i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ran deiliad y contract).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 5 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Yn ddilys o 01/12/2022

Cynlluniau blaendal awdurdodedig: dwyn achosion pan fo’r contract meddiannaeth wedi dod i benLL+C

3(1)Pan fo blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth sydd wedi dod i ben, caiff y person a oedd yn ddeiliad y contract o dan y contract (neu unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) wneud cais i’r llys sirol ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a ganlyn.

(2)Y sail gyntaf yw nad yw’r landlord wedi cydymffurfio ag adran 45(2)(a) (gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig).

(3)Yr ail sail yw nad yw’r landlord wedi cydymffurfio ag adran 45(2)(b) (darparu gwybodaeth ofynnol).

(4)Y drydedd sail yw—

(a)bod yr ymgeisydd wedi cael ei hysbysu gan y landlord bod cynllun blaendal awdurdodedig penodol yn gymwys i’r blaendal, ond

(b)nad yw’r landlord wedi gallu cael cadarnhad oddi wrth weinyddwr y cynllun bod y blaendal yn cael ei ddal yn unol â’r cynllun.

(5)Os—

(a)yn achos cais ar y sail gyntaf neu’r ail sail, yw’r llys sirol wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, neu

(b)yn achos cais ar y drydedd sail, nad yw’r llys sirol wedi ei fodloni bod y blaendal yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig,

caiff y llys sirol orchymyn i’r person yr ymddengys ei fod yn dal y blaendal ad-dalu’r blaendal i gyd, neu ran ohono, i’r ymgeisydd cyn diwedd y cyfnod perthnasol.

(6)Os yw is-baragraff (5)(a) neu (b) yn gymwys, rhaid i’r llys sirol (pa un a yw’n gwneud gorchymyn o dan yr is-baragraff hwnnw ai peidio) orchymyn i’r landlord dalu i’r ymgeisydd, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, swm o arian heb fod yn llai na swm y blaendal a heb fod yn fwy na thair gwaith swm y blaendal.

(7)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 5 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Yn ddilys o 01/12/2022

Defnyddio blaendal sy’n bodoli eisoes mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth wedi ei adnewyddu, neu mewn cysylltiad â math arall o gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle’r contract gwreiddiolLL+C

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo deiliad contract wedi talu blaendal mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth (“y contract gwreiddiol”),

(b)pan fo’r landlord, mewn perthynas â’r blaendal—

(i)wedi ei drafod yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig,

(ii)wedi cydymffurfio â gofynion cychwynnol y cynllun, a

(iii)wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b),

(c)pan fo contract meddiannaeth yn cymryd lle’r contract gwreiddiol, a

(d)pan fo’r blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract gwreiddiol yn parhau i gael ei ddal—

(i)mewn cysylltiad â’r contract meddiannaeth arall, a

(ii)yn unol â’r un cynllun blaendal awdurdodedig â phan gydymffurfiwyd ddiwethaf â’r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff (b)(ii) a (iii) mewn perthynas ag ef.

(2)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—

(a)pan fo contract meddiannaeth newydd yn cymryd lle contract meddiannaeth a oedd ei hun yn gontract meddiannaeth a oedd yn cymryd lle contract meddiannaeth arall, a

(b)pan fo’r blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract gwreiddiol yn parhau i gael ei ddal—

(i)mewn cysylltiad â’r contract meddiannaeth newydd sy’n cymryd lle contract arall, a

(ii)yn unol â’r un cynllun blaendal awdurdodedig â phan gydymffurfiwyd ddiwethaf â’r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b)(ii) a (iii) mewn perthynas ag ef.

(3)Mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofynion yn adran 45 mewn perthynas â’r blaendal sy’n cael ei ddal mewn cysylltiad â’r contract meddiannaeth arall.

(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae contract meddianaeth yn cymryd lle contract meddiannaeth arall—

(a)os yw dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd y contract meddiannaeth blaenorol,

(b)os yw’r landlord a deiliad y contract o dan y contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yr un fath ag o dan y contract blaenorol, ac

(c)os yw’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Yn ddilys o 01/12/2022

Pŵer i ddiwygio’r AtodlenLL+C

5Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 5 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)