xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 9LL+CCONTRACTAU SAFONOL NAD YW’R CYFYNGIADAU YN ADRANNAU 175 F1... A 196 [F2(PRYD Y CANIATEIR RHOI HYSBYSIAD Y LANDLORD)] YN GYMWYS IDDYNT

Diwygiadau Testunol

Llety dros dro: llety yn ystod gwaithLL+C

12(1)Contract safonol—

(a)pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,

(b)pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac

(c)pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.

(2)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 9 para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2