xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 7 Pnd. 3: rhoddir pŵer i ddiwygio (1.9.2019) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (anaw 2), a. 30(2), Atod. 1 para. 11 (ynghyd ag a. 29); O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)
(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—
(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu
(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd.
(2)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.
(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 136 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2