Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

138Cyd-ddeiliad contract yn tynnu’n ôl gan ddefnyddio cymal terfynu deiliad contractLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn cynnwys cymal terfynu deiliad contract, caiff ddarparu, os oes cyd-ddeiliaid contract, bod hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) ohonynt sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan y cymal terfynu i’w drin fel hysbysiad fod y cyd-ddeiliad hwnnw i’r contract (neu’r cyd-ddeiliaid hynny i’r contract) yn bwriadu tynnu’n ôl o’r contract (“hysbysiad tynnu’n ôl”).

(2)Os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo hefyd wneud darpariaeth sy’n cyfateb i is-adrannau (4) a (5) o adrannau 111 a 130.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 138 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2