Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

140Trosglwyddiadau a orfodirLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu y caiff un cyd-ddeiliad contract neu ragor ohonynt (os oes rhai) ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill ymuno mewn trosglwyddiad o’r contract yn unol â’r contract.

(2)Os yw’r contract yn cynnwys darpariaeth o’r fath, caiff y cyd-ddeiliad neu’r cyd-ddeiliaid contract sy’n dymuno trosglwyddo’r contract meddiannaeth wneud cais i’r llys am orchymyn fod y cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill yn ymuno yn y trosglwyddiad.

(3)Caiff y llys wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano os yw o’r farn bod hynny’n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 140 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2