xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CCONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

143Contract safonol â chymorth a llety â chymorthLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol â chymorth” yw contract safonol sy’n perthyn i lety â chymorth.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon mae llety yn “llety â chymorth”—

(a)os yw’n cael ei ddarparu gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,

(b)os yw’r landlord neu’r elusen (neu berson sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r elusen) yn darparu gwasanaethau cymorth i berson sydd â hawl i feddiannu’r llety, ac

(c)os oes cysylltiad rhwng darparu’r llety a darparu’r gwasanaethau cymorth.

(3)Nid yw llety mewn sefydliad gofal (o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 2) yn llety â chymorth.

(4)Mae “gwasanaethau cymorth” yn cynnwys—

(a)cymorth i reoli neu oresgyn dibyniaeth,

(b)cymorth i ddod o hyd i gyflogaeth neu lety arall, ac

(c)rhoi cymorth i rywun sy’n ei chael hi’n anodd byw yn annibynnol oherwydd oed, afiechyd, anabledd neu unrhyw reswm arall.

(5)Mae “cymorth” yn cynnwys darparu cyngor, hyfforddiant, arweiniad a chwnsela.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 143 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 143 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2