Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

44Ffurf sicrwydd: dwyn achosion gerbron y llys sirolLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn berthnasol—

(a)os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn ei gwneud yn ofynnol i sicrwydd gael ei roi ar ffurf nad yw’n cael ei chaniatáu gan adran 43, a

(b)os yw sicrwydd yn cael ei roi ar y ffurf honno.

(2)Caiff deiliad y contract (neu unrhyw berson sydd wedi rhoi’r sicrwydd ar ei ran) wneud cais i’r llys sirol am orchymyn o dan is-adran (3).

(3)Gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person yr ymddengys ei fod yn dal yr eiddo sy’n ffurfio’r sicrwydd ei ddychwelyd yw gorchymyn o dan yr is-adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 44 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2