Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

74Personau sy’n gymwys i olynuLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae person yn gymwys i olynu deiliad y contract os yw’r person hwnnw—

(a)yn olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract neu’n olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract, a

(b)heb ei eithrio gan is-adran (3) na (4).

(2)Ond os oedd deiliad y contract yn olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract meddiannaeth, nid oes unrhyw berson yn gymwys i’w olynu.

(3)Mae person wedi ei eithrio os nad yw wedi cyrraedd 18 oed ar adeg marwolaeth deiliad y contract.

(4)Mae person wedi ei eithrio os oedd, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â marwolaeth deiliad y contract, yn meddiannu’r annedd neu ran ohoni o dan gontract isfeddiannaeth.

(5)Nid yw person wedi ei eithrio gan is-adran (4)—

(a)os yw’n olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract, neu’n olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract sy’n bodloni’r amod aelod o’r teulu yn adran 76(2) oherwydd adran 250(1)(a) neu (b) (priod, partner sifil etc.), a

(b)os daeth y contract isfeddiannaeth yr oedd yn meddiannu’r annedd neu ran ohoni oddi tano i ben cyn marwolaeth deiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 74 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2