Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Rheoleiddio Ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 24 Tachwedd 2015 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016. Fe’u lluniwyd gan Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf.

2.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Pan nad oes angen esboniad neu sylw ar adran unigol o’r Ddeddf, nis rhoddir.

Cefndir Polisi

3.Nododd Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2011, gyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru tuag at newid y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn llwyr. Prif nodau’r ddogfen honno oedd –

  • Darparu gwell gwasanaethau cymdeithasol drwy roi llais llawer cryfach i ddefnyddwyr a gofalwyr ynghyd â mwy o reolaeth dros y gwasanaethau y maent yn eu cael.

  • Sicrhau bod pobl yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt i fyw bywyd llawn.

4.Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth a wnaed i gyflawni’r nodau hyn. Mae Deddf 2014 yn rhoi yn lle’r fframwaith deddfwriaethol blaenorol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol i oedolion a phlant system gynhwysfawr newydd sy’n rhoi llesiant y rheini sy’n cael gofal a chymorth wrth wraidd y system reoleiddiol.

5.Roedd y newidiadau a gyflwynwyd fel rhan o Ddeddf 2014 yn golygu bod angen ailwampio’r system reoleiddio yng Nghymru yn llwyr mewn cysylltiad â gofal cymdeithasol. Felly, mae nodau’r Ddeddf hon wedi eu cysylltu â’r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf 2014. Y nodau yw –

  • Rhoi’r dinesydd wrth wraidd y system.

  • Creu system sy’n deall effaith gwasanaethau ar fywydau pobl.

  • Sicrhau bod darparwyr gwasanaethau yn briodol atebol.

  • Gwella rhannu gwybodaeth a chydweithredu.

  • Deall y dyfodol yn well ac osgoi methiannau annisgwyl.

  • Cefnogi datblygiad y gweithlu gorau posibl.

  • Darparu system reoleiddio ar gyfer darparwyr gwasanaethau a’r gweithlu sy’n gadarn ac yn dryloyw.

  • Lleihau cymhlethdod y gyfraith a darparu hyblygrwydd ar gyfer y dyfodol.

6.Yn gryno, mae Deddf 2014 yn nodi’r system ar gyfer darparu gofal cymdeithasol ac mae’r Ddeddf hon yn nodi’r system ar gyfer rheoleiddio ac arolygu’r ddarpariaeth honno.

7.Mae nifer o ymchwiliadau ac adolygiadau sy’n ymwneud â darparu gofal cymdeithasol wedi eu cynnal yn y blynyddoedd cyn pasio’r Ddeddf hon ac sydd o’r herwydd wedi dylanwadu ar gynnwys y Ddeddf ei hun. Yr adolygiadau a’r ymchwiliadau perthnasol yw—

  • Yr ymateb i Southern Cross, pan gaewyd nifer fawr o gartrefi gofal ar rybudd byr iawn oherwydd penderfyniad y darparwr i orffen darparu gwasanaethau,

  • Yr ymateb i Winterbourne View a oedd yn ymwneud â’r troseddau o gam-drin ac esgeuluso oedolion hyglwyf yn Lloegr https://www.gov.uk/government/publications/winterbourne-view-hospital-department-of-health-review-and-response;

  • Adroddiad Robert Francis C.F. i Ymchwiliad Cyhoeddus Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolbarth Swydd Stafford (Ymchwiliad Francis - Report of the Mid Staffordshire NHS Foundation Trust Public Inquiry https://www.gov.uk/government/publications/report-of-the-mid-staffordshire-nhs-foundation-trust-public-inquiry); ac

  • Adroddiad Margaret Flynn a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar yr achosion o esgeuluso preswylwyr mewn nifer o gartrefi gofal yn Ne-ddwyrain Cymru yr ymchwiliwyd iddynt gan Heddlu Gwent fel Ymgyrch Jasmine (In Search of Accountability- A review of the neglect of older people in care homes investigated as Operation Jasmine gan Margaret Flynn (Saesneg yn unig) http://gov.wales/topics/health/publications/socialcare/reports/accountability/?lang=cy).

Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf

8.Mae’r Ddeddf wedi ei rhannu’n 11 o Rannau a 3 Atodlen–

  • Rhan 1 – Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol

  • Rhan 2 – Trosolwg o Rannau 3 i 8 a’u Dehongli

  • Rhan 3 – Gofal Cymdeithasol Cymru

  • Rhan 4 – Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

  • Rhan 5 – Gweithwyr Gofal Cymdeithasol: Safonau ymddygiad, addysg etc.

  • Rhan 6 – Gweithwyr Gofal Cymdeithasol: Addasrwydd i ymarfer

  • Rhan 7 – Gorchmynion sy’n gwahardd gwaith mewn gofal cymdeithasol: Personau anghofrestredig

  • Rhan 8 – Gofal Cymdeithasol Cymru: Dyletswydd i sefydlu paneli etc.

  • Rhan 9 – Cydweithredu a chydweithio gan y cyrff rheoleiddiol etc.

  • Rhan 10 – Amrywiol a chyffredinol

  • Rhan 11 – Darpariaethau terfynol

9.Mae’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”). Mae Rhan 1 yn nodi’r prosesau rheoleiddio sy’n gymwys i berson sy’n gwneud cais i ddarparu gwasanaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n cael ei reoleiddio o dan y Ddeddf, ac yna’n darparu’r gwasanaeth hwnnw. Mae hefyd yn darparu manylion mewn cysylltiad â rheoleiddio swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac yn sefydlu’r prosesau newydd i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru wneud asesiad o’r farchnad gofal a chymorth.

10.Mae Rhan 3 yn ailenwi Cyngor Gofal Cymru yn Gofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”). GCC yw’r corff sy’n rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Rhan hon yn rhoi’r pŵer i GCC i roi cyngor a chynhorthwy ac i gynnal astudiaethau at ddibenion gwella safonau’r gofal cymdeithasol a ddarperir yng Nghymru.

11.Mae Rhannau 4 - 8 yn disodli’r darpariaethau perthnasol yn Neddf 2000 sy’n ymwneud â chofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol, rheolau ynghylch addasrwydd gweithwyr o’r fath i ymarfer etc. Cyn hyn, roedd llawer o’r rheolau manwl yn y maes hwn i’w gweld mewn rheolau a wnaed gan Gyngor Gofal Cymru drwy ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf 2000. Mae llawer o’r manylder hwnnw bellach yn y Ddeddf ei hun; mae pwerau GCC i wneud rheolau o dan y Ddeddf yn ymwneud yn bennaf â materion gweithdrefnol. Mae’r Rhannau hyn wedi eu llywio hefyd gan adroddiad diweddar Comisiwn y Gyfraith ar reoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol - http://www.lawcom.gov.uk/wp-content/uploads/2015/03/lc345_regulation_of_healthcare_professionals.pdf.

12.Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaeth ynghylch rhannu gwybodaeth a chydweithio rhwng Gweinidogion Cymru fel rheoleiddiwr gwasanaethau gofal cymdeithasol, GCC a chyrff perthnasol eraill.

13.Mae Rhan 10 yn manylu ar bwerau Gweinidogion Cymru i gychwyn ymchwiliad i unrhyw fater sy’n ymwneud â darparu gofal a chymorth. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae dogfennau i gael eu hanfon a phryd y cânt eu trin fel rhai sydd wedi eu dosbarthu at ddibenion y Ddeddf.

14.Mae Rhan 11 yn cynnwys y darpariaethau terfynol cyffredinol, gan gynnwys darpariaethau ynghylch mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf, cychwyn a dehongli.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1 – Rheoleiddio Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

Pennod 1 – Cyflwyniad
Adran 2 - Ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig”

15.Mae Rhan 1 (Penodau 1-5 a 7) o’r Ddeddf yn disodli’r system gofrestru a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2000 at ddiben rheoleiddio gofal cymdeithasol yng Nghymru. Sefydlodd Deddf 2000 system lle yr oedd sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu cofrestru. Mewn gwirionedd, roedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob lleoliad y darparwyd gwasanaeth ynddo gael ei gofrestru ar wahân. O dan y Ddeddf hon, mae cofrestru yn digwydd ar sail gwasanaeth, hynny yw, bod rhaid i ddarparwr gofrestru er mwyn darparu unrhyw wasanaeth a reoleiddir gan y Ddeddf a bydd y cofrestriad hwnnw yn cynnwys holl fanylion y lleoliadau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ynddynt (gweler Pennod 2 o’r Rhan hon).

16.Felly, mae adran 2(1) yn rhestru’r “gwasanaethau rheoleiddiedig” a fydd yn destun rheoleiddio gan Weinidogion Cymru yn unol â Rhan 1. Manylir ar ystyr pob cofnod yn y rhestr yn Atodlen 1. Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu rhestru yn Atodlen 1 yn cyfateb yn fras i’r sefydliadau a’r asiantaethau a oedd yn cael eu rheoleiddio yn unol â darpariaeth yn Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2000 ac yn ymwneud â’r mathau o wasanaethau sy’n darparu gofal a chymorth i bersonau ym maes gofal cymdeithasol. Mae cynnwys “gwasanaethau eirioli” yn adran 2(1) yn eithriad gan nad oes dim byd sy’n cyfateb i hyn yn Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2000. Mae adran 2(1)(h) yn darparu’r pŵer i ychwanegu at y rhestr o wasanaethau rheoleiddiedig drwy reoliadau.

17.Mae’n bosibl bod rhai gwasanaethau a fyddant, ar yr wyneb, yn dod o fewn y diffiniad o wasanaeth rheoleidiedig ond efallai fod rheswm da dros beidio â rheoleiddio’r gwasanaeth hwnnw drwy’r Ddeddf hon (er enghraifft, pan fo’r gweithgaredd o dan sylw eisoes yn cael ei reoleiddio drwy ffordd arall). Felly, mae is-adran (3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi nad yw gwasanaethau a fyddai’n dod o fewn y rhestr yn is-adran (1) fel arall i’w trin fel gwasanaethau rheoleiddiedig. Mae adran 187(2)(a) yn pennu bod rhaid i reoliadau sy’n cael eu gwneud o dan yr adran hon gael eu gwneud drwy ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol.

Atodlen 1 – Gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau

18.Mae’r diffiniad o wasanaeth cartref gofal ym mharagraff 1 yn cwmpasu cartrefi plant a chartrefi i oedolion. Nid yw ysbytai nac ysgolion wedi eu cynnwys gan eu bod yn cael eu rheoleiddio drwy’r system iechyd a’r system addysg yn y drefn honno (er ei bod yn bosibl i ysgolion penodol gael eu rheoleiddio hefyd fel cartref plant gan ddibynnu ar nifer y dyddiau o fewn cyfnod penodol y darperir llety ynghyd â nyrsio neu ofal i blant yn yr ysgol; gweler is-baragraff (3)). Mae’r eithriadau eraill yn is-baragraff (2) oll i’w trin fel mathau gwahanol o wasanaethau rheoleiddiedig.

19.Ym mharagraff 5, nid yw gwasanaethau maethu a ddarperir gan awdurdodau lleol wedi eu cynnwys gan fod gwasanaethau awdurdodau lleol i’w rheoleiddio o dan adran 94A o Ddeddf 2014 sy’n cael ei mewnosod gan adran 58 o’r Ddeddf hon.

20.Mae paragraff 7 yn darparu diffiniad o wasanaeth eirioli. Bydd rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynghylch y gwasanaethau sydd i’w rheoleiddio o dan y Ddeddf hon. Mae cyfreithwyr sy’n gweithredu felly yn rhinwedd eu swydd wedi eu heithrio rhag cael eu rhagnodi o dan y rheoliadau hynny yn unol â pharagraff (4).

21.Mae paragraff 8(2) yn nodi eithriadau i’r hyn a ystyrir yn wasanaeth cymorth cartref. Os darperir y gofal a’r cymorth gan berson (perthynas, ffrind neu gymydog o bosibl) nad yw ond yn darparu gofal a chymorth ar sail bersonol (h.y. nid yw’n rhan o fusnes neu wasanaeth ffurfiol) yna nid yw’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth yn cael ei rheoleiddio o dan y Ddeddf. Mae paragraff 8(3) yn darparu eithriad pellach fel na fydd y rheini nad ydynt ond yn cyflwyno person i unigolyn y mae’n ofynnol iddo gael cymorth cartref yn gymwys i’w rheoleiddio o dan y Ddeddf. Yr agwedd allweddol ar yr eithriad yma yw bod diffyg rôl barhaus mewn perthynas â chyfarwyddo neu reoli’r ddarpariaeth o ofal a chymorth.

Adran 3 - Termau allweddol eraill

22.Mae’r adran hon yn diffinio nifer o dermau pwysig sy’n cael eu defnyddio yn y Rhan hon o’r Ddeddf, gan gynnwys y termau “gofal” a “cymorth”. Mae hwn yn ddull gwahanol i’r dull a welir yn Neddf 2014 pan na ddiffinnir y termau hynny fel bod y rhwymedigaethau i asesu anghenion person a darparu ar eu cyfer yn ystyried yr ystod ehangaf bosibl o ofal a chymorth y gall fod eu hangen ar berson. Yn gyferbyniol, mae’r Ddeddf hon yn gosod cyfundrefn reoleiddiol ar bersonau sy’n darparu gwasanaeth sy’n gyfystyr â darparu gofal a chymorth. Felly, mae’n bwysig bod peth sicrwydd ynghylch ystyr gofal a chymorth fel bod darparwr gwasanaeth yn ymwybodol ei fod yn darparu gwasanaeth sydd i’w reoleiddio. Yn ogystal, mae’n golygu bod unrhyw wasanaethau yn y dyfodol y caniateir iddynt gael eu rhagnodi yn unol â’r pŵer yn adran 2(1)(h) yn gyfyngedig i’r rheini sy’n darparu gofal a chymorth fel y’u diffinnir gan yr adran hon. Ni fwriedir i’r diffiniad o “gofal” ddiffinio sut y mae gofal yn cael ei ddarparu neu ei asesu. Mae adran 27(2) yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i reoliadau a wneir o dan is-adran (1) gynnwys gofynion ynghylch safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth eu darparu. Caiff ansawdd y gofal ei asesu drwy gyfeirio at y gofynion rheoleiddiol hyn, a hynny gan gyfeirio at ganlyniadau llesiant (gweler adran 27(3)).

23.Efallai y bydd gweithgareddau sy’n dod o fewn y diffiniadau o ofal a chymorth y mae angen iddynt gael eu heithrio fel nad yw gwneud y gweithgareddau hynny yn gyfystyr â chynnal gwasanaeth rheoleiddiedig o dan y Ddeddf ac fel bod gan bersonau sy’n ymwneud â’r pethau hynny sicrwydd bod hynny’n wir. Mae adran 3(3) felly yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau i nodi’r pethau nad ydynt i’w hystyried yn “gofal” a “cymorth” (er enghraifft, gofal a ddarperir gan aelod o’r teulu mewn cyd-destun a allai fel arall arwain at drin y ddarpariaeth honno fel un o’r gwasanaethau rheoleiddiedig a restrir yn Atodlen 1).

Pennod 2 – Cofrestru etc. darparwyr gwasanaethau
Adran 5 - Gofyniad i gofrestru

24.Dyma’r rheol sylfaenol sy’n sail i’r broses o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth. Rhaid i unrhyw berson sy’n darparu un o’r gwasanaethau rheoleiddiedig a restrir yn adran 2(1) fod wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru. Mae darparu un o’r gwasanaethau hynny pan nad ydych wedi eich cofrestru yn drosedd ac mae modd ei chosbi â dirwy ddiderfyn neu garchar am hyd at 2 flynedd (neu’r ddau) (gweler adran 51(1)).

Adran 6 - Cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth

25.Mae adran 6 yn nodi’r broses y caiff person wneud cais i Weinidogion Cymru drwyddi i ddod yn ddarparwr gwasanaeth. Mae is-adran (1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd bennu’r “mannau hynny y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy”.

26.Bwriedir i’r ymadrodd “ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef” gwmpasu’r holl ffyrdd y gall gwasanaeth gael ei ddarparu. Bwriedir i’r ymadrodd “ynddo” gwmpasu pethau fel gwasanaeth cartref gofal pan fo’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu o fewn mangre benodol. Bwriedir i’r ymadrodd “ohono” gwmpasu’r swyddfeydd lle y mae’r rheini sy’n darparu’r gwasanaethau wedi eu lleoli o bosibl ond eu bod yn teithio oddi yno i ddarparu gwasanaeth (er enghraifft gwasanaeth maethu neu wasanaeth cymorth cartref). Gall man fel hynny hefyd fod yn fan y mae pobl yn teithio iddo o dro i dro er mwyn cael y gwasanaeth. Bwriedir i’r ymadrodd “mewn perthynas ag ef” gwmpasu’r ardaloedd daearyddol lle y mae gwasanaeth yn cael ei ddarparu, er enghraifft, yr ardal y mae darparwr gwasanaeth maethu neu wasanaeth cymorth cartref yn ei chwmpasu. Er enghraifft, caiff person wneud cais i fod yn ddarparwr gwasanaeth gofal cartref o swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda’r bwriad o ddarparu’r gwasanaeth hwnnw mewn perthynas â Bwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.

27.Mae is-adran (1)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth ddynodi unigolyn i’w gofrestru fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â phob man a bennir o dan is-adran (1)(b). Mae adran 21 yn cyfyngu ar y mathau o unigolion y gellir eu pennu, ac unwaith y’u pennir, bydd unigolion cyfrifol yn ddarostyngedig i ofynion penodol o dan reoliadau a wneir yn unol ag adran 28.

Adran 7 - Caniatáu neu wrthod cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

28.Mae adran 7 yn nodi’r camau y mae rhaid i Weinidogion Cymru eu cymryd mewn cysylltiad â chais a geir yn unol ag adran 6. Rhaid caniatáu’r cais os yw’r ymgeisydd yn cyflawni’r meini prawf yn is-adran (1). Mae is-adran (1)(a)(ii) yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i gais sy’n ymwneud â gwasanaeth cymorth cartref gynnwys yr ymgymeriad a nodir yn adran 8 (gweler y nodyn esboniadol i adran 8 am fanylion mewn perthynas a’r ymgymeriad hwn). Mae is-adran (1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd fod yn berson addas a phriodol ac mae is-adran (1)(c)(ii) yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn a ddynodir yn unigolyn cyfrifol fod yn berson addas a phriodol. Mae adran 9 yn nodi’r materion y mae rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt wrth benderfynu a yw person yn addas ac yn briodol.

29.O ran caniatáu’r cais, mae is-adran (3)(a)(i) yn pennu bod rhaid iddo fod yn ddarostyngedig i amod sy’n pennu’r mannau y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu “ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy”. Mae hyn yn cwmpasu achosion pan all darparwr gwasanaeth bennu bwriad i ddarparu mwy nag un gwasanaeth mewn mwy nag un man, ohono neu mewn perthynas ag ef. Mae gosod yr amod hwn yn ei gwneud yn glir mai dim ond yn y mannau hynny a bennir gan Weinidogion Cymru yn yr amod hwn, ohonynt neu mewn perthynas â hwy, y mae modd darparu gwasanaeth.

30.Mewn geiriau eraill, wrth ddyfarnu ar y cais hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu agwedd benodol ar y cais gan wrthod agweddau eraill. Er enghraifft, caiff darparwr wneud cais i ddarparu gwasanaeth cartref gofal a gwasanaeth cymorth cartref. Wrth ddyfarnu ar y cais efallai y bydd Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r darparwr yn gallu bodloni’r gofynion rheoleiddiol yn unol ag adran 27 mewn cysylltiad â’r gwasanaeth cymorth cartref ac felly dim ond y cais i ddarparu gwasanaeth cartref gofal y byddant yn ei ganiatáu gan wrthod y cais mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth gofal cartref.

31.Os yw darparwr yn bodloni’r gofynion mewn cysylltiad â’r ddau fath o wasanaeth rhaid i Weinidogion Cymru nodi’r rheini fel amod cofrestru. Ni ellir cofrestru darparwyr i ddarparu unrhyw wasanaeth rheoleiddiedig mewn unrhyw fan, ohono neu mewn perthynas ag ef a rhaid pennu’r mannau a’r gwasanaethau fel amod i’r cofrestriad. Rhaid i unrhyw wasanaeth neu fan ychwanegol y mae’n bosibl y bydd y darparwr yn ceisio ei ychwanegu yn y dyfodol gael ei ychwanegu at gofrestriad y person hwnnw. Mae darparwr yn gwneud hyn drwy wneud cais i amrywio ei gofrestriad (gweler adran 11).

32.Fel gyda’r amod am fannau, gallai Gweinidogion Cymru fod wedi eu bodloni ynghylch yr unigolyn a ddynodir fel yr unigolyn cyfrifol mewn perthynas â rhai o’r mannau ond nid mewn cysylltiad â mannau eraill. Bwriad cofrestru’r darparwr gwasanaeth yw caniatáu i unigolyn fod yn unigolyn cyfrifol mewn perthynas â mannau a bennir ar dystysgrif gofrestru’r darparwr hwnnw yn unig. Mae is-adran 3(a)(ii) yn pennu bod rhaid i achos o ganiatáu cais gan Weinidogion Cymru fod yn ddarostyngedig i amod sy’n pennu’r unigolyn cyfrifol ar gyfer yr holl fannau hynny y mae gwasanaeth yn cael ei ddarparu ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy. Rhaid ychwanegu unigolyn cyfrifol newydd neu wneud unigolyn cyfrifol sydd eisoes yn unigolyn cyfrifol yn gyfrifol am fan ychwanegol drwy wneud cais i’r cofrestriad gael ei amrywio o dan adran 11.

33.Yn ychwanegol at yr amodau mandadol ynghylch mannau ac unigolion cyfrifol, gall Gweinidogion Cymru osod amodau eraill ar gofrestriad. Mae’r mathau o amodau y gellid eu gosod o dan is-adran (3)(b) yn cynnwys gosod cyfyngiad ar nifer y preswylwyr sydd mewn gwasanaeth cartref gofal neu gyfyngiad ar oedran y preswylwyr hynny, gofyniad am gyfyngiadau priodol ar staffio, megis gofyniad am nifer penodol o staff nyrsio, neu yn achos gwasanaeth cymorth cartref, cyfyngu ar dderbyn unrhyw becynnau gofal newydd.

Adran 8 - Hyd ymweliadau cymorth cartref

34.Mae adran 8 yn nodi manylion yr ymgymeriad y mae rhaid i berson sy’n ceisio ymgeisio i ddod yn ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref ei roi pa un ai hyn yw’r gwasanaeth cyntaf a’r unig wasanaeth y mae’n yn ymgeisio i’w ddarparu neu’n wasanaeth dilynol y mae’n ceisio ei ddarparu yn rhinwedd cais i amrywio ei gofrestriad cychwynnol.

35.Mae is-adran (1) yn nodi’r ymgymeriad sylfaenol na fydd gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu drwy ymweliad sy’n fyrrach na 30 munud oni bai bod unrhyw un neu ragor o amodau A, B ac C (fel y’u nodir yn is-adrannau (3), (5) a (7)) yn gymwys. Mae’r amodau hynny yn darparu eithriadau i gymhwyso’r ymgymeriad.

36.Mae is-adran (2) yn sicrhau nad yw Amod A ond yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn darparu cymorth cartref yn uniongyrchol i berson neu fod yr awdurdod yn comisiynu darparwr cofrestredig i’w ddarparu oherwydd dyletswydd yr awdurdod lleol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth person (neu ddyletswydd yr awdurdod i ddiwallu anghenion gofalwr person, er enghraifft, pan fo’r awdurdod yn darparu cymorth cartref er mwyn darparu seibiant ar gyfer gofalwr). Nid yw Amod A yn gymwys i drefniadau preifat rhwng person a darparwr gwasanaeth pan fo’r person yn talu’r darparwr yn uniongyrchol.

37.Mae is-adran (3) yn nodi Amod A. Effaith y ddarpariaeth hon yw na fydd yr ymgymeriad yn cael ei dorri os yw’r ymweliad cyntaf o fewn cyfnod cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth o leiaf 30 munud (oni bai bod Amod C yn gymwys) a bod yr ymweliad cyntaf gan bob gweithiwr cymorth newydd o fewn yr un cyfnod o leiaf 30 munud. Nid yw hyn yn golygu y gall yr ail ymweliad a’r ymweliadau dilynol fod yn llai na 30 munud - byddent yn gorfod bodloni’r meini prawf a nodir yn is-baragraff (b) o hyd cyn y caniateid iddynt fod yn fyrrach. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gael cynlluniau gofal a chymorth yn eu lle ar gyfer personau y maent yn ystyried bod anghenion gofal a chymorth arnynt (a chynlluniau cymorth ar gyfer gofalwyr y maent yn ystyried bod anghenion arnynt) yn rhinwedd adran 54 o Ddeddf 2014.

38.Bwriedir i is-baragraff (b)(ii) sicrhau bod tasgau sy’n cael eu cyflawni yn ystod ymweliad yn cyrraedd y safonau ansawdd a fydd yn cael eu nodi mewn rheoliadau o dan adran 27. Mae hyn yn sicrhau na all ymweliad fod yn fyr am fod y tasgau gofynnol wedi eu cyflawni i safon is na’r disgwyl.

39.Mae is-adran (4) yn golygu fod Amod B yn gymwys i achosion pan fo’r person sy’n cael y cymorth cartref wedi gwneud trefniadau’n uniongyrchol gyda’r darparwr. Nid oes gwahaniaeth pa un a yw person yn talu’n breifat neu’n talu drwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol a wneir iddo gan awdurdod lleol o dan adrannau 50 neu 51 o Ddeddf 2014.

40.Mae is-adran (5) yn nodi Amod B. Mae is-baragraff (a) yn golygu na fydd yr ymgymeriad yn cael ei dorri os rhywbeth y cytunwyd arno rhwng y person a’r darparwr yw’r ymweliad byrrach. Mae is-baragraffau (b) ac (c) yn union yr un fath â’r rheini yn Amod A.

41.Mae is-adran (6) yn golygu bod Amod C yn gymwys ym mhob achos pan fo ymweliad gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu.

42.Mae is-adran (7) yn nodi Amod C. Mae hyn yn golygu na fydd yr ymgymeriad yn cael ei dorri o dan amgylchiadau pan fo’r person yr ymwelir ag ef yn gofyn i’r ymweliad ddod i ben cyn i’r cyfnod o 30 munud ddirwyn i ben

Adran 9 – Person addas a phriodol: ystyriaethau perthnasol

43.Wrth wneud penderfyniad o ran a yw person sy’n gwneud cais i fod yn ddarparwr gwasanaeth, neu sy’n ddarparwr gwasanaeth ar hyn o bryd, yn berson addas a phriodol, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn glir y caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i’r holl faterion sy’n briodol yn eu barn hwy. Mae’r un gofyniad yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad o ran a yw person a ddynodir yn unigolyn cyfrifol, neu berson sy’n unigolyn cyfrifol ar hyn o bryd, yn berson addas a phriodol. Yn ychwanegol, mae is-adrannau (4) i (8) yn nodi’r dystiolaeth y mae rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddi wrth wneud eu penderfyniad. Mae’r dystiolaeth hon yn cynnwys cyflawni troseddau penodol a rhoi rhybuddiad. Ystyrir hefyd fod tystiolaeth o fod yn gysylltiedig neu’n gysylltiedig gynt â pherson sydd wedi gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a nodir yn is-adran (4) yn berthnasol.

44.Bydd y pwyslais y mae Gweinidogion Cymru yn ei roi ar unrhyw fater y maent yn ystyried ei fod yn berthnasol wrth wneud penderfyniad yn fater o ffaith a gradd.

45.Mae is-adran (9) yn bŵer i wneud rheoliadau er mwyn i Weinidogion Cymru amrywio’r dystiolaeth y mae rhaid iddynt roi sylw iddi o dan yr adran hon.

Adran 10 – Datganiad blynyddol

46.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth gyflwyno datganiad blynyddol yn dilyn diwedd pob blwyddyn ariannol ac mae is-adran (2) yn nodi rhestr o’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn datganiad blynyddol. Mae methu â chyflwyno datganiad blynyddol o fewn y terfyn amser rhagnodedig yn is-adran (4) yn drosedd ddiannod y gellir ei chosbi drwy ddirwy (gweler adrannau 48 a 51(2)).

Adran 11 - Cais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

47.Os yw darparwr gwasanaeth am amrywio unrhyw un neu ragor o ffiniau ei gofrestriad (ee. drwy ychwanegu gwasanaeth rheoleiddiedig newydd neu fan newydd neu newid yr unigolion cyfrifol sydd wedi eu cofrestru) rhaid iddo wneud cais i amrywio ei gofrestriad o dan yr adran hon.

48.Pŵer i wneud rheoliadau yw is-adran (2) sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru nodi terfyn amser ar gyfer gwneud cais gan y darparwr gwasanaeth i amrywio ei gofrestriad i ddynodi person newydd yn unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw neu fan y darperir y gwasanaeth ynddo. Os yw unigolyn cyfrifol yn marw neu’n peidio â gallu cyflawni’r rôl, neu os caiff dynodiad yr unigolyn ei ganslo gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 22 gan nad yw’n bodloni’r gofynion yn adran 21 mwyach, rhaid bod gan y darparwr gwasanaeth unigolyn arall i gymryd ei le neu fel arall byddai’n cyflawni trosedd o dan adran 43. Felly, mae’n rhesymol darparu ar gyfer cyfnod penodol pan allai fod bwlch wrth gofrestru unigolyn cyfrifol newydd. Bwriad y pŵer hwn i wneud rheoliadau yw darparu ar gyfer hyn a chaiff bennu terfynau amser gwahanol o dan amgylchiadau gwahanol (er enghraifft, gallai fod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth weithredu’n gyflym i ddod o hyd i unigolyn cyfrifol arall pan fo wedi bod yn glir ers peth amser fod cofrestriad yr unigolyn cyfrifol presennol yn mynd i gael ei ganslo. Wedi dweud hyn, efallai y caniateir bwlch hwy pan fo unigolyn cyfrifol yn marw’n annisgwyl).

49.Mae is-adran (3) yn nodi’r pethau y mae rhaid eu cynnwys o fewn cais i amrywio cofrestriad. Os yw’r cais hwnnw i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref, yna mae paragraff (a)(ii) yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i’r cais gynnwys yr ymgymeriad a nodir yn adran 8.

Adran 12 - Caniatáu neu wrthod cais am amrywiad

50.Mewn achos pan fo darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i amrywio neu ddileu amod a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 11(1)(b), mae is-adran (2) yn ei gwneud yn glir y gallai Gweinidogion Cymru benderfynu amrywio’r amod mewn modd sy’n wahanol i’r hyn a bennir yn y cais, neu yn wir, gallent osod amod cwbl wahanol (naill ai yn ychwanegol at yr amod a nodir yn y cais neu yn ei le). O gofio ystod eang yr amodau a allai fod yn ddarostyngedig i gais amrywio, mae gan Weinidogion Cymru felly y pŵer i gymryd pa gamau bynnag y maent yn ystyried eu bod fwyaf priodol o dan yr amgylchiadau. Fel arall, byddai Gweinidogion Cymru yn gyfyngedig i ganiatáu neu wrthod y cais ar ei delerau ac yna yn gorfod defnyddio gweithdrefn wahanol o dan adran 13 i wneud unrhyw amrywiad ychwanegol.

51.Mae is-adran (3) yn sicrhau bod rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud mewn cysylltiad â chais o dan yr adran hon ymlaen llaw i ddarparwr. Rhaid iddynt hefyd roi hysbysiad o’r penderfyniad yn y pen draw er mwyn iddo gymryd effaith (gweler adrannau 18 i 20).

Adran 13 - Amrywio heb gais

52.Hyd yn oed os nad oes cais i amrywio cofrestriad wedi ei wneud, efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud amrywiad (er enghraifft, efallai fod arolygiad o dan adran 34 wedi tynnu sylw Gweinidogion Cymru at y ffaith bod angen amrywio’r cofrestriad).

53.Mae’r adran hon yn pennu’r amgylchiadau pan fo Gweinidogion Cymru yn gallu amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth heb gael cais ganddo.

54.Mae’r gallu i amrywio cofrestriad yn caniatáu i Weinidogion Cymru ganslo gwasanaeth penodol tra bo darparwr yn parhau i allu darparu gwasanaethau eraill, neu i ganslo man y darperir gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef gan gadw cofrestriad y mannau eraill.

55.Er enghraifft, efallai fod darparwr wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal mewn dau fan, un yng Nghaerdydd a’r llall yn Abertawe. Efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yng Nghaerdydd yn cydymffurfio â’r gofynion rheoleiddiol perthnasol ac y dylid ei ganslo. O dan y gyfundrefn reoleiddiol hon, caniateir i gofrestriad y darparwr gael ei amrywio i ddileu un man lle y darperir y gwasanaeth cartref gofal (Caerdydd) oddi ar y cofrestriad gan gadw’r man arall arni (Abertawe). Mae hyn oherwydd mai dim ond unwaith y bydd darparwr yn cael ei gofrestru mewn cysylltiad â’r holl wasanaethau a ddarperir a’r holl fannau y darperir pob un o’r gwasanaethau hynny ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy.

56.Fel gydag amrywiadau o dan adran 11, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad o gynnig yn gyntaf cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol i amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth.

Adran 14 - Ceisiadau i ganslo cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

57.Mae’r adran hon yn caniatáu i geisiadau gael eu gwneud i ganslo cofrestriad ond dim ond os nad yw Gweinidogion Cymru eisoes wedi cychwyn cymryd camau i ganslo cofrestriad darparwr o dan adran 15 neu 23. Mae’r cyfyngiad hwnnw yn atal darparwr rhag mynd y tu allan i’r gweithdrefnau canslo o dan yr adrannau hynny sy’n cynnwys nodi’r seiliau dros ganslo gan Weinidogion Cymru. Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cymryd camau i ganslo cofrestriad efallai fod rhesymau pwysig er budd y cyhoedd dros nodi’r seiliau dros gymryd y camau hynny.

Adran 15 - Canslo heb gais

58.Mae adran 15 yn nodi pwerau Gweinidogion Cymru i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth yn llwyr. Gallai hyn olygu canslo sawl gwasanaeth a ddarperir mewn sawl man, ohonynt neu mewn perthynas â hwy. Gan mai pŵer yw hwn, Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu, ym mhob achos, a yw canslo yn briodol ar ba sail bynnag o’r seiliau a restrir yn is-adran (1) sy’n gymwys.

59.Mae is-adran (4) yn gwahardd Gweinidogion Cymru rhag gallu canslo cofrestriad darparwr oni chydymffurfiwyd â’r weithdrefn hysbysiad gwella yn adrannau 16 a 17 (ond nid yw’r weithdrefn honno yn gymwys i unrhyw gais brys i ganslo neu amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 23 nac i benderfyniad Gweinidogion Cymru i osod amod brys yn unol ag adran 24).

Adran 16 - Hysbysiadau gwella ac Adran 17 - hysbysiad o benderfyniad yn dilyn hysbysiad gwella

60.Mae adran 16 yn darparu ar gyfer hysbysiad o fwriad i amrywio neu ganslo ac yn rhoi cyfle i’r darparwr gywiro pethau. Yn unol ag adran 16(3)(c) bydd hysbysiad gwella yn pennu terfyn amser ar gyfer gwneud y camau a nodir yn angenrheidiol gan Weinidogion Cymru er mwyn osgoi canslo’r cofrestriad.

61.Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y camau wedi eu cymryd ar ddiwedd y terfyn amser hwnnw, gall Gweinidogion Cymru wneud un o dri pheth. Efallai y byddant yn mynd ati ar unwaith i wneud penderfyniad i ganslo neu amrywio’r cofrestriad. Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud hyn, yna rhaid iddynt ddyroddi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gan esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26. O dan amgylchiadau pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod cydymffurfedd foddhaol wedi bod ni allant barhau i ganslo a rhaid darparu hysbysiad i’r darparwr gan roi gwybod iddo am hyn.

62.Fel arall, gall fod rhai achosion pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl i’r terfyn amser ddod i ben, fod camau penodol wedi eu cymryd ond nad yw’r holl gamau wedi eu cymryd, neu fod y camau wedi eu cymryd ond nad yw Gweinidogion Cymru yn hyderus bod y darparwr wedi cydymffurfio â’r gofynion rheoleiddiol. Mae adran 17(3)(b) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i bennu dyddiad, ac ar ôl y dyddiad hwnnw, maent yn bwriadu canslo neu amrywio os nad ydynt wedi eu bodloni o hyd fod y camau a bennir yn yr hysbysiad gwella wedi eu cymryd. Ar ddiwedd y cyfnod pellach hwnnw, os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod diffyg cydymffurfedd o hyd a’u bod yn dymuno parhau i ganslo, rhaid iddynt gynnal arolygiad (is-adran (5)). Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno parhau i ganslo ar ôl cynnal yr arolygiad hwnnw, yna rhaid iddynt ddyroddi hysbysiad o benderfyniad i ganslo neu amrywio.

63.Bydd gan ddarparwr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad Gweinidogion Cymru i ganslo neu amrywio (gweler adran 26).

64.Mae’r diagram a ganlyn yn dangos y weithdrefn hysbysiad gwella:

Adran 18 - Hysbysiad o gynnig ac Adran 19 - hysbysiad o benderfyniad yn dilyn hysbysiad o gynnig

65.Cyn gwneud penderfyniadau penodol, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad sy’n rhoi gwybod i’r darparwr gwasanaeth o’r penderfyniad y maent yn bwriadu ei gymryd gan roi cyfle i’r darparwr gwasanaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod penodol o amser, a rhaid i’r cyfnod hwnnw fod yn 28 o ddiwrnodau o leiaf. Mae modd i hysbysiad o’r fath hefyd roi cyfle i’r darparwr i gywiro’r sefyllfa drwy ddarparu terfyn amser ar gyfer gwneud pethau penodol i osgoi bod y camau yn cael eu cymryd (gweler adran 18(3)).

66.Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir ac yn dilyn hynny rhaid iddynt wneud penderfyniad yn unol ag adran 19(6).

67.Mae’r diagram a ganlyn yn dangos y gweithdrefnau hysbysiad o gynnig:

Adran 21 - Unigolion cyfrifol ac Adran 22 - canslo dynodiad unigolyn cyfrifol

68.O’u cymryd gyda’i gilydd, mae adrannau 7 ac 21 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid penodi person yn unigolyn cyfrifol sydd wedi ei ddynodi gan y darparwr fel rhan o’i gofrestriad. Mae adran 21 yn pennu bod rhaid i’r unigolyn cyfrifol fodloni gofynion penodol. Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn cyfrifol fod yn rhywun mewn swydd ddigon uchel o fewn y cwmni neu’r sefydliad sy’n rhedeg y gwasanaeth.

69.Bydd rhaid i’r unigolyn cyfrifol fod yn “addas a phriodol” hefyd. Mae’r gofynion y mae rhaid i Weinidogion Cymru eu hystyried wrth wneud penderfyniad ynghylch a yw person a ddynodir yn unigolyn cyfrifol gan y darparwr gwasanaeth yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol neu a yw unigolyn cyfrifol presennol yn parhau i fod yn addas ac yn briodol wedi eu nodi yn adran 9.

70.Bydd gan yr unigolyn cyfrifol gyfrifoldebau penodol am y gwasanaeth y mae’r person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef. Nodir y dyletswyddau hynny mewn rheoliadau a wneir yn unol ag adran 28. Ar yr adeg pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwneud cais i gael ei gofrestru, bydd rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod y person a ddynodir yn unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni’r dyletswyddau hynny (gweler adran 7(1)(c)). Bydd angen i unigolyn cyfrifol allu bodloni’r gofynion a osodir gan reoliadau o dan adran 28 mewn perthynas â’r math o wasanaeth y mae’r unigolyn i gael ei gofrestru yn unigolyn cyfrifol ar ei gyfer.

71.Mae adran 21(4) yn caniatáu i’r un person fod yn unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â mwy nag un man y darperir gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Fodd bynnag, dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn gallu bod wedi eu bodloni y gall y person gyflawni ei ddyletswydd fel unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â phob man y bydd hyn yn bosibl.

72.Os nad yw unigolyn yn bodloni’r gofynion i fod yn unigolyn cyfrifol, mae adran 22 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ganslo dynodiad unigolyn cyfrifol. Rhoddir cyfle i’r unigolyn gywiro pethau yn gyntaf fel ei fod yn dangos ei fod yn addas i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 22(4)(b)).

73.Er enghraifft, caiff darparwr ddynodi'r un person i fod yn unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal yng Nghaerdydd a gwasanaeth cartref gofal ym Mangor. Engraifft o ddyletswydd y caniateir iddi gael ei gosod ar yr unigolyn cyfrifol yn y rheoliadau a wneir yn unol ag adran 28 yw gofyniad i oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth. Caiff Gweinidogion Cymru ystyried na fyddai’r un person yn gallu goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth yn y ddau fan hynny. Os nad yw’r unigolyn yn gallu gwneud hynny, ym marn Gweinidogion Cymru, yna bydd yn ofynnol i’r darparwr ddynodi unigolyn gwahanol ar gyfer y ddau fan.

74.Gan ddefnyddio’r un enghraifft, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar adeg y cofrestriad cyntaf y gallai’r un unigolyn ddangos ei fod yn gallu bodloni’r gofynion yn adran 21(1) a chofrestru’r unigolyn hwnnw yn unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â’r gwasanaeth cartref gofal yng Nghaerdydd a Bangor. Er hynny, ar ôl cofrestru, efallai y daw tystiolaeth i’r amlwg sy’n dangos, mewn gwirionedd, nad oedd yr unigolyn yn gallu gwneud hynny. Er enghraifft, efallai fod yr oruchwyliaeth o ran rheoli’r gwasanaeth cartref gofal yng Nghaerdydd yn foddhaol ond nad yw hynny’n wir am y gwasanaeth a ddarperir ym Mangor. Gallai Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 22, ganslo cofrestriad yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal Bangor, gan gadw cofrestriad yr unigolyn hwnnw fel yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal Caerdydd, ond byddai rhaid iddynt roi hysbysiad gwella i’r unigolyn er mwyn rhoi cyfle iddo i gywiro pethau cyn i Weinidogion Cymru barhau â’r canslo.

Adran 23 - Canslo neu amrywio gwasanaethau neu fannau ar frys

75.Mewn amgylchiadau mor ddifrifol fel ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd camau ar frys, mae adran 23 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i gymryd camau drwy wneud cais i’r llys ynadon i ganslo cofrestriad cyfan yn llwyr ar frys neu, fel arall, ganslo man y darperir gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Dim ond os oes perygl difrifol i fywyd person neu ei iechyd corfforol neu ei iechyd meddwl neu fod perygl i’r person hwnnw ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod y caniateir i gamau brys gael eu cymryd.

76.Un o nodau’r system gofrestru hon, a chanlyniad iddi, yw na fyddai cais i ganslo cofrestriad darparwr yn llwyr yn methu’n llwyr o dan yr amgylchiadau pan na fo’r meini prawf yn adran 23(2) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â phob man y darperir pob gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Er enghraifft, gallai Gweinidogion Cymru wneud cais i ganslo cofrestriad darparwr sy’n darparu gwasanaeth cartref gofal mewn tri man. Efallai y bydd y Llys wedi ei fodloni bod y meini prawf yn adran 23(2) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â dau o’r mannau hynny ond nid mewn cysylltiad â’r trydydd man. Mae adran 23 yn darparu’r pŵer i’r Llys i amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu dau o’r mannau yr oedd y gwasanaeth cartref gofal yn cael ei ddarparu ynddynt gan gynnal cofrestriad y gwasanaeth cartref gofal mewn cysylltiad â’r trydydd man yn hytrach na gwrthod cais Gweinidogion Cymru yn llwyr.

77.Nid yw’r weithdrefn hysbysiad gwella yn adrannau 16 a 17 yn gymwys i geisiadau brys (gweler adran 15(4)).

Adran 25 - Amrywio cofrestriad ar frys: amodau eraill

78.Mewn achos pan all bywyd, iechyd corfforol neu iechyd meddwl person fod mewn perygl neu pan fo perygl i gamdriniaeth neu esgeulustod ddigwydd, caiff Gweinidogion Cymru, o dan yr adran hon, amrywio amod cofrestriad neu osod amod newydd ar frys. Mae hyn yn ddewis arall i’r weithdrefn ganslo o dan adran 23.

79.Mae is-adran (5) yn caniatáu i Weinidogion Cymru amrywio ymhellach amod a amrywir neu a osodir o dan yr adran hon neu ei dynnu’n ôl. Er enghraifft, gallai gwybodaeth ddod i’r amlwg wedi i’r camau brys gael eu cymryd (boed hynny o ganlyniad i sylwadau gael eu cyflwyno neu fel arall).

80.Bydd gan ddarparwr gwasanaeth yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i amrywio neu osod amod ar frys cyn gynted ag y gwneir y penderfyniad. Ar apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, bydd gan y Tribiwnlys y pŵer i wneud unrhyw orchymyn interim y mae’n barnu ei fod yn briodol. Gall hyn gynnwys atal dros dro effaith y penderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru. Gall hyn fod yn briodol, er enghraifft, mewn achos pan na fo gan y Tribiwnlys y gallu i restru’r mater am wrandawiad ar unwaith. Gellid atal penderfyniad dros dro hyd nes y bydd gan y Tribiwnlys y gallu i gynnal gwrandawiad ar y mater.

Adran 26 – Apelau

81.Mae adran 26 yn darparu hawliau apelio i ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru i ganslo neu amrywio cofrestriad pa un a wneir y penderfyniad hwnnw o dan amgylchiadau brys ai peidio (caiff unigolyn cyfrifol apelio hefyd yn erbyn penderfyniad i ganslo dynodiad yr unigolyn (gweler adran 22(5) a (6)). Mae gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf bwerau eang. Darperir y pŵer i’r Tribiwnlys i gadarnhau penderfyniad gan Weinidogion Cymru, cyfarwyddo na fydd y penderfyniad yn cael effaith neu y bydd yn peidio â chael effaith os yw eisoes wedi cael effaith. Caiff y Tribiwnlys hefyd wneud gorchmynion interim neu roi ei benderfyniad ef ei hun yn lle penderfyniad arall. Drwy roi ei benderfyniad ei hun, nid oes gan y Tribiwnlys y pŵer ond i wneud rhywbeth y gallai Gweinidogion Cymru ei wneud.

Adran 27 - Rheoliadau ynghylch gwasanaethau rheoleiddiedig, Adran 28 -rheoliadau ynghylch unigolion cyfrifol ac Adran 29 - canllawiau ynghylch rheoliadau o dan adrannau 27 a 28

82.Rheoliadau a wneir yn unol ag adran 27 fydd y sail reoleiddio gan Weinidogion Cymru. Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i reoliadau a wneir o dan is-adran (1) gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid eu darparu gan ddarparwr gwasanaethau. Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r safonau hynny fod yn gysylltiedig â’r datganiad ynghylch canlyniadau llesiant a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 8 o Ddeddf 2014 a rhoi sylw i bwysigrwydd llesiant unigolion sy’n cael gofal a chymorth drwy’r gwasanaeth rheoleiddiedig o dan sylw. Caiff rheoliadau hefyd osod gofynion eraill ar ddarparwyr. Dyma rai enghreifftiau: gofyniad i gael rheolwr “addas” ynghyd â’r meini prawf ar gyfer addasrwydd y rheolwr a’r staff; gofyniad i lunio datganiad o ddiben; gofyniad i gadw cofnodion a chyfrifon a hysbysiadau o ddigwyddiadau.

83.Bydd rheoliadau a wneir yn unol ag adran 28 yn nodi’r dyletswyddau sydd i’w gosod ar yr unigolyn cyfrifol. Caiff y dyletswyddau hynny, er enghraifft, gynnwys gofyniad i benodi rheolwr priodol ac addas ac i roi gwybod am y penodiad hwnnw i ba ran bynnag o sefydliad y darparwr gwasanaeth sydd â rheolaeth gyffredinol ar y corff (h.y. bwrdd y cyfarwyddwyr neu rywbeth tebyg yn achos cwmni; y partneriaid yn achos partneriaeth neu’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn achos awdurdod lleol). Gallai’r rheoliadau hefyd ei gwneud yn ofynnol i unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli gwasanaeth. Enghreifftiau eraill o’r gofynion y gellir eu gosod drwy reoliadau o dan yr adran hon yw—

  • gofynion i wirio cywirdeb y cofnodion a gedwir,

  • gofynion i gynnal arolygiadau rheolaidd o’r mannau lle y darperir gwasanaeth,

  • gofyniad i gwblhau’r adran berthnasol o adroddiad blynyddol y darparwr gwasanaeth a lunnir yn unol ag adran 10 a llofnodi datganiad o wirionedd mewn cysylltiad â’r adran honno o’r adroddiad;

  • gofyniad i adrodd, mewn modd amserol, ar unrhyw bryderon a all fod gan yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth rheoleiddiedig i fwrdd y cyfarwyddwyr, i’r bartneriaeth neu i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

84.Yn gysylltiedig â rheoliadau o dan yr adran hon yw’r pŵer a geir yn adran 46 i wneud darpariaeth bod methu â chydymffurfio â gofyniad penodol yn y rheoliadau yn drosedd.

85.Mae adran 29 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr i ystyried y canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

Pennod 3: Adrannau 32-37 - Gwybodaeth ac arolygiadau

86.Mae adran 33 yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i gael gwybodaeth mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau fel rheoleiddiwr gwasanaethau gofal a chymorth o dan y Ddeddf hon. Mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad cyfreithiol sydd ar gael gwybodaeth o’r fath (is-adran (2)).

87.Mae adran 33(1) yn diffinio’r term “arolygiad” at ddibenion Rhan 1. Bydd arolygiad yn cynnwys dau beth: asesu ansawdd y gofal yn ogystal ag asesu trefniadaeth a chydgysylltiad y gwasanaeth.

88.Mae adran 34 yn nodi pwerau mynediad ac arolygu arolygydd. Caiff yr arolygydd arolygu unrhyw fangre y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu ei bod (neu wedi bod) yn cael ei defnyddio fel man y darperir gwasanaeth (neu y darparwyd gwasanaeth) ynddo neu ohono, megis man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal. Ond, caiff arolygydd hefyd arolygu mangre y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu ei bod (neu wedi bod) yn cael ei defnyddio mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau rheoleiddiedig. Gallai hyn fod yn swyddfeydd neu’n gyfleuster storio ar ystad ddiwydiannol lle y cedwir dogfennau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth. Gall hefyd gynnwys car a ddefnyddir mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth cymorth cartref (gweler is-adran (6)). Pan fo arolygydd am arolygu cartref person, rhaid i’r meddiannydd gydsynio i’r arolygydd fynd i mewn i’r cartref at ddiben arolygiad.

89.Mae adran 35 yn nodi pwerau’r arolygydd i gyfweld â phersonau a chynnal archwiliad meddygol ohonynt. Mae is-adran (1) yn darparu pŵer i’r arolygydd i’w gwneud yn ofynnol cyf-weld ag unrhyw un yn breifat. Gallai hyn olygu’r darparwr gwasanaeth, rheolwr neu gyflogai gwasanaeth, ond gallai hefyd gynnwys rhiant, perthynas neu ofalwr y defnyddiwr gwasanaeth os yw’n cydsynio i gael ei gyf-weld. Dim ond os yw’r arolygydd yn feddyg cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig, a dim ond os yw’r person yn cydsynio i gael archwiliad, y caiff gynnal archwiliad meddygol o ddefnyddiwr gwasanaeth (is-adran (4)). Mae is-adran (5) yn gwneud darpariaeth i drydydd partïon fod yn bresennol yn ystod cyfweliadau neu archwiliadau os yw’r person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono am i drydydd parti fod yn bresennol ac nad yw’r arolygydd yn gwrthwynebu neu os yw’r arolygydd am i drydydd parti fod yn bresennol ac nad yw’r person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn gwrthwynebu.

90.Mae adran 36 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio adroddiad arolygu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i arolygiad gael ei gynnal. Mae is-adran (2) yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Tra bo rhaid i’r adroddiad hwnnw gynnwys asesiad o ansawdd y gofal wedi ei fesur yn erbyn y safonau a nodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27(1), mae gofyniad hefyd i’r arolygydd adrodd ar effaith y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth ar lesiant defnyddwyr gwasanaeth (gweler is-baragraff (b)). Mae’n ofynnol i’r arolygydd hefyd gynnal asesiad ac adrodd ar drefniadaeth a chydgysylltiad yr holl wasanaethau a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth (gweler is-baragraff (c)).

91.Mae adran 37 yn darparu pŵer i wneud rheoliadau i alluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu system raddio mewn cysylltiad ag ansawdd y gofal a ddarperir gan wasanaethau rheoleiddiedig. Os cyflwynir system o’r fath, yna mae adran 36(2)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i’r arolygydd roi’r radd honno yn yr adroddiad arolygu y mae rhaid ei gyhoeddi. Mae adran 187(2) yn darparu bod rhaid i reoliadau a wneir o dan yr adran hon gael eu gwneud drwy ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol.

Pennod 4: Adrannau 38-42 - Swyddogaethau cyffredinol

92.Mae adran 38 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau. Mae is-adran (2) yn nodi pa wybodaeth y mae rhaid i bob cofnod ei dangos ac mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r gofrestr gael ei chyhoeddi a’i rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arni yn rhad ac am ddim. Mae is-adran (5) yn bŵer i wneud rheoliadau sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru hepgor gwybodaeth benodol o’r gofrestr o dan amgylchiadau penodol a gwrthod ceisiadau a wneir am gopïau neu rannau o’r gofrestr o dan amgylchiadau penodol. Mae’r pŵer hwn yn atgynhyrchu pŵer sydd eisoes yn bodoli yn adran 36(3) o Ddeddf 2000 a gallai gael ei ddefnyddio, er enghraifft, i gyfyngu ar gyhoeddi gwybodaeth feddygol am ddarparwyr neu fanylion am sefydliadau sy’n ymwneud â phant.

93.Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau statudol i asesu a darparu (pa un ai’n uniongyrchol neu fel arall) gofal a chymorth i’r rheini y mae angen y gwasanaethau hynny arnynt ac sy’n gymwys (gweler Deddf 2014) . Maent hefyd yn gomisiynwyr gwasanaethau rheoleiddiedig. Mae adran 39 yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu hysbysu pan fo’r rheoleiddiwr yn cymryd camau penodol yn erbyn darparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig.

Pennod 5: Adrannau 43-55 - Troseddau a chosbau

94.Y troseddau yn y Ddeddf a ddosberthir yn droseddau diannod yw:

  • gwneud datganiad anwir mewn dogfen (adran 47)

  • methiant i gyflwyno datganiad blynyddol (adran 48)

  • methiant i ddarparu gwybodaeth (adran 49).

95.Gellid darparu datganiad anwir ar lafar neu’n ysgrifenedig ac, yn yr un modd, gall methu â darparu gwybodaeth ddigwydd drwy fethu â darparu’r wybodaeth ar lafar neu’n ysgrifenedig.

96.Y troseddau yn y Ddeddf a ddosberthir yn droseddau neillffordd yw:

  • darparu gwasanaeth rheoleiddiedig heb fod wedi ei gofrestru (adran 5)

  • methiant i gydymffurfio ag amod (adran 43)

  • disgrifiad anwir gyda’r bwriad o dwyllo (adran 44)

  • rhwystro arolygydd neu fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan arolygydd (adran 50).

97.Mae gwahaniaeth rhwng y drosedd yn adran 5 o ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig heb fod wedi ei gofrestru a’r drosedd yn adran 44 o esgus bod yn ddarparwr gwasanaeth neu esgus bod man yn un y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Byddai adran 5 yn cael ei defnyddio pe bai person yn cynnal gwasanaeth rheoleiddiedig heb fod wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru. Fodd bynnag, efallai y byddai trosedd o dan adran 44(1)(a) yn cael ei chyflawni pe bai person yn esgus ei fod wedi ei gofrestru er mwyn cael contract awdurdod lleol, er enghraifft. O ran adran 44(1)(b) mae’r drosedd yn gymwys yn achos person sy’n honni bod man yn fan lle y mae’r person hwnnw wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth pan nad yw wedi ei gofrestru felly mewn gwirionedd. Er enghraifft, efallai fod person yn berchen ar ddau gartref gofal, y naill yng Nghaerdydd a’r llall ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Efallai fod y person hwnnw wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal mewn man yng Nghaerdydd ond nid mewn man ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ni fyddai’r person hwnnw yn cyflawni trosedd o dan adran 5 oherwydd byddai wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal mewn man yng Nghaerdydd ond byddai’n cyflawni trosedd o dan adran 44(1)(b) oherwydd byddai’r person hwnnw yn esgus ei fod wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr pan nad oedd wedi ei gofrestru i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw yno.

98.Caiff y troseddau neillffordd gario dedfryd o garchar o hyd at 2 flynedd os yw’r drosedd yn ddigon difrifol i’w rhoi ar brawf ar dditiad. Mae dirwy ddiderfyn ar gael i’r Llys sy’n dedfrydu ym mhob achos.

99.Mae adrannau 45 a 46 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i sefydlu troseddau pellach mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion rheoleiddiol a sefydlir yn y rheoliadau a wneir mewn cysylltiad â’r darparwr a’r unigolion cyfrifol yn adrannau 27 ac 28.

100.Mae adran 52 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i roi hysbysiad cosb yn lle dwyn achos am drosedd, ond dim ond mewn perthynas â’r troseddau hynny a ragnodir mewn rheoliadau. Mae is-adran (2) yn cyfyngu ar arfer y pŵer hwnnw i wneud rheoliadau i droseddau penodol yn unig, sef datganiadau anwir mewn dogfennau, methiant i gyflwyno datganiad blynyddol neu fethiant i ddarparu gwybodaeth.

101.Mae adran 55 yn ei gwneud yn glir mai Gweinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol yw’r awdurdod erlyn at ddiben troseddau Rhan 1 o dan y Ddeddf. Os yw unrhyw berson arall yn ceisio dwyn achos am droseddau o dan y Ddeddf yna rhaid iddo geisio cydsyniad ysgrifenedig Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru.

Pennod 6: Adrannau 56-58 - Gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol

102.Mae Deddf 2014 yn gosod dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol mewn cysylltiad â’u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a restrir yn Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

Adran 56 – Adroddiadau gan awdurdodau lleol a dyletswydd gyffredinol Gweinidogion Cymru ac Adran 57 - adolygiadau, ymchwiliadau ac arolygiadau

103.Mae adran 144 o Ddeddf 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i benodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol at ddiben eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae adran 56 yn mewnosod adran 144A yn Neddf 2014 gan oosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

104.Ddeddf 2014 yw’r prif ddarn o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (sydd, fel y’i crybwyllir uchod, wedi eu nodi yn Atodlen 2 i’r Ddeddf honno). Mae adrannau 56 i 58 o’r Ddeddf hon felly yn mewnosod darpariaethau yn Neddf 2014 sy’n ymwneud â phwerau rheoleiddiol Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny.

105.Mae adran 149A sy’n cael ei mewnosod yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i adolygu astudiaethau ac ymchwil a gynhaliwyd gan eraill mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru. Gallai hyn gynnwys astudiaeth a gynhaliwyd gan GCC yn unol ag adran 70 o’r Ddeddf.

106.Mae adran 149B sy’n cael ei mewnosod yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i adolygu arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol gan gynnwys comisiynu gwasanaethau gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau gwasanaethau hynny. Er enghraifft, o ganlyniad i’r dyletswyddau o dan Ddeddf 2014 i ddiwallu anghenion pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, bydd yn ofynnol bod gan awdurdod lleol (ymhlith pethau eraill) wasanaethau cymorth cartref yn eu lle. Gall awdurdodau lleol ddarparu’r gwasanaethau hynny yn uniongyrchol ond cânt hefyd gomisiynu gwasanaethau o’r fath. Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu adolygu awdurdod lleol penodol o ran darparu cymorth cartref, yna rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r materion a nodir yn adran 149D – mae hyn yn cynnwys ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth (adran 149D(b)) ac effeithiolrwydd y gwasanaeth o ran sicrhau canlyniadau llesiant (adran 149D(h)).

107.Mae Rhan 8 o Ddeddf 2014 (adrannau 150 i 161 yn benodol) yn darparu pwerau ymyrryd i’r llywodraeth ganolog mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gan awdurdod lleol. Mae adran 57(2) yn rhoi adran 161 newydd yn lle’r hen un ac yn mewnosod darpariaeth amgen mewn cysylltiad â phwerau mynediad ac arolygu. Yn ychwanegol, gosodir dyletswydd ar Weinidogion Cymru gan adran 161A sy’n cael ei mewnosod i lunio a chyhoeddi cod ymarfer. Mae adran 161B yn darparu pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu ac mae adran 161C yn sefydlu rhai troseddau. Mae’r darpariaethau a fewnosodir yn cyfateb yn fras i bwerau Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â darparwyr gwasanaethau preifat ym Mhennod 3 o’r Ddeddf gyda rhai eithriadau nad ydynt yn berthnasol yn y cyd-destun hwn.

Adran 58 – Rheoleiddio swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

108.Mae Rhan 6 o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya ac mae nifer o bwerau gwneud rheoliadau yn cael eu darparu i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch arfer y swyddogaethau hynny.

109.Felly, mae’r swyddogaethau hynny o dan Ran 6 i’w rheoleiddio o dan adrannau newydd 94A a 94B sy’n cael eu mewnosod yn Neddf 2014 gan adran 58. Mae adran 94A yn nodi bod rheoliadau yn gallu gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya ac mae adran 94B yn darparu i reoliadau bennu y caniateir i dorri’r rheoliadau o dan adran 94A fod yn drosedd. Fel gyda throseddau sy’n ymwneud â thorri’r gofynion o dan Ran 1 o’r Ddeddf (gweler adrannau 44, 45 a 51) mae trosedd o dan adran 94B o Ddeddf 2014 yn drosedd neillffordd y mae modd ei chosbi â hyd at 2 flynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau. Mae hyn yn disodli’r darpariaethau ynghylch rheoleiddio swyddogaethau maethu perthnasol yn Rhan 3 o Ddeddf 2000 nad ydynt yn gymwys o ran Cymru mwyach (gweler y diwygiadau a wneir i Ddeddf 2000 gan Atodlen 3 i’r Ddeddf hon).

Pennod 7: Adrannau 59-63 - Trosolwg o’r farchnad

110.Mae adrannau 189 i 191 o Ddeddf 2014 (fel y’u diwygiwyd gan Atodlen 3 o’r Ddeddf hon) yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion pobl sy’n cael gwasanaeth gan berson sydd wedi ei gofrestru’n ddarparwr gwasanaeth o dan y Ddeddf hon ond ei fod yn methu â darparu’r gwasanaethau rheoleiddiedig oherwydd methiant busnes.

111.Cyfres o ddarpariaethau yw adrannau 59 i 63 o’r Ddeddf hon sydd â’r nod o nodi’r darparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig hynny sy’n darparu gwasanaeth a fyddai, pe bai’n methu, yn cael effaith ar y farchnad gofal a chymorth yng Nghymru ac yn sbardun i arfer dyletswyddau awdurdodau lleol o dan adrannau 189 i 191 o Ddeddf 2014.

112.Mae adrannau 59 i 62 yn debyg i’r darpariaethau trosolwg o’r farchnad (adrannau 53-57) yn Neddf Gofal 2014 sy’n gymwys yn Lloegr. Mae adran 59 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu meini prawf mewn rheoliadau a gaiff eu defnyddio i nodi darparwyr a fydd yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosolwg o’r farchnad yn y Ddeddf. Pan fo’r meini prawf yn gymwys i ddarparwr penodol, mae adran 61 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru asesu cynaliadwyedd ariannol busnes y darparwr. Pan ddeuir i’r casgliad bod perygl sylweddol i’r busnes hwnnw, mae’r pwerau yn adran 61(3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth ddatblygu cynllun ar gyfer sut i liniaru’r peryglon hynny neu sut i gael gwared â hwy a threfnu’n uniongyrchol, neu ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr drefnu, adolygiad annibynnol o’r busnes.

113.Mae is-adran (6) o adran 61 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n eu galluogi i gael gwybodaeth oddi wrth bersonau penodol a all fod yn ddefnyddiol wrth asesu cynaliadwyedd ariannol y darparwr. Mae’n debygol y bydd y math o wybodaeth y gall fod ei hangen ar Weinidogion Cymru yn ymwneud â chyllid y darparwr gwasanaeth neu wybodaeth mewn perthynas â sefyllfa ariannol y darparwr gwasanaeth neu’n ymwneud â sefyllfa ariannol yr endid penodol – os yw’r darparwr gwasanaeth yn ddibynnol yn ariannol ar endid o’r fath. Caiff y math o berson y caniateir iddynt gael eu rhagnodi yn y rheoliadau gynnwys cwmnïau o fewn yr un grŵp â’r darparwr a chwmnïau sydd â chyfran berchenogaeth sylweddol yn y darparwr.

114.Nid oes dim byd yn Neddf Gofal 2014 sy’n cyfateb yn uniongyrchol i’r gofyniad i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad genedlaethol yn adran 63. Nid yw’r wybodaeth sy’n cael ei chynnwys mewn adroddiad o’r fath yn gyfyngedig i wybodaeth am ddarparwyr sy’n ddarostyngedig i’r darpariaethau trosolwg o’r farchnad; adroddiad yw hwn sy’n darparu darlun o ran lle y mae darpariaeth ddigonol o wasanaethau penodol a lle y mae prinder neu lle y mae prinder yn debygol yn y ddarpariaeth o fathau penodol o wasanaethau. Rhaid i’r adroddiad gynnwys asesiad o effaith comisiynu gwasanaethau gan awdurdodau lleol wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae adran 63(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad hwn gael ei lunio wrth ymgynghori â GCC o gofio mai prif amcan GCC yw diogelu, hybu a chynnal diogelwch a llesiant y cyhoedd yng Nghymru (gweler adran 68 am fanylion ynghylch amcanion GCC).

Rhan 3 –Gofal Cymdeithasol Cymru

Adrannau 67-78

115.Sefydlwyd Cyngor Gofal Cymru (“y Cyngor”) gan Ran 4 o Ddeddf 2000 at ddiben: a) hybu safonau ymddygiad ac ymarfer uchel ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol; a b) hybu safonau uchel yn eu hyfforddiant. Mae’r Ddeddf hon yn ailenwi’r Cyngor yn Gofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”) ac yn ailddatgan ac yn addasu swyddogaethau GCC a roddwyd iddo o’r blaen gan Ran 4 o Ddeddf 2000. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i GCC.

116.Mae adran 67 yn darparu bod y Cyngor yn parhau o dan enw newydd, er gwaethaf diddymu adran 54 o Ddeddf 2000; enw’r Cyngor o hyn ymlaen fydd “Gofal Cymdeithasol Cymru”.

117.Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth a threfniadau gweithredol GCC. Mae hyn yn disodli’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer aelodaeth a gweithrediad y Cyngor gan Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (a rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru odani (Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001).

118.Gweinidogion Cymru fydd yn penodi aelodau GCC, sef hyd at 15 o bersonau, gan gynnwys aelod-gadeirydd.

119.Roedd rhan sylweddol o rôl y Cyngor o dan Ran 4 o Ddeddf 2000 yn ymwneud â chynnal cofrestr o fathau penodol o weithiwr gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol. Roedd llawer o’r manylion am y system a sefydlwyd gan Ran 4 o Ddeddf 2000 yn cael eu gadael i reolau a wnaed gan y Cyngor; roedd y rheolau hyn yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

120.Mae swyddogaethau GCC o dan adrannau 69 a 70 yn ymwneud â’r gwasanaethau hynny a reoleiddir o dan Ran 1 o’r Ddeddf hon (gweler y nodyn esboniadol ar gyfer adran 2) yn ogystal ag unrhyw wasanaeth arall yng Nghymru sy’n ymwneud â darparu gofal a chymorth gan weithwyr gofal cymdeithasol (gyda’i gilydd, “gwasanaethau gofal a chymorth”). Mae adran 70 yn ailddatgan gydag addasiad swyddogaeth Gweinidogion Cymru yn adran 95(1) o Ddeddf 2003. Mae adran 70 yn ehangach nag adran 95 o Ddeddf 2003; tra bo adran 95 yn gyfyngedig i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, mae adran 70 yn gymwys i unrhyw wasanaeth gofal a chymorth. Bydd GCC yn gallu gwneud neu gomisiynu gwaith ymchwil er mwyn canfod blaenoriaethau gwella ac arferion gorau ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth; yn rhinwedd adran 70 bydd GCC hefyd yn gallu cydweithio â gwasanaethau gofal a chymorth i roi unrhyw argymhellion y mae’n eu nodi ar waith.

121.Mae adran 71 yn ei gwneud yn ofynnol i GCC roi gwybodaeth am yr hyn y mae’n ei wneud ar gael i: a) y cyhoedd; a b) gweithwyr gofal cymdeithasol yn gyffredinol. Gellid rhoi gwybodaeth ar gael drwy gyhoeddi gwybodaeth yn electronig (er enghraifft ar wefan GCC) neu mewn unrhyw ffordd arall y mae GCC yn ystyried ei bod yn briodol (er enghraifft, drwy gyfarfodydd neu ddigwyddiadau cyhoeddus). Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i GCC ddatblygu a chyhoeddi polisi ar gynnwys y cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasol yn y gwaith o arfer ei swyddogaethau. Mater i GCC benderfynu arno yw’r ffordd y mae’n gwneud hynny a chaiff hyn amrywio gan ddibynnu ar natur y swyddogaeth o dan sylw; ond mae adran 75 hefyd yn berthnasol yma: mae’n ei gwneud yn ofynnol i GCC ymgynghori cyn dyroddi dogfennau penodol, gan gynnwys rheolau a wneir o dan bwerau mewn mannau eraill yn y Ddeddf hon.

122.O dan Ddeddf 2000, roedd gan y Cyngor bwerau eang i wneud rheolau a oedd yn manylu ar y system a sefydlwyd o dan Ran 4 o Ddeddf 2000. Roedd rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r rheolau hyn cyn iddynt gael eu gwneud. Mae’r system sy’n cyfateb i’r un a sefydlwyd mewn rheolau o dan Ddeddf 2000 wedi ei nodi i raddau helaeth ar wyneb y Ddeddf; mae pwerau GCC i wneud rheolau yn ymwneud â threfniadau gweithdrefnol yn bennaf. O ganlyniad, nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth Weinidogol wedi cael ei ailddatgan.

123.Mae adran 75 yn ei gwneud yn ofynnol i GCC ymgynghori cyn gwneud neu amrywio unrhyw reolau neu ddyroddi unrhyw godau neu ganllawiau o dan y Ddeddf. Mae rhai sefyllfaoedd pan na fyddai ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn briodol o bosibl, er enghraifft oherwydd bod angen diwygio’r rheolau i adlewyrchu newid yng nghyfraith yr UE neu i gywiro camgymeriad. O dan amgylchiadau o’r fath, gall Gweinidogion Cymru gytuno nad oes angen ymgynghoriad (is-adran (3)).

124.Mae’n ofynnol i GCC roi sylw i’r canllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau y mae Gweinidogion Cymru yn eu dyroddi (gweler adrannau 76 a 77). Gallai canllawiau gynnwys bod Gweinidogion Cymru yn nodi’r ffordd y dylai GCC fynd ati i wneud adolygiad blynyddol o gyflogau staff. Gallai Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan amgylchiadau pan oedd ganddynt bryderon ynghylch y modd y mae GCC yn cael ei lywodraethu neu’r ffordd y mae’n cyflawni ei weithgareddau.

125.Mae adran 78 yn rhoi pwerau diofyn i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â GCC. Roedd gan Weinidogion Cymru yr un pwerau mewn perthynas â’r Cyngor o dan Ddeddf 2000. Gellid dibynnu ar y pŵer hwn pe bai GCC yn methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 77 neu pe bai GCC yn gweithredu’n groes i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft.

Rhan 4 – Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Adran 79 - Ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol” etc.

126.Mae adran 79 yn nodi’r personau hynny sy’n “gweithwyr gofal cymdeithasol” at ddibenion y Ddeddf. Mae’r gweithwyr gofal cymdeithasol a restrir yn is-adran (1)(b) - (d) yn rheoli neu’n darparu gofal a chymorth mewn cysylltiad â gwasanaethau rheoleiddiedig; felly mae angen darllen yr adran hon ar y cyd ag adran 2. Ni fydd y diffiniad yn ymwneud â phersonau nad ydynt yn ymwneud â darparu gofal a chymorth ond sydd wedi eu cyflogi mewn mannau lle y darperir gofal a chymorth; er enghraifft, nid fyddai personau sydd wedi eu cyflogi fel garddwyr neu drydanwyr mewn cartref gofal yn “gweithwyr gofal cymdeithasol”.

127.Mae is-adran (2) o adran 79 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i drin categorïau eraill o bersonau yn weithwyr gofal cymdeithasol at ddibenion y Ddeddf hon, a rhestrir y categorïau hynny yn is-adran (3). Mae’r rhain yn cynnwys personau fel unigolion cyfrifol a ddynodir gan ddarparwyr gwasanaethau, gweithiwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant, arolygwyr gwasanaethau gofal a phersonau sy’n darparu gofal a chymorth mewn cysylltiad â gwasanaethau gofal a chymorth nad ydynt yn “gwasanaethau rheoleiddiedig”. Mae’r rheoliadau yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddynodi categorïau o fewn disgrifiad penodol o bersonau a restrir yn is-adran (3) sydd i’w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.

Adrannau 80 - 91 – Y gofrestr, Cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr, “Wedi ei gymhwyso’n briodol”, Ymdrin â cheisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewyddu, Gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad a Gwybodaeth sydd i’w chynnwys ar y gofrestr

128.Mae’r Rhan hon yn gosod y fframwaith mewn perthynas â’r gofrestr. Mae adran 80 yn ei gwneud yn ofynnol i GCC gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol perthnasol, gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol a gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau. Felly, gall rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i GCC gadw cofrestr o reolwyr gwasanaethau rheoleiddiedig neu’r rheini sydd wedi eu cyflogi mewn gwasanaeth rheoleiddiedig. Nid yw’r gofyniad i weithwyr gofal cymdeithasol gofrestru yn codi yn rhinwedd adran 80. Yn syml, gofyniad yw hwn i GCC gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol penodol. Gweler paragraffau 137 ac 138 am esboniad o sut y gosodir y gofyniad i gofrestru ar weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol. Os yw Gweinidogion Cymru, er enghraifft, yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr gwasanaethau rheoleiddiedig gofrestru â GCC, byddai rhaid i reoliadau gael eu gwneud o dan adran 80 i’w gwneud yn ofynnol i GCC gadw cofrestr o’r rheolwyr hynny.

129.Bydd y gofrestr mewn rhannau; rhan ar gyfer gweithwyr cymdeithasol perthnasol; rhan ar gyfer pob disgrifiad o weithwyr gofal cymdeithasol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau; a rhan ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad. Os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i GCC gadw cofrestr o reolwyr gwasanaethau rheoleiddiedig a’r rheini sydd wedi eu cyflogi mewn gwasanaeth rheoleiddiedig er enghraifft, rhaid bod un rhan o’r gofrestr ar gyfer rheolwyr ac un arall ar gyfer y rheini sydd wedi eu cyflogi mewn gwasanaeth rheoleiddiedig.

130.Yn rhinwedd adran 111 rhaid i weithwyr cymdeithasol sy’n dymuno eu galw eu hunain yn weithwyr cymdeithasol neu sy’n honni eu bod yn weithwyr cymdeithasol cofrestredig gofrestru â GCC neu reoleiddiwr cyfatebol yn y DU (mae esboniad pellach isod).

131.Nid oedd Deddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr gofal cymdeithasol o ddisgrifiadau eraill gofrestru. O dan Ddeddf 2000, roedd yn ofynnol i gategorïau penodol o weithwyr gofal cymdeithasol gofrestru yn rhinwedd gofynion a nodir mewn rheoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 2000. Er enghraifft roedd rheoliad 9(6) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 (O.S. 2002/324) yn nodi nad yw person yn addas i reoli cartref gofal oni bai bod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr cartref gofal â’r Cyngor. Gallai rheoliadau a wneir o dan adran 27 o’r Ddeddf nodi gofynion tebyg mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig o dan Ran 1. Gweler y nodiadau esboniadol ar gyfer adran 27 am ragor o fanylion. Gallai’r meini prawf ar gyfer addasrwydd rheolwyr a staff gwasanaethau rheoleiddiedig gynnwys bod rhaid iddynt fod wedi eu cofrestru â GCC.

132.Gallai rheoliadau a wneir o dan adran 27 ei gwneud yn ofynnol i gategorïau pellach o weithwyr gofal cymdeithasol gofrestru. Gallai rheoliadau o dan adran 111(2) hefyd osod gofyniad ar gategorïau eraill o weithwyr gofal cymdeithasol i gofrestru drwy estyn diogelwch y teitl a roddir i weithwyr cymdeithasol yn rhinwedd yr adran honno. Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) ddarparu ei bod yn drosedd i gategori o weithiwr gofal cymdeithasol, megis rheolwyr gwasanaeth rheoleiddiedig, alw ei hunan neu honni ei fod yn rheolwr cofrestredig os nad yw wedi ei gofrestru â GCC neu reoleiddiwr cyfatebol. Os gwneir rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i gategorïau o weithwyr gofal cymdeithasol gofrestru, bydd rhaid gwneud rheoliadau hefyd o dan adran 80 i’w gwneud yn ofynnol i GCC gadw cofrestr o’r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny. Dim ond i’r gweithwyr cymdeithasol hynny y mae’n ofynnol iddynt gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 27 neu 111 y bydd darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â chofrestru yn gymwys. Ni fyddant yn gymwys i’r disgrifiadau eang o bersonau yn adran 79(3) y caniateir iddynt gael eu trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.

133.Mae’r ddyletswydd i gadw’r gofrestr wedi ei gosod ar GCC, y mae rhaid iddo benodi cofrestrydd (gweler adran 81). Rhaid i’r cofrestrydd fod yn aelod o staff GCC (gallai fod yn aelod presennol gan gynnwys y Prif Weithredwr) ac mae amrywiol gyfrifoldebau mewn perthynas â chofrestru wedi eu rhoi iddo. Mae’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldebau hyn wedi eu nodi yn y Ddeddf, ond caniateir i gyfrifoldebau ychwanegol gael eu pennu mewn rheolau a wneir gan GCC (gweler er enghraifft adran 88). Mae’r cofrestrydd, fel aelod o staff GCC yn atebol i GCC am y ffordd y mae amrywiol swyddogaethau’r swydd honno yn cael eu harfer.

Ceisiadau i gofrestru – adrannau 82 - 85

134.Rhestr o weithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi bodloni’r cofrestrydd eu bod yn bodloni’r gofynion cofrestru (adran 83(1)) yw’r gofrestr. Rhaid i’r cofrestrydd ddyfarnu ar hynny drwy gyfeirio at dri maen prawf; er mwyn i berson gael ei gofrestru, rhaid iddo fodloni’r cofrestrydd ei fod: a) wedi ei gymhwyso’n briodol (“amod 1”) (adran 83(2)(a) ac adran 84); b) yn addas i ymarfer (“amod 2”) (adran 83(2)(b) ac adran 117(1)) ac, c) yn bwriadu ymarfer gwaith y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef (“amod 3”) (adran 83(2)(c)). Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf hyn isod. Er mwyn cael eu cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr, rhaid i ymgeiswyr fodloni’r tri amod. Nid yw’r amodau yn gymwys i’r rheini sy’n dymuno cael eu cofrestru yn y rhan ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ar ymweliad; mae manylion am sut y maent hwy yn cael eu cofrestru isod.

Amod 1: wedi ei gymhwyso’n briodol

135.Mae adran 84 yn nodi sut y gall ymgeiswyr ddangos eu bod wedi eu cymhwyso’n briodol at ddiben cofrestru. Bydd hyn yn dibynnu a yw’r ymgeisydd yn weithiwr cymdeithasol neu’n weithiwr gofal cymdeithasol.

Gweithwyr cymdeithasol

136.Mae paragraff (a)(i) yn darparu yr ystyrir bod gweithwyr cymdeithasol wedi eu cymhwyso’n briodol os ydynt wedi ymgymryd â chwrs sydd wedi ei gymeradwyo gan GCC o dan adran 114. Bydd cyrsiau yn cael eu cymeradwyo gan GCC os yw wedi ei fodloni y bydd y cwrs yn galluogi’r personau sy’n ei gwblhau i gyrraedd y safon ofynnol o hyfedredd mewn gwaith cymdeithasol (safon a fydd yn cael ei phennu mewn rheolau a wneir gan GCC) (gweler adran 114).

137.Mae paragraff (a)(ii) yn darparu yr ystyrir bod gweithwyr cymdeithasol wedi eu cymhwyso’n briodol hefyd os ydynt yn bodloni gofynion adran 85. Mae adran 85 yn ymwneud â chydnabod cymwysterau mewn gwaith cymdeithasol a geir mewn rhannau eraill o’r DU a rhannau eraill o’r byd. Felly, mae’r adran hon yn berthnasol i weithwyr cymdeithasol sydd â chymhwyster o Loegr er enghraifft. Os yw GCC o’r farn bod cymhwyster a geir y tu allan i Gymru o safon gyfatebol i gymhwyster sy’n cael ei gymeradwyo ganddo, yna ystyrir bod ymgeisydd sy’n meddu ar y cymhwyster hwnnw wedi ei gymhwyso’n briodol. Felly byddai graddedigion o gwrs gradd gwaith cymdeithasol yn Lloegr yn bodloni amod 1 os yw’r cymhwyster hwnnw yn cyrraedd safon hyfedredd GCC. Os yw GCC o’r farn nad yw’r hyfforddiant a wneir i gael y cymhwyster proffesiynol y tu allan i Gymru o safon ddigonol, gall ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd wneud hyfforddiant ychwanegol er mwyn bodloni amod 1 (adran 85(2)(b)(ii)).

138.Ar gyfer ymgeiswyr sy’n dod o wlad o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (“Gwladwriaethau’r AEE”) a’r Swistir, gall GCC ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd gwblhau cyfnod ymaddasu neu basio prawf tueddfryd (adran 85(1)). Mae Gwladwriaethau’r AEE yn cynnwys pob Aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy. Felly, gallai GCC ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd o’r Almaen neu Ffrainc basio prawf tueddfryd i ddangos ei sgiliau a’i allu i ymarfer gwaith cymdeithasol. Er enghraifft, efallai y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau cyfnod ymaddasu neu basio prawf tueddfryd os oedd hyfforddiant yr ymgeisydd gryn dipyn yn fyrrach na’r hyfforddiant yng Nghymru neu os nad oedd yn cwmpasu’r ystod o weithgareddau sydd yn y cyrsiau a gymeradwyir gan GCC. Gall ymgeiswyr apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad GCC i’w gwneud yn ofynnol iddynt gwblhau cyfnod ymaddasu neu basio prawf tueddfryd (gweler adran 105).

139.Os nad yw gweithiwr cymdeithasol wedi cwblhau cwrs a gymeradwyir nac yn bodloni gofynion adran 85 gall ddangos ei fod wedi ei gymhwyso’n briodol os yw’n bodloni unrhyw amodau hyfforddiant a nodir gan GCC mewn rheolau (adran 84(a)(iii)). Er enghraifft gallai GCC ddefnyddio’r pŵer hwn i gydnabod ymgeiswyr sy’n meddu ar gymwysterau nad ydynt yn cael eu cynnig bellach mewn prifysgolion neu golegau.

Gweithwyr gofal cymdeithasol

140.Mae paragraff (b)(i) o adran 84 yn darparu yr ystyrir bod gweithwyr gofal cymdeithasol wedi eu cymhwyso’n briodol os ydynt wedi gwneud cwrs sydd wedi ei gymeradwyo gan GCC o dan adran 114. Bydd cwblhau cwrs sydd wedi ei gymeradwyo yn bodloni GCC bod gweithiwr gofal cymdeithasol wedi ei gymhwyso’n briodol.

141.Mae adran 84(b)(ii) yn galluogi gweithwyr gofal cymdeithasol i ddangos eu bod wedi eu cymhwyso’n briodol os ydynt yn bodloni unrhyw ofynion hyfforddiant a nodir mewn rheolau gan GCC. Er enghraifft, gallai hyn ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi bod mewn swydd cyn i GCC gael y pŵer i gymeradwyo cyrsiau mewn perthynas â gweithwyr gofal cymdeithasol.

Amod 2: “addas i ymarfer”

142.Rhaid i asesiadau o addasrwydd person i ymarfer gael eu gwneud drwy gyfeirio at y seiliau amhariad a nodir yn adran 117. Categorïau o ymddygiad neu resymau sylfaenol dros yr amhariad yw’r seiliau statudol. Rhaid i’r cofrestrydd fod wedi ei fodloni o dan adran 83(2)(b) nad oes amhariad ar addasrwydd ymgeisydd i ymarfer ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau hynny.

Amod 3: bwriad i ymarfer

143.Er mwyn i ymgeisydd fod yn gymwys i gael ei gofrestru, rhaid iddo hefyd fodloni’r cofrestrydd ei fod yn bwriadu ymarfer y gwaith gofal cymdeithasol y mae ei gofnod yn ymwneud ag ef. Un ffordd o wneud hyn yn ymarferol fyddai ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd lofnodi datganiad sy’n cadarnhau ei fod yn bwriadu ymarfer fel gweithiwr cymdeithasol.

Caniatáu neu wrthod ceisiadau

144.Rhaid i geisiadau i gofrestru sy’n bodloni gofynion adran 83 gael eu caniatáu gan y cofrestrydd. Mae hawl gan unrhyw berson y mae ei gais i gofrestru wedi ei wrthod apelio yn erbyn penderfyniad y cofrestrydd i’r panel apelau cofrestru a fydd yn adolygu’r penderfyniad (gweler adrannau 101 i 103).

145.Nid yw’r amodau cofrestru yn adrannau 83 i 84 yn gymwys i weithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad. Mae’r ymadrodd “gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad” yn cyfeirio at weithwyr cymdeithasol o Wladwriaethau’r AEE neu’r Swistir sydd wedi eu sefydlu’n gyfreithlon i ymarfer gwaith cymdeithasol yn eu gwlad eu hunan ond sy’n ymarfer yn y Deyrnas Unedig dros dro neu’n achlysurol (gweler adran 90). Am esboniad o Wladwriaethau’r AEE paragraff 143 uchod.

146.Mae’r hyn sy’n gyfystyr ag ymarfer dros dro neu’n achlysurol yn gwestiwn ffeithiol a fydd yn amrywio o achos i achos a mater i GCC benderfynu arno fydd hyn, er y gall ymgeiswyr apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad GCC (gweler adran 105). Mae’r gyfraith berthnasol ar hyn wedi ei chynnwys yn Rhan 2 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol (gweler y diffiniad yn adran 90(8)). Mae’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol yn system ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol a gyflwynwyd gan Gyfarwyddeb 89/48/EEC ac a ategwyd gan Gyfarwyddeb 92/51/EEC. Mae hyn i alluogi i gymwysterau’r rheini sydd wedi eu cymhwyso i ymarfer proffesiwn mewn gwlad AEE neu’r Swistir gael eu cydnabod mewn gwlad AEE arall neu’r Swistir, er mwyn iddynt ymarfer yno. Mae gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad yn parhau i fod wedi eu sefydlu fel gweithwyr cymdeithasol yn eu gwlad eu hun; am y rheswm hwn, mae trefniadau gwahanol ar gyfer gwirio eu cymwysterau i ddyfarnu a ydynt yn cyrraedd y safonau hyfedredd ar gyfer ymarfer yng Nghymru. Mae hyn yn wahanol i sefydlu yng Nghymru a bod yn gofrestredig yn y rhan o’r gofrestr i weithwyr cymdeithasol. Er mwyn cofrestru yn y rhan o’r gofrestr i weithwyr cymdeithasol, mae’n ofynnol i weithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso y tu allan i Gymru fodloni’r amodau cofrestru y cyfeirir atynt uchod.

147.Nid yw’n ofynnol i weithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad ddangos eu bod wedi cymhwyso’n briodol neu’n addas i ymarfer yn unol ag adrannau 83 a 84 ar yr amod y caniateir iddynt ymarfer yn gyfreithlon yn eu gwlad eu hun ac mai dim ond dros dro y maent yn ymarfer yn y Deyrnas Unedig. Os oes ganddynt fudd rheoliad 8 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol rhaid iddynt gael eu cofrestru gan y cofrestrydd ac ymddangos yn y rhan o’r gofrestr ar gyfer ymwelwyr o Ewrop. Mae rheoliad 8 yn galluogi GCC i wirio cymwysterau gweithwyr cymdeithasol ar ymweliad am unrhyw wahaniaethau sylweddol sy’n niweidiol i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd ac os oes unrhyw wahaniaeth o’r fath gall GCC ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr cymdeithasol sydd ar ymweliad basio prawf tueddfryd.

148.Bydd cofnod ar gyfer ymgeiswyr y mae eu ceisiadau i gofrestru wedi eu caniatáu yn cael ei gynnwys yn y rhan honno o’r gofrestr y mae eu cyflogaeth yn ymwneud â hi. Mae adran 91 yn nodi’r wybodaeth a fydd yn ymddangos ar y gofrestr. Gall Gweinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau fod rhaid i’r gofrestr ddangos y cymwysterau neu’r profiad ychwanegol sydd gan y person cofrestredig. Er enghraifft, gallai GCC anodi cofnod i ddangos bod y person cofrestredig wedi cael cymhwyster ychwanegol y mae ei ansawdd wedi ei sicrhau gan GCC neu i ddangos bod gweithiwr cymdeithasol wedi cwblhau rhaglen gwaith cymdeithasol uwch. Gall GCC wneud rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd gynnwys gwybodaeth arall mewn cofnod yn y gofrestr neu sy’n ei awdurdodi i wneud hynny (is-adran (2)(a)). Er enghraifft, gallai’r rheolau a wneir o dan yr is-adran hon hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd gynnwys gwybodaeth am yr ardal y mae’r person cofrestredig wedi ei gyflogi ynddi. Gallai’r rheolau a wneir o dan yr adran hon hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd gynnwys gwybodaeth yn y gofrestr am sgiliau Cymraeg personau cofrestredig.

149.Bydd gan GCC y pŵer drwy reolau i bennu y bydd cofnod yn y gofrestr yn darfod os nad yw’n cael ei adnewyddu (adran 86). Mater i GCC yw pennu pryd y bydd cyfnod cofrestriad yn darfod. Caiff GCC bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol o weithiwr gofal cymdeithasol. Ar gyfer adnewyddu, nid oes rhaid i bersonau cofrestredig ddangos eu bod wedi cymhwyso’n briodol gan eu bod wedi gorfod dangos hyn eisoes wrth wneud cais i gofrestru am y tro cyntaf. Yn hytrach, rhaid iddynt ddangos eu bod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion datblygu proffesiynol parhaus sy’n cael eu gosod gan GCC o dan adran 113 (gweler is-adran (3)). Gallai hyn gynnwys dysgu seiliedig ar waith, seminarau, addysgu neu weithgareddau eraill sydd wedi eu hanelu at ehangu datblygiad proffesiynol person cofrestredig.

150.Bydd cofnodion yn y gofrestr nad ydynt yn cael eu hadnewyddu yn darfod yn awtomatig (adran 87). Ni fydd hyn yn wir os yw’r person cofrestredig yn destun achos addasrwydd i ymarfer neu fod panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu bod amhariad ar ei allu i ymarfer (gweler y nodiadau esboniadol ar Ran 6 am esboniad o’r gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer). Gwneir hyn er mwyn osgoi sefyllfa pan all person cofrestredig adael i’w gofrestriad ddarfod fel ffordd o osgoi bod ei achos yn cael ei archwilio a bod posibilrwydd bod sancsiwn yn cael ei osod.

Adrannau 9294 - Dileu cofnodion o’r gofrestr

151.Mae’n ofynnol i’r cofrestrydd sicrhau bod y gofrestr yn gywir ac yn gyfredol. Mae adrannau 92 i 94 yn nodi’r manylion ynghylch sut y cedwir y gofrestr yn gyfredol; mae adran 92, er enghraifft, yn caniatáu i GCC wneud rheolau ynghylch dileu cofnod ar ymddeoliad person o ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol.

Adrannau 95100 – Adfer cofnod i’r gofrestr

152.Gall person y mae ei gofnod wedi ei ddileu o’r gofrestr wneud cais iddo gael ei adfer i’r gofrestr. Er enghraifft, gallai gweithiwr cymdeithasol sydd wedi ymddeol ac sy’n dymuno dychwelyd i weithio wneud cais adfer. Rhaid i GCC nodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau o’r fath mewn rheolau (gweler adran 100). Gallai’r rheolau ddarparu, er enghraifft, fod yr holl geisiadau i’w trin fel cais cyntaf i gofrestru.

153.Pan fo cofnod person wedi cael ei ddileu o’r gofrestr gan banel addasrwydd i ymarfer oherwydd ystyrid nad oedd yn addas i ymarfer, rhaid i banel apelau cofrestru wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid caniatáu adfer enw’r person hwnnw i’r gofrestr. Mae adran 174 yn darparu bod rhaid i GCC sefydlu system ddyfarnu drwy banel at ddiben apelau sy’n ymwneud â’r gofrestr. Rhaid darllen adran 174 ar y cyd ag adran 175 sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad, gweithrediad a gweithdrefn y panel. Mae’n ofynnol i banel apelau cofrestru adolygu’r penderfyniadau a wneir gan y cofrestrydd mewn perthynas â chofrestru a gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylai enwau unigolion gael eu hadfer i’r gofrestr. Nid oes modd gwneud ceisiadau adfer yn dilyn achos o ddileu gan banel addasrwydd i ymarfer hyd nes i 5 mlynedd fynd heibio ar ôl i enw’r ymgeisydd gael ei ddileu o’r gofrestr ac wedyn dim ond un cais y flwyddyn y mae modd ei wneud. Bwriedir i’r cyfnod lleiaf hwn adlewyrchu difrifoldeb a natur barhaol penderfyniad i ddileu person o’r gofrestr. (Gweler y nodiadau esboniadol ar Ran 6 am esboniad o’r gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer).

154.Os gwrthodir dau neu ragor o geisiadau i adfer gan berson, gall panel apelau cofrestru roi cyfarwyddyd bod y person wedi ei atal dros dro rhag gwneud cais pellach i adfer ei gofnod i’r gofrestr (gweler adran 98(4)). Felly, caiff y person hwnnw ei atal rhag gwneud unrhyw gais pellach i adfer. Fodd bynnag, dair blynedd i ddyddiad y cyfarwyddyd, gall yr ymgeisydd wneud cais i’r cofrestrydd i banel apelau cofrestru adolygu’r ataliad dros dro hwnnw (gweler adran 99(2)). Os yw’r panel apelau cofrestru yn dirymu’r cyfarwyddyd, mae rhwydd hynt i’r ymgeisydd wneud cais i adfer unwaith eto. Fodd bynnag, os yw panel apelau cofrestru yn ystyried y dylai’r cyfarwyddyd aros yn ei le, ni all yr ymgeisydd wneud cais i adfer o hyd. Fodd bynnag, gall yr ymgeisydd wneud cais am adolygiad pellach ar ôl i gyfnod arall o dair blynedd ddod i ben.

Adrannau 101105 - Apelau i banel apelau cofrestru ac apelau i’r tribiwnlys

155.Mae’n ofynnol i baneli apelau cofrestru adolygu’r penderfyniadau a wneir gan y cofrestrydd mewn perthynas â chofrestru a gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylai cofnodion unigolion gael eu hadfer i’r gofrestr ar ôl iddynt gael eu dileu gan banel addasrwydd i ymarfer.

156.Mae adran 104 yn cyflwyno hawl bellach i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad y panel. Gall y Tribiwnlys wrando apelau ar faterion cyfreithiol a ffeithiol ac mae ganddo siambr sy’n arbenigo mewn delio â materion gofal cymdeithasol.

Adrannau 106111 - Hysbysu’r cofrestrydd am newidiadau i wybodaeth etc., dyletswydd i gyhoeddi’r gofrestr etc., a diogelu teitl “gweithiwr cymdeithasol” etc.)

157.Mae’n bwysig bod y gofrestr mor gyfredol ac mor gywir â phosibl. Felly, mae’n ofynnol i GCC drwy reolau ei gwneud yn ofynnol i bersonau cofrestredig roi gwybod i’r cofrestrydd am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth sydd wedi ei chofnodi amdano yn y gofrestr. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys rhoi gwybod i’r cofrestrydd am newid cyflogwr os yw’r rheolau a wneir gan GCC yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth honno ymddangos yn y gofrestr.

158.Mae adran 107 yn galluogi GCC i fwrw ati mewn ffordd ragweithiol mewn cysylltiad ag addasrwydd personau cofrestredig i ymarfer; yn hytrach nag aros i honiad gael ei wneud neu i wybodaeth ddod i’w sylw mewn ffordd arall sy’n nodi bod amhariad ar addasrwydd i ymarfer personau cofrestredig o bosibl, mae adran 107 yn galluogi GCC i gynnal arolygon cyfnodol o bersonau cofrestredig er mwyn ei fodloni ei hun nad oes amhariad ar eu haddasrwydd i ymarfer. Pe bai’r cofrestrydd yn dod yn ymwybodol o unrhyw faterion drwy’r broses hon gallai hysbysu GCC a allai atgyfeirio’r mater am ymchwiliadau pellach o dan Bennod 2 o Ran 6 (gweler y nodyn esboniadol sy’n mynd gyda Rhan 6 am ragor o wybodaeth).

159.Oherwydd rhesymau’n ymwneud â diogelu’r cyhoedd, gall y gofrestr adlewyrchu’r sancsiynau hynny a osodir gan banel addasrwydd i ymarfer ar berson cofrestredig (gweler adran 91). Fodd bynnag, ni fydd y gofrestr yn dangos bod cofnod person wedi ei ddileu. Felly, mae’n ofynnol i GCC gadw rhestr o’r personau hynny y mae eu cofnodion wedi eu dileu. Pe bai gan aelodau o’r cyhoedd bryderon am weithiwr cymdeithasol ac yn methu â dod o hyd i’w enw ar y gofrestr, gallent chwilio am enw’r person ar y rhestr o bersonau sydd wedi eu tynnu oddi ar y gofrestr i weld a oedd wedi ei dynnu mewn gwirionedd ar y sail ei fod yn anaddas i ymarfer.

160.Mae adran 111 yn darparu diogelwch teitl “gweithiwr cymdeithasol”. Roedd hyn yn cael ei ddiogelu o dan adran 61 o Ddeddf 2000. Mae is-adran (2) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i allu ychwanegu disgrifiadau eraill o weithwyr gofal cymdeithasol y gallai fod angen diogelu eu teitl. Er enghraifft, gallai rheoliadau ei gwneud yn drosedd i berson nad yw wedi ei gofrestru fel rheolwr gwasanaeth rheoleiddiedig ddefnyddio’r teitl hwnnw neu honni ei fod yn gofrestredig gyda’r bwriad o dwyllo. Mae’n ofynnol i GCC nodi ei bolisi ar erlyn troseddau o dan adran 111 (gweler adran 72). Gallai hyn nodi, er enghraifft, y bydd yn gadael i Wasanaeth Erlyn y Goron ddwyn achos, neu mewn achosion penodol y bydd yn dwyn erlyniadau preifat.

Rhan 5 – Gweithwyr Gofal Cymdeithasol: Safonau Ymddygiad, Addysg Etc.

Adran 112 - Codau ymarfer

161.Mae datblygu codau ymarfer yn agwedd bwysig ar reoleiddio gweithlu gan fod y codau yn nodi ac yn disgrifio’r safonau ymarfer y disgwylir i weithwyr gofal cymdeithasol eu cyrraedd. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn llunio codau o dan adran 62 o Ddeddf 2000. Mae’r swyddogaeth hon wedi ei chadw. Bydd y codau yn berthnasol pan fo cwynion wedi eu gwneud am addasrwydd gweithiwr gofal cymdeithasol i ymarfer; gall methu â chydymffurfio â safon mewn cod fod yn dystiolaeth o anaddasrwydd person i ymarfer. Gallai codau osod safonau ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yn gyffredinol neu gallai GCC wneud codau penodol yn berthnasol i gategorïau penodol o weithwyr gofal cymdeithasol yn unig, er enghraifft cod ymarfer ar gyfer rheolwyr gwasanaethau rheoleiddiedig.

162.Bydd GCC hefyd yn gallu llunio codau ymarfer ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl (GPIM) a gymeradwywyd. Mae GPIMau yn arfer swyddogaethau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“Deddf 1983”). Mae’r swyddogaethau hynny yn ymwneud â phenderfyniadau a wneir am unigolion sydd ag anhwylderau meddwl, gan gynnwys y penderfyniad i wneud cais i orfodi unigolyn i fynd i'r ysbyty. Gall gweithwyr cymdeithasol hyfforddi i fod yn GPIMau ac felly gall GCC nodi’r safonau y disgwylir i weithwyr cymdeithasol o’r fath eu cyrraedd. Roedd gan y Cyngor y swyddogaeth o gymeradwyo cyrsiau i GPIMau o dan adran 114A o Ddeddf 1983. Mae GCC wedi cadw’r swyddogaeth hon.

163.Mae amgylchedd gwaith yn dylanwadu ar berfformiad gweithwyr a bydd yn bwysig i GCC allu nodi’r safonau y disgwylir i’r rheini sy’n cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol eu cyrraedd; mae adran 112 yn caniatáu i’r safonau hyn gael eu gosod. Efallai y bydd safonau o’r fath yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr sicrhau nad yw ond yn ofynnol i gyflogeion wneud gwaith sy’n briodol neu'n addas ar eu cyfer gan roi sylw i’w cymwysterau a’u profiad. Bydd angen cadw’r holl godau ymarfer yn gyfredol er mwyn iddynt adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf mewn maes sy’n gallu newid yn gyflym; i’r perwyl hwnnw, bydd yn ofynnol i GCC gadw’r codau o dan adolygiad a’u hamrywio pan fo hynny’n briodol.

Adran 113 - Datblygiad proffesiynol parhaus

164.Diben yr hyfforddiant y caniateir iddo fod yn ofynnol o dan yr adran hon fydd sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cynnal ac yn diweddaru eu gwybodaeth a’u cymhwysedd mewn amgylchedd sy’n datblygu o hyd. Bydd angen i bersonau cofrestredig gydymffurfio ag unrhyw ofynion datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn adnewyddu eu cofrestriad (gweler adran 84). Rhaid i reolau a wneir gan GCC mewn perthynas â hyfforddiant o’r fath ystyried unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr cymdeithasol sydd ar ymweliad o wlad AEE neu’r Swistir wedi ei wneud yn ei wlad ei hun i sicrhau nad oes gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr o’r fath.

Adran 114 - Cymeradwyo cyrsiau etc.

165.O dan Ddeddf 2000, roedd y Cyngor yn cymeradwyo cyrsiau cymhwyso a chyrsiau ôl-gymhwyso mewn gwaith cymdeithasol. Mae adran 114 yn cadw’r swyddogaeth hon ond hefyd yn darparu’r pŵer i GCC i gymeradwyo cyrsiau sy’n addas i weithwyr gofal cymdeithasol eraill. Mae ei gwneud yn ofynnol i weithwyr gofal cymdeithasol gael cymwysterau penodol er mwyn cofrestru yn ffordd o sicrhau bod gweithwyr wedi eu cymhwyso ond nid yw hynny ynddo’i hun yn gwarantu ansawdd y cyrsiau sy’n arwain at y cymwysterau. Bwriad rhoi rôl o ran cymeradwyo cyrsiau o’r fath i GCC yw cynnal safon uchel yn ansawdd yr addysg i’w darparu weithwyr gofal cymdeithasol presennol a darpar weithwyr gofal cymdeithasol.

Adran 115 - Arolygiadau mewn cysylltiad â chyrsiau penodol

166.Fel rhan o’i bŵer i gymeradwyo cyrsiau hyfforddi mewn gwaith gofal cymdeithasol, bydd angen i GCC allu ymweld â’r mannau sy’n darparu’r hyfforddiant hwn ac adrodd arnynt. Bydd angen hefyd iddo asesu’n barhaus a yw darparwyr yn parhau i gyrraedd y safonau sy’n ofynnol ar gyfer cymeradwyaeth fel rhan o’i broses sicrhau ansawdd. Mae adran 115 yn galluogi GCC i arolygu darparwyr cyrsiau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol eraill. Gellid defnyddio’r pŵer hwn i ymweld â sefydliadau addysgol ond hefyd, er enghraifft, gellid ei ddefnyddio i ymweld â lleoliadau ymarfer y mae myfyrwyr yn mynd iddynt i ddatblygu eu sgiliau ymarferol.

Adran 116 - Swyddogaethau eraill Gofal Cymdeithasol Cymru mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiant

167.Bydd is-adran (1) yn caniatáu i GCC wneud darpariaeth ar gyfer hyfforddiant gweithwyr gofal cymdeithasol a darpar weithwyr; gallai hynny fod drwy ddarparu hyfforddiant ei hun, neu drwy gomisiynu cyrsiau priodol gan berson arall. Gallai’r sefyllfa hon godi pe bai GCC o’r farn bod nifer y cyrsiau hyfforddi sydd ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol o dan hyfforddiant o fath penodol neu ansawdd y cyrsiau hynny yn cael effaith andwyol ar ansawdd y gofal a’r cymorth a gynigir yng Nghymru.

Rhan 6 – Gweithwyr Gofal Cymdeithasol: Addasrwydd I Ymarfer

Pennod 1: Seiliau amhariad
Adran 117 - Addasrwydd i ymarfer

168.Mae’r Rhan hon yn nodi’r fframwaith ar gyfer ymchwilio i honiadau o amhariad ar addasrwydd personau cofrestredig i ymarfer a’r fframwaith sy’n llywodraethu gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer. Mae adran 164 yn nodi ystyr person cofrestredig ac yn cadarnhau ei fod yn golygu person sydd wedi ei gofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr, mewn rhan ychwanegol neu yn y rhan i ymwelwyr Ewropeaidd o’r gofrestr. Felly, nid yw Rhan 6 o’r Ddeddf ond yn gymwys i weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n ofynnol iddynt gofrestru, er enghraifft, gweithwyr cymdeithasol. Nid yw’n gymwys i weithwyr gofal cymdeithasol anghofrestredig.

169.Bydd paneli addasrwydd i ymarfer yn gwneud penderfyniadau ynghylch a oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer. Mae’r paneli hyn hefyd yn penderfynu ar ba sancsiynau sy’n briodol yn dilyn ystyriaeth o achos (gweler adran 174 am y ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i GCC sefydlu paneli addasrwydd i ymarfer a’r nodyn esboniadol sy’n mynd gydag adrannau 174 a 175 am esboniad o gyfansoddiad a gweithdrefnau’r paneli).

170.Mae adran 117 yn darparu mai dim ond am un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-adran (1) y caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer.

171.Yn is-adran (1)(a), mae’n debygol y bydd tystiolaeth o “perfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol” yn cynnwys methiannau i gydymffurfio â’r safonau ymddygiad ac ymarfer y disgwylir i weithwyr gofal cymdeithasol eu cyrraedd, a nodir yn y codau ymarfer a ddyroddir gan GCC o dan adran 112, er na fydd personau sy’n gwerthuso perfformiad gweithiwr gofal cymdeithasol wedi eu cyfyngu i ystyried cydymffurfedd â’r codau yn unig. Bwriedir i’r sail hon ymwneud â methiannau difrifol neu fynych i ddilyn y safonau ymddygiad y disgwylir i weithwyr gofal cymdeithasol sy’n ymarfer eu cyrraedd. Felly, gallai un achos o driniaeth esgeulus fod yn gyfystyr â pherfformiad diffygiol, yn yr un modd ag y gallai methiannau technegol mynych neu wyro oddi wrth arferion da dro ar ôl tro fod yn gyfystyr ag ef.

172.Yn is-adran (1)(b), mae camymddwyn difrifol yn cyfeirio at ymddygiad a all neu na all fod yn gysylltiedig ag arfer sgiliau proffesiynol, ond bod yr ymddygiad hwnnw yn dwyn gwarth ar y person cofrestredig ac felly yn gwneud niwed i allu’r person hwnnw i ymarfer yn ddiogel ac i enw da’r proffesiwn. Felly mae modd i ymddygiad gweithiwr gofal cymdeithasol y tu allan i’w waith proffesiynol arwain at gamau pan fo posibilrwydd y bydd hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael ei danseilio os na chymerir camau.

173.Yn is-adran (1)(c), mae “rhestr wahardd” yn cyfeirio at restr o unigolion y bernir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf. Mae’r rhestr yn cael ei chynnal yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006. Yn yr Alban cynhelir y rhestr gan Disclosure Scotland o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007. Yn nodweddiadol mae personau wedi eu gwahardd oherwydd iddynt gyflawni troseddau sy’n ymwneud â cham-drin plant neu oedolion hyglwyf.

174.Mae dyfarniadau gan gorff perthnasol yn ddyfarniadau a wneir gan reoleiddwyr cyfatebol gweithwyr gofal cymdeithasol a rheoleiddiwr nyrsio a bydwreigiaeth y Deyrnas Unedig: yr NMC. Er enghraifft, pe bai rheoleiddiwr gweithwyr cymdeithasol yn Lloegr, sef y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, yn penderfynu nad oedd gweithiwr cymdeithasol yn addas i ymarfer, gallai’r cofrestrydd ddibynnu ar y penderfyniad hwnnw i wrthod cais y gweithiwr cymdeithasol hwnnw i gofrestru â GCC. Bydd hyn yn atal personau rhag osgoi penderfyniad un rheoleiddiwr drwy gofrestru ag un arall. Yn yr un modd, caiff canfyddiadau a wneir yn y cyd-destun Cymreig ynghylch addasrwydd person i ymarfer lywio penderfyniadau mewn perthynas â chofrestrau sy’n cael eu cynnal gan reoleiddwyr eraill yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.

175.Mewn cysylltiad ag is-adran (1)(e), fel arfer, ni fydd angen i GCC gymryd rhan dim ond oherwydd bod gweithiwr gofal cymdeithasol yn sâl. Dim ond os oes gan weithiwr gofal cymdeithasol gyflwr meddygol (gan gynnwys bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol) sy’n cael effaith ar ei allu i ymarfer i safon dderbyniol y dylid dibynnu ar y sail hon.

176.Ni fydd pob canfyddiad o amhariad o dan is-adran (1) yn golygu’n awtomatig fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer. Ystyrir ffactorau perthnasol eraill gan gynnwys, er enghraifft, mewn achos sy’n ymwneud â pherfformiad diffygiol, a oes modd datrys y problemau o dan sylw yn hawdd neu a oes camau wedi eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem.

Pennod 2: Gweithdrefnau rhagarweiniol
Adrannau 118124 – Ystyriaeth ragarweiniol i honiadau etc.

177.Mae’r Bennod hon yn nodi’r fframwaith ar gyfer ymchwilio i honiadau o amhariad ar addasrwydd i ymarfer sy’n cael eu gwneud i GCC mewn cysylltiad â pherson cofrestredig; mae’r Bennod hefyd yn gymwys pan fo gan GCC seiliau eraill dros gredu y gall fod amhariad ar addasrwydd person (er enghraifft, os daw GCC i wybod drwy adroddiad yn y cyfryngau fod gweithiwr cymdeithasol wedi cael ei arestio neu ei ddiswyddo).

178.Mae ystyriaeth ragarweiniol yn cyfeirio at y broses o ystyried honiadau neu wybodaeth i ddyfarnu pa un a ddylid rhoi ystyriaeth bellach i achos ai peidio. Dyma fydd proses GCC ar gyfer sgrinio honiadau a gwybodaeth o’r fath; a gallai’r broses hon gael ei chynnal gan aelod neu aelodau o staff GCC neu gan bersonau eraill sydd wedi eu penodi at y diben hwnnw. Gall GCC drin unrhyw wybodaeth sy’n cael ei dwyn i’w sylw fel honiad posibl ac nid oes gofynion penodol ynghylch ffurf yr honiadau (adran 118).

179.Diben ystyriaeth ragarweiniol yw penderfynu a yw’r mater yn haeddu ymchwilio pellach, neu atgyfeiriad uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer oherwydd ei ddifrifoldeb. Mae adran 120 yn nodi’r meini prawf cymhwystra ar gyfer atgyfeirio ymlaen ar gyfer ymchwiliad neu ystyriaeth panel ar unwaith.

180.Os oes mater sy’n gymwys i’w atgyfeirio ymlaen rhaid iddo gael ei atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad neu’n uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer. Rhaid i GCC atgyfeirio honiadau ynghylch collfarnau am droseddau y gosodwyd neu y gellid bod wedi gosod dedfryd o garchar mewn cysylltiad â hwy yn uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer a bydd ganddo’r pwerau i bennu mewn rheolau unrhyw gategorïau eraill o achosion y mae rhaid eu atgyfeirio’n uniongyrchol. Mae hyn oherwydd nad oes angen ymchwilio i’r ffeithiau sy’n arwain at gollfarnau fel hyn a bydd angen i GCC allu gweithredu’n gyflym i ymdrin â phersonau cofrestredig sydd wedi eu collfarnu o droseddau difrifol.

181.Ar unrhyw adeg yn y broses addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol, gellir atgyfeirio achos person cofrestredig i banel gorchmynion interim. Mae paneli gorchmynion interim yn ystyried a oes angen unrhyw fesurau ar unwaith i amddiffyn y cyhoedd neu’r person cofrestredig tra bo’r materion yn cael eu hystyried neu tra ymchwilir iddynt. Gallai’r mesurau hyn gynnwys cyfyngu ar ystod y gweithgareddau y caniateir i’r person cofrestredig eu gwneud, neu atal dros dro gofrestriad y person cofrestredig; mae’r darpariaethau manwl sy’n ymdrin â mesurau interim i’w gweld ym Mhennod 4 o’r Rhan hon ac maent yn cael eu hesbonio isod.

Adrannau 125130 – Ymchwilio

182.Mae adrannau 125-130 yn darparu i GCC ymchwilio i honiadau o amhariad ar addasrwydd i ymarfer, neu i bersonau sy’n gweithredu ar ran GCC ymchwilio iddynt. Er enghraifft, gallai GCC ddarparu bod pob math o ymchwiliad neu fathau penodol o ymchwiliadau i’w cynnal gan aelodau o staff neu gan unigolion eraill sydd wedi eu penodi at y diben hwnnw. Fel arall, gallai sefydlu pwyllgor ymchwilio i gynnal ymchwiliadau. Bydd GCC hefyd yn gallu penodi cynghorwyr megis cynghorwyr iechyd. Efallai y bydd angen hyn wrth ymchwilio i honiadau y gall fod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer oherwydd cyflwr iechyd a’i bod yn ofynnol deall y cyflwr neu asesu ei alluedd.

183.Ar ddiwedd yr ymchwiliad, rhaid i GCC atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer os yw’r mater yn bodloni’r prawf rhagolwg realistig a geir yn adran 126(2)(a) a’i bod er budd y cyhoedd i atgyfeirio’r mater.

184.Pan na fo achos yn cael ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, bydd gan GCC ystod o opsiynau ar gael iddo i waredu’r achos; mae’r rhain wedi eu nodi yn adran 126. Pan fo GCC yn penderfynu y gall rhybuddio’r person cofrestredig am ei ymddygiad fod yn briodol, mae hawl gan y person cofrestredig i ofyn am wrandawiad llafar. Mae hyn i roi cyfle i’r person i gyflwyno sylwadau os yw’n teimlo nad yw rhybudd yn briodol: gall rhybudd sydd wedi ei ddyroddi gael ei gofnodi ar y cofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â’r person hwnnw. Gall GCC hefyd gytuno ar ymgymeriadau â phersonau cofrestredig. Er enghraifft, gallai hyn fod yn gytundeb bod rhaid i’r person cofrestredig gwblhau cwrs hyfforddi pan fo’r ymchwiliad wedi datgelu y gall gael budd o hyfforddiant ychwanegol.

185.Mae darpariaeth yn adran 130 ar gyfer cyflwyno cyfryngu fel ffordd o waredu achosion a atgyfeirir ar gyfer ymchwiliad. Dim ond os oes darpariaeth yn cael ei gwneud drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y mae modd cyflwyno cyfryngu. Gallai cyfryngu, er enghraifft, fod yn fuddiol mewn achosion pan na fo’r honiadau yn gyfystyr ag amhariad ar addasrwydd i ymarfer ond bod angen datrys materion rhwng y person cofrestredig a’r achwynydd sy’n debygol o gael effaith niweidiol a pharhaus ar berthynas barhaus. Pe bai cyfryngu yn cael ei gyflwyno, byddai rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo drafft o’r rheoliadau cyn iddynt gael eu gwneud (gweler adran 187(2)).

Adrannau 131133 - Adolygu

186.Mae adran 131 yn darparu mecanwaith ar gyfer adolygu penderfyniadau penodol ar ddiwedd ystyriaeth ragarweiniol ac ymchwiliad. Mae hyn yn galluogi GCC i ailystyried penderfyniadau i sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn briodol neu i ailystyried penderfyniadau yng ngoleuni gwybodaeth newydd nad oedd ar gael pan wnaed y penderfyniad gwreiddiol. Gall unrhyw un sydd â buddiant yn y penderfyniad ym marn GCC wneud cais am adolygiad. Nid yw’r pŵer adolygu yn cynnwys penderfyniadau i atgyfeirio achosion i banel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer. Mae gan GGC bŵer ar wahân i ganslo atgyfeiriadau o’r fath yn adran 134.

187.Mae adran 131 yn ei gwneud yn ofynnol i GCC adolygu penderfyniad a grybwyllir yn is-adran (2) os ymddengys i GCC fod nam perthnasol ar y penderfyniad. Gallai hyn fod oherwydd gwall a wnaed gan GCC wrth weinyddu’r achos sy’n tanseilio’r penderfyniad, megis colli tystiolaeth berthnasol, neu gam-farn neu wall ymresymu ar ran gwneuthurwr y penderfyniad. Mae gan GCC bŵer eang i wneud rheolau i benderfynu ar y broses a fydd yn gymwys i adolygiadau o dan adran 131. Er enghraifft, gallai GCC ddarparu mai’r cofrestrydd sy’n gwneud y penderfyniad terfynol.

188.Ar derfyn ymchwiliad neu yn dilyn ystyriaeth gan banel addasrwydd i ymarfer, gellir gosod sancsiynau ar berson cofrestredig. Mae’r rhain yn cynnwys gosod amodau ar gofrestriad person cofrestredig, er enghraifft cyfyngu ar y meysydd y gall ymarfer ynddynt, atal dros dro’r person cofrestredig am gyfnod o amser neu ei gwneud yn ofynnol i’r person cofrestredig gytuno i ymgymeriad (gweler y nodyn esboniadol sy’n mynd gydag adrannau 126 ac adrannau 135-155). Bydd buddiant cyhoeddus sylweddol yn gysylltiedig ag adolygu sancsiynau er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r sancsiynau ac er mwyn asesu addasrwydd person cofrestredig i ymarfer yn sgil y sancsiynau sydd wedi eu gosod. Mae Pennod 5 yn nodi’r system ar gyfer adolygu gorchmynion cofrestru amodol, gorchmynion atal dros dro ac ymgymeriadau. Cynhelir gwrandawiadau adolygu gan baneli addasrwydd i ymarfer ac mae dwy ffordd y gellir cychwyn adolygiad.

189.Y ffordd gyntaf yw bod rhaid i adolygiad gael ei gynnal os oes cyfarwyddyd i wneud hynny yn y gorchymyn neu’r ymgymeriad gwreiddiol. Er enghraifft, mae ymgymeriad y cytunir arno rhwng person cofrestredig a phanel addasrwydd i ymarfer i gwblhau cwrs hyfforddi yn ei gwneud yn ofynnol i adolygiad gael ei gynnal ar ôl 6 mis i asesu cydymffurfedd â’r ymgymeriad. Mae is-adrannau (1)-(6) o adran 151 yn ei gwneud yn ofynnol i baneli addasrwydd i ymarfer gynnal adolygiadau pan fo hynny yn ofynnol gan yr ymgymeriad, y gorchymyn cofrestru amodol neu’r gorchymyn atal dros dro. Gweler y nodyn esboniadol sy’n mynd gyda Phennod 5.

190.Mae adran 133 yn nodi’r ail ffordd o gychwyn adolygiad. GCC sy’n gyfrifol am fonitro cydymffurfedd ag amodau, ataliadau dros dro ac ymgymeriadau. Mae adran 132(3) yn gosod dyletswydd ar GCC i atgyfeirio achosion i banel addasrwydd i ymarfer i gynnal adolygiad os oes ganddo reswm dros gredu bod person cofrestredig wedi torri ymgymeriad neu amod. Er enghraifft, os daw GCC yn ymwybodol bod person cofrestredig yn methu â chydymffurfio â gorchymyn cofrestru amodol a’i fod yn ymarfer mewn maes y mae wedi ei wahardd rhag ymarfer ynddo, byddai’n ofynnol i GCC atgyfeirio’r mater i’w adolygu. Ni fyddai’r wybodaeth hon yn cael ei thrin fel honiad newydd ac ymchwilid iddi yn unol â hynny. Byddai’n cael ei atgyfeirio ar unwaith i banel addasrwydd i ymarfer i’w adolygu.

191.Mae GCC hefyd yn gallu atgyfeirio materion ar gyfer achosion adolygu ar unrhyw adeg os yw’n ystyried bod adolygiad yn ddymunol (adran 133(2)). Gallai hyn fod oherwydd bod GCC wedi cael honiad bod person cofrestredig sy’n ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol yn ymddwyn mewn ffordd sy’n rhoi amheuaeth ar ei addasrwydd i ymarfer. Unwaith eto, ni fydd yr honiad hwn yn cael ei drin fel honiad newydd, yn hytrach fe’i hatgyfeirir ar unwaith i banel addasrwydd i ymarfer i’w adolygu.

Pennod 3: Adrannau 134 - 142 – Gwaredu achosion addasrwydd i ymarfer

192.Mae paneli addasrwydd i ymarfer yn ystyried honiadau bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer. Mae’r Bennod hon yn nodi’r amrywiol bwerau sydd gan y paneli i waredu achosion.

193.Rhaid i baneli addasrwydd i ymarfer ddyfarnu a oes amhariad ar addasrwydd person i ymarfer ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a restrir yn adran 117. Mae gan y panel y pŵer i osod sancsiynau yn dilyn canfyddiad o amhariad (gweler adran 138). Prif ddiben sancsiwn yw amddiffyn y cyhoedd yn hytrach na chosbi, er y gall gael effaith gosbi hefyd. Pan fo panel wedi canfod nad oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, mae gan y panel ystod o opsiynau o ran sut i waredu’r achos; mae’r rhain yn cynnwys rhybuddio’r person cofrestredig am ei ymddygiad neu roi cyngor am newid ei ymddygiad yn y dyfodol (gweler adrannau 135 a 137). Gall GCC gyhoeddi canllawiau y bydd yn ofynnol i baneli addasrwydd i ymarfer eu hystyried wrth osod sancsiynau neu waredu achosion (gweler adran 162). Er enghraifft, gallai’r canllawiau nodi’r ffactorau y dylai’r panel eu hystyried wrth ystyried a ddylid dyroddi rhybudd.

194.Dim ond am gyfnod o 3 blynedd yn y lle cyntaf y gellir gosod unrhyw amodau a osodir ar gofrestriad person cofrestredig gan banel addasrwydd i ymarfer a dim ond am 12 mis yn y lle cyntaf drwy orchymyn atal dros dro y gellir atal dros dro gofrestriad person cofrestredig. Mae manylion am y broses adolygu ar gyfer adolygu amodau ac ataliadau dros dro i’w gweld ym Mhennod 5 ac mae’n cael ei hesbonio isod. Gall amodau ac ataliadau dros dro gael eu hestyn y tu hwnt i’r terfynau amser a osodir gan banel addasrwydd i ymarfer yn sgil adolygiad. Gallai gweithiwr cymdeithasol, er enghraifft, gael ei atal dros dro rhag ymarfer fel gweithiwr cymdeithasol am 12 mis gan banel addasrwydd i ymarfer; wrth wneud y gorchymyn atal dros dro perthnasol, gallai’r panel bennu y byddai’r gorchymyn atal dros dro yn cael ei adolygu gan banel addasrwydd i ymarfer arall fis cyn i’r gorchymyn ddod i ben. Pe bai’r panel a oedd yn cynnal yr adolygiad yn ystyried bod yr amhariad yn parhau i fod ar addasrwydd y person i ymarfer, gallai ddefnyddio adran 154 i estyn y gorchymyn atal dros dro am flwyddyn arall. Fodd bynnag, ni allai ddefnyddio adran 154 i estyn yr ataliad dros dro am gyfnod hwy na 12 mis. Yn yr un ffordd, ni allai estyn gorchymyn cofrestru amodol am gyfnod pellach sy’n hwy na 3 blynedd. Nid oes modd i estyniadau fod yn fwy na’r terfynau amser a osodir yn adran 139.

195.Fodd bynnag, mae amgylchiadau pan ellir estyn gorchmynion atal dros dro am gyfnod sy’n hwy na 12 mis. Gall personau cofrestredig y mae amhariad ar eu haddasrwydd i ymarfer ar seiliau iechyd gael eu hatal am gyfnod amhenodol ar ôl cael eu hatal dros dro am gyfnod o ddwy flynedd. Gweler y nodiadau esboniadol ar gyfer Pennod 5 am esboniad pellach.

196.Gall personau cofrestredig apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn unrhyw sancsiwn a osodir gan banel addasrwydd i ymarfer yn dilyn canfyddiad o amhariad (adran 158). Mae adran 140 yn rhoi’r pŵer i baneli addasrwydd i ymarfer i ddyroddi gorchmynion amodol effaith ar unwaith a gorchmynion atal dros dro effaith ar unwaith wrth aros am ganlyniad unrhyw apêl i’r Tribiwnlys. Yr un diben sydd i orchmynion o’r fath ag sydd i orchmynion interim. Fodd bynnag, maent yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol. Nid yw gorchmynion effaith ar unwaith yn cael eu hadolygu’n gyfnodol fel gorchmynion interim ac mae eu cyfnod para yn gysylltiedig â’r broses apelio. (Gweler y nodyn esboniadol ar gyfer Pennod 4 o’r Rhan hon am ragor o wybodaeth am orchmynion interim.) Felly, gellid gosod gorchymyn atal dros dro effaith ar unwaith os yw panel addasrwydd i ymarfer wedi gorchymyn bod cofnod sy’n ymwneud â pherson cofrestredig yn cael ei ddileu o’r gofrestr. Ni fydd y dileu hwn yn dod i rym tan i’r cyfnod apelio fynd heibio neu fod apêl wedi dod i ben; felly byddai’r gorchymyn effaith ar unwaith yn gam a gymerir i amddiffyn y cyhoedd yn y cyfnod cyfamserol.

Pennod 4: Adrannau 143 - 149 – Gorchmynion interim ac adolygu gorchmynion interim

197.Diben gorchmynion interim yw galluogi gosod cyfyngiadau dros dro gael eu gosod mewn cysylltiad â pherson cofrestredig tra bo ymchwiliadau yn cael eu gwneud i honiadau a wneir yn erbyn y person.

198.Mae adran 174 yn ei gwneud yn ofynnol i GCC wneud rheolau ar gyfer sefydlu paneli gorchmynion interim; yn fras, rôl y paneli hyn fydd gosod ac adolygu gorchmynion interim. Mae dau fath o orchmynion interim; gorchymyn cofrestru amodol interim sy’n caniatáu i’r person cofrestredig barhau i ymarfer ond mewn cymhwyster cyfyngedig; a gorchymyn atal dros dro interim sy’n atal y person cofrestredig rhag ymarfer o gwbl hyd nes y ceir dyfarniad terfynol ar ei achos.

199.Nid yw’r panel sy’n gosod neu’n adolygu gorchymyn interim yn gyfrifol am wneud dyfarniad terfynol ynghylch a yw’r honiadau am anaddasrwydd person i ymarfer yn wir. Y prawf ar gyfer gosod, neu gadarnhau gorchymyn yn sgil adolygiad, yw a oes angen y gorchymyn er mwyn amddiffyn y cyhoedd neu a yw er budd y cyhoedd neu’r person cofrestredig fel arall.

200.Mae gorchmynion interim yn cymryd effaith ar unwaith a gellir eu gosod am hyd at 18 mis; mae gan berson y mae gorchymyn yn cael ei wneud mewn cysylltiad ag ef hawl i apelio o dan adran 145; byddai unrhyw apêl yn cael ei hystyried gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf. Rhaid i banel gorchmynion interim adolygu’r gorchmynion sydd mewn grym yn unol â gofynion adran 146; gellir estyn gorchmynion os yw GCC yn credu bod angen hynny drwy wneud cais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Pennod 5: Adrannau 150 - 157 – Achosion adolygu

201.Mae’r Bennod hon yn nodi’r system ar gyfer adolygu amodau ymarfer, gorchmynion atal dros dro ac ymgymeriadau. Bydd pob gwrandawiad adolygu o dan y Bennod hon yn cael ei gynnal gan baneli addasrwydd i ymarfer. Rhaid i wrandawiadau gael eu cynnal os yw hyn wedi cael ei gyfarwyddo gan y panel gwreiddiol, neu os cytunwyd arno yn achos ymgymeriad. Felly, gallai gorchymyn cofrestru amodol i gwblhau cwrs hyfforddi o fewn 6 mis ddarparu bod rhaid i adolygiad gael ei gynnal cyn i’r gorchymyn ddod i ben i sicrhau bod y person cofrestredig wedi cwblhau’r cwrs. Dylid cynnal gwrandawiadau hefyd os daw GCC i wybod am dystiolaeth newydd sy’n awgrymu y dylid adolygu sancsiwn a osodwyd ar berson. Er enghraifft, os daw GCC i wybod am honiad bod gweithiwr cymdeithasol sydd wedi ei atal dros dro yn ymarfer, dylid cynnal gwrandawiad adolygu. Gweler y nodyn esboniadol ar gyfer adrannau 131-133 am fanylion pellach.

202.Mae paneli yn gallu gwneud nifer o benderfyniadau ynghylch y gorchymyn gwreiddiol; (boed hwnnw yn orchymyn cofrestru amodol, gorchymyn atal dros dro, neu ymgymeriad). Caiff panel gadarnhau neu ddirymu gorchymyn; caiff estyn neu leihau cyfnod y gorchymyn; neu caiff addasu neu ddileu unrhyw un neu ragor o’r amodau. Gall y panel hefyd osod unrhyw sancsiwn neu ffurf arall ar warediad y mae’n ystyried ei fod yn fwy priodol. Er enghraifft, efallai y bydd torri’r amodau’n fynych ac yn ddifrifol yn golygu bod angen gorchymyn dileu.

203.Wrth adolygu gorchymyn atal dros dro, gall paneli estyn y gorchymyn am gyfnod amhenodol os yw person cofrestredig wedi cael ei atal dros dro am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf ond dim ond oherwydd iechyd gwael. Gall y rheini sy’n ddarostyngedig i orchmynion atal dros dro amhenodol ofyn i banel addasrwydd i ymarfer adolygu’r gorchymyn. Ni ellir gwneud y cais cyntaf i adolygu hyd nes bod 2 flynedd wedi mynd heibio ers gwneud y gorchymyn; ac mae ceisiadau adolygu dilynol yn ddarostyngedig i gyfyngiadau tebyg: unwaith y mae cais aflwyddiannus wedi ei wneud, rhaid i berson aros am gyfnod o 2 flynedd cyn gwneud cais arall. Byddai hyn yn berthnasol i weithwyr a allai fod yn dioddef o salwch hirdymor ac na allant ymarfer am gyfnod sylweddol ac felly nad yw adolygiadau rheolaidd yn briodol yn eu hachos hwy.

Pennod 6: Apelau ac atgyfeiriadau i’r tribiwnlys
Adran 158 - Apelau yn erbyn penderfyniadau panel addasrwydd i ymarfer

204.Mae adran 158 yn darparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniadau panel addasrwydd i ymarfer i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Felly, gallai personau cofrestredig sy’n anfodlon ar amod sydd wedi ei osod neu ar y ffaith eu bod wedi eu dileu o’r gofrestr, er enghraifft, ofyn i’r Tribiwnlys edrych ar y penderfyniad hwn.

Pennod 7: Adrannau 159 - 164 – Cyffredinol ac atodol

205.Mae’n hanfodol bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei rhoi mewn modd amserol er mwyn i’r broses addasrwydd i ymarfer weithio’n effeithlon ac yn effeithiol. Gallai achosion o bersonau cofrestredig neu eu cyflogwyr yn oedi neu’n gwrthod rhoi gwybodaeth olygu ei bod yn anodd parhau ag achosion a’u dirwyn i ben. Mae adran 160 yn galluogi GCC i’w gwneud yn ofynnol i bersonau gyflwyno gwybodaeth ac, mewn achos o ddiffyg cydymffurfedd, wneud cais i’r Tribiwnlys iddo ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth a gedwir yn ôl gael ei datgelu. Fodd bynnag, ni all fod yn ofynnol i bersonau gyflwyno gwybodaeth sydd wedi ei diogelu rhag cael ei datgelu gan ddeddfwriaeth neu reol gyfreithiol arall. Ni allai cais am wybodaeth drechu unrhyw beth sy’n gwahardd datgelu yn Neddf Diogelu Data 1998, er enghraifft.

206.Mae adran 161 yn ei gwneud yn ofynnol i GCC gyhoeddi pob penderfyniad a wneir gan baneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim, ac eithrio penderfyniadau i beidio â chymryd camau pellach. Mae hyn hefyd yn gymwys i benderfyniadau a wneir yn sgil adolygiad. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y broses yn dryloyw a bod yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd.

207.Mae adran 163 yn darparu, yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn is-adran (3), nad yw person i gael ei drin fel person cofrestredig os yw’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro er gwaethaf y ffaith bod ei enw yn parhau i fod ar y gofrestr. Bydd hyn yn sicrhau nad oes modd i weithwyr gofal cymdeithasol sy’n ddarostyngedig i orchymyn atal dros dro eu galw eu hunain yn weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig na honni eu bod wedi eu cofrestru.

Rhan 7 – Gorchmynion Sy’N Gwahardd Gwaith Mewn Gofal Cymdeithasol: Personau Anghofrestredig

Adrannau 165-173 - Gorchmynion sy’n gwahardd gwaith mewn gofal cymdeithasol: personau anghofrestredig

208.Mae darpariaethau o dan Ran 7 yn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu cynllun gwahardd drwy reoliadau. O dan Ddeddf 2000, roedd y Cyngor yn cynnal cofrestr ar gyfer categorïau o weithwyr gofal cymdeithasol nad oedd gofyniad cyfreithiol arnynt i gofrestru. Felly, gallai gweithwyr gofal cymdeithasol o’r fath gofrestru’n wirfoddol. Mewn cyferbyniad, dim ond y gweithwyr gofal cymdeithasol hynny y mae’n ofynnol iddynt gofrestru y mae’n ofynnol i GCC gadw cofrestr ohonynt. Ni fydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn gallu cofrestru’n wirfoddol â GCC. Mae cyflwyno cynllun gwahardd yn ffordd o reoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol nad oes rhan iddo yn y gofrestr er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn gymwys ac yn addas i ddarparu gofal i’r cyhoedd. Byddai paneli addasrwydd i ymarfer yn gwneud hyn drwy wneud gorchmynion sy’n gwahardd unigolion penodol rhag gwneud gweithgareddau a ddynodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Felly, ni fydd y cynllun yn cyfyngu ar fynediad i ymarfer ond bydd yn caniatáu i GCC gymryd camau yn erbyn person sy’n methu â chydymffurfio â’r safonau ymddygiad priodol.

209.Bwriedir i “gweithgareddau dynodedig” gynnwys y gweithgareddau hynny sydd fel arfer yn cael eu gwneud gan weithwyr gofal cymdeithasol anghofrestredig sy’n ymwneud â darparu gofal a chymorth i bersonau hyglwyf gan gynnwys plant. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys darparu cymorth eirioli i ddiwallu anghenion gofal a chymorth personau hyglwyf neu ddarparu gofal cartref i bersonau hyglwyf. Ni ellir gwneud rheoliadau sy’n dynodi gweithgareddau rheoleiddiedig at ddibenion gorchmynion gwahardd oni bai eu bod yn cael eu cymeradwyo ar ffurf ddrafft gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 187(2)).

210.Gall rheoliadau nodi pa amodau y mae rhaid iddynt gael eu bodloni cyn y gall panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn gwahardd mewn cysylltiad â pherson. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys bod y person wedi ei gollfarnu o drosedd o fath penodol. Fel gyda’r broses addasrwydd i ymarfer yn Rhan 7, mae darpariaeth ar gyfer gwneud gorchmynion gwahardd interim i amddiffyn y cyhoedd ar unwaith tra ymchwilir i achosion. Mae torri gorchymyn gwahardd neu orchymyn gwahardd interim yn drosedd a gwrandewir achos yn y llys ynadon yn unig. Y gosb ar gollfarn yw dirwy heb derfyn ar swm y ddirwy y caniateir i’r llys ei osod. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn gallu gwneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn drosedd i bersonau gyflogi neu benodi personau sy’n ddarostyngedig i orchmynion gwahardd yn weithiwr gofal cymdeithasol. Bydd rhaid i unrhyw reoliadau o’r fath gael eu cymeradwyo ar ffurf ddrafft gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn iddynt gael eu gwneud (gweler adran 187(2)).

Rhan 8 – Gofal Cymdeithasol Cymru: Dyletswydd I Sefydlu Paneli Etc.

211.Mae adran 174 yn darparu bod rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth i gael paneli apelau cofrestru, paneli gorchmynion interim a phaneli addasrwydd i ymarfer. Mae adran 174 a rheolau a wneir odani yn nodi sut y mae pob un o’r paneli i’w gyfansoddi. Bwriedir i’r darpariaethau sicrhau bod mesurau diogelwch yn eu lle i sicrhau bod aelodau’r panel yn ddiduedd ac yn gallu gwneud penderfyniadau heb fod gwrthdaro buddiannau yn effeithio arnynt. Mae is-adran (5) yn rhestru’r mathau o berson sydd wedi eu gwahardd rhag bod yn aelodau o banel ac mae paragraff (b) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gwahardd personau ychwanegol. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys person nad yw’n aelod o staff GCC (a fyddai wedi ei wahardd yn rhinwedd paragraff (a)) ond sydd wedi rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater, neu berson sydd wedi bod ar banel o fath tebyg.

212.Mae adran 175 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad ag achosion gerbron y paneli. Gallai’r rheoliadau, er enghraifft, nodi pwerau rheoli achosion GCC a materion gweithdrefnol eraill sy’n ymwneud â gwrandawiadau gerbron paneli. Gallai’r rheoliadau ddarparu bod gweithdrefnau gwahanol yn gymwys i baneli gwahanol fel bod rhai achosion, er enghraifft, pan fo rhaid i baneli gorchmynion interim glywed achosion yn breifat.

213.Mae is-adran (4) o adran 175 yn darparu y bydd y safon brofi sifil yn gymwys i achosion pob panel a sefydlir o dan y Ddeddf hon. Felly, bydd yn ofynnol i baneli ddyfarnu ar gwestiynau ffeithiol yn ôl pwysau tebygolrwydd.

Rhan 9 – Cydweithredu a Chydweithio Gan Y Cyrff Rheoleiddiol Etc.

214.Mae adrannau 176 i 182 yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau fel rheoleiddiwr gwasanaethau o dan y Ddeddf, ac i GCC. Mae’r adrannau hyn hefyd yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan adran 15 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 mewn cysylltiad ag arolygu mangreoedd sy’n ymwneud â gwasanaethau mabwysiadu, ac i rai o’u swyddogaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae adran 178 hefyd yn gymwys i’r awdurdodau perthnasol a restrir yn adran 177. Nod y set hon o ddarpariaethau yw darparu sicrwydd cyfreithiol i’r rheoleiddiwr gwasanaethau (AGGCC fel adran o Lywodraeth Cymru sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru), rheoleiddiwr y gweithlu (Gofal Cymdeithasol Cymru) a’r awdurdodau perthnasol mewn perthynas â graddau eu dyletswyddau i gydweithredu a gweithio gyda’i gilydd wrth arfer eu priod swyddogaethau.

215.Mae’r darpariaethau hyn yn ei gwneud yn glir bod hawlogaeth gyfreithiol gan yr awdurdodau cyhoeddus perthnasol i gydweithio ag awdurdodau cyhoeddus eraill ac yn wir, fod rhaid iddynt wneud hynny pan fo hynny’n gyson â’u priod swyddogaethau.

216.Rhaid i Weinidogion Cymru a GCC gydweithredu â’i gilydd bob amser wrth arfer y swyddogaethau a grybwyllir uchod os ydynt yn meddwl y bydd gwneud hynny yn dod â’r manteision a grybwyllir yn adran 178. Mae adran 177 yn cynnwys rhestr o awdurdodau perthnasol y mae’n ofynnol iddynt gydweithredu â’r rheoleiddwyr o dan adran 178, ond dim ond pan ofynnir iddynt wneud hynny. Ni chaniateir i gais o’r fath gael ei wneud oni bai bod y rheoleiddiwr o dan sylw yn meddwl y bydd y cydweithredu yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae ei swyddogaethau yn cael eu harfer, neu y bydd yn ei helpu i gyflawni ei amcanion cyffredinol fel y’u nodir yn adrannau 4 a 68 o’r Ddeddf. Mae’r swyddogaethau a’r amcanion hynny yn gymwys o ran Cymru yn unig. Bydd dyletswydd o’r fath yn gymwys oni bai bod yr amgylchiadau a nodir yn adran 178(3) yn gymwys (gweler isod). Mae adran 178(4) yn ddyletswydd ddwyochrog ar y rheoleiddwyr i gydweithredu â’r awdurdodau perthnasol pan ofynnir iddynt wneud hynny.

217.Nid yw adran 178 yn cyfyngu’n benodol ar yr hyn a olygir wrth gydweithredu. Mae wedi ei lunio i gynnwys unrhyw fath o gymorth y gall un sefydliad ei roi i un arall. Ymhlith yr enghreifftiau o’r math o gydweithredu y gallai’r adran roi hawlogaeth i gorff rheoleiddiol i ofyn amdano neu ei roi mae-

  • cydgysylltu gweithgaredd gorfodi pan fo awdurdodaethau rheoleiddiol yn gorgyffwrdd;

  • trafod sut i ddelio â diddordeb y cyfryngau mewn perthynas â materion o bryder i’r ddau sefydliad;

  • cyfrannu at safonau, rheolau, gofynion addysgol etc.;

  • rhoi benthyg arbenigedd ar gyfer digwyddiadau hyfforddi staff;

  • rhannu dadansoddiadau ac asesiadau mewn perthynas â phatrymau neu dueddiadau sy’n berthnasol i’r ddau sefydliad.

218.Bydd gan gorff rheoleiddiol hawlogaeth i ofyn am gydweithrediad awdurdod a restrir yn adran 177 cyn belled â bod y corff rheoleiddiol yn penderfynu y bydd cydweithredu naill ai’n cael effaith gadarnhaol ar y ffordd y mae’n arfer ei swyddogaethau presennol neu y bydd y cydweithredu yn helpu’r rheoleiddiwr i gyflawni’r amcanion cyffredinol sydd ganddo o dan adran 4 neu 68.

219.Unwaith y bydd un o’r cyrff rheoleiddiol yn gofyn am gydweithrediad awdurdod, rhaid i’r awdurdod gydymffurfio â’r cais oni bai bod un o dri eithriad yn gymwys (gweler adran 178(3)(a), (b) ac (c)). Yr eithriadau yw fel a ganlyn—

  • Mae’r gyfraith yn atal yr awdurdod rhag cydweithredu yn y ffordd y gofynnir amdani (gallai hyn fod yn gyfraith mewn darn arall o statud neu hyd yn oed mewn rheol o dan y gyfraith gyffredin);

  • Mae’r awdurdod yn meddwl yn rhesymol y byddai cydweithredu fel y gofynnir amdano yn anghydnaws â swyddogaethau’r awdurdod ei hun; neu

  • Mae’r awdurdod yn meddwl y byddai’r cydweithredu yn cael effaith andwyol ar ei swyddogaethau (er enghraifft, hyd yn oed mewn achos pan fo’r gyfraith yn caniatáu i’r awdurdod gydweithredu a bod yr awdurdod yn meddwl y byddai’n ategu ei swyddogaethau ei hun, efallai y byddai’n dal i wrthod cydweithredu oherwydd y gost o wneud hynny. Hynny yw, mae’r awdurdod yn ystyried yn rhesymol y byddai’r costau o gydweithredu yn arwain at effaith andwyol ar ei swyddogaethau ei hun).

220.Mae’r dull gweithredu yn y Ddeddf mewn perthynas â rheolwyr yn dangos pwysigrwydd y ffaith bod y ddau reoleiddiwr (h.y. Gweinidogion Cymru a GCC) yn cydweithio wrth arfer eu priod swyddogaethau. Roedd y system o dan Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr sefydliadau ac asiantaethau a oedd wedi eu cofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 gofrestru â rheoleiddiwr y gwasanaeth a rheoleiddiwr y gweithlu. O ganlyniad i’r system reoleiddio o dan y Ddeddf, nid yw’n ofynnol i reolwyr gofrestru â rheoleiddiwr y gwasanaeth mwyach. Bydd rheoliadau a wneir o dan adrannau 27 ac 28 yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr gofrestru â rheoleiddiwr y gweithlu’n unig a gellid gwneud rheoliadau o dan adran 79(1)(b) i’w gwneud yn ofynnol i GCC gadw cofrestr mewn cysylltiad â rheolwyr gwasanaethau rheoleiddiedig.

221.Gallai rheoliadau o dan adran 28 ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn cyfrifol mewn perthynas â man y darperir gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef fod yn gyfrifol am gyflogi rheolwr addas ac am oruchwylio’r rheoli. O dan yr amgylchiadau hynny bydd yn ofynnol i reoleiddiwr y gwasanaeth gymryd camau yn erbyn yr unigolyn cyfrifol (ac nid y rheolwr) pan fo methiannau yn y rheoli. O gofio ei bod yn debygol mai rheoleiddiwr y gwasanaeth fydd â’r cyswllt mwyaf â’r rheolwyr ac y bydd yn fwy ymwybodol o achos pan fo rheolwr yn tanberfformio, byddai rheoleiddiwr y gweithlu yn dibynnu ar reoleiddiwr y gwasanaeth i rannu gwybodaeth am reolwyr a chefnogi rheoleiddiwr y gweithlu, pan fo angen, wrth ddwyn achosion addasrwydd i ymarfer yn erbyn rheolwyr gwasanaethau.

222.Mae adran 179 yn caniatáu i’r ddau reoleiddiwr arfer ar y cyd swyddogaethau sydd gan y naill neu’r llall, h.y. mae gan Weinidogion Cymru swyddogaeth A, mae gan GCC swyddogaeth B, a phan fo Gweinidogion Cymru a GCC yn trefnu arfer swyddogaethau A a B ar y cyd o dan yr adran hon, bydd y ddau gorff yn atebol yn gyfreithiol am arfer swyddogaethau A a B. Golyga hyn y bydd y ddau gorff yn ymatebwyr i unrhyw her adolygiad barnwrol i arfer swyddogaethau y naill neu’r llall. Gellid defnyddio’r pŵer hwn, er enghraifft, i ganiatáu i’r cyrff sefydlu cyd-bwyllgor i arfer swyddogaeth Gweinidogion Cymru o adolygu astudiaethau ac ymchwil i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac i adolygu’r swyddogaethau hynny (gweler adrannau 149A a 149B o Ddeddf 2014 fel y’u mewnosodir gan adran 56) ochr yn ochr â swyddogaeth GCC o gynnal astudiaethau cymharol neu astudiaethau eraill o dan adran 70.

223.Mae adran 180 yn caniatáu i’r rheoleiddwyr ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau i’r llall. Gellid defnyddio hyn, er enghraifft, i ganiatáu i Weinidogion Cymru fel rheoleiddiwr gwasanaethau ddirprwyo eu swyddogaeth o awdurdodi personau i gynnal arolygiadau o dan adran 33(2) i GCC sydd â swyddogaethau sy’n ymwneud â phenodi personau i gynnal ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer (gweler adran 125).

224.Mae adrannau 181 a 182 yn ddarpariaethau rhannu gwybodaeth sydd â’r nod o ddarparu sicrwydd i’r rheoleiddwyr am y graddau y maent yn meddu ar y pŵer i rannu gwybodaeth wrth fynd ati i arfer eu swyddogaethau.

Cofnod Y Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

225.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar:

CyfnodDyddiad
Cyflwyno23 Chwefror 2015
Cyfnod 1 - Dadl14 Gorffennaf 2015
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau7 Hydref 2015
15 Hydref 2015
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau17 Tachwedd 2015
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad24 Tachwedd 2015
Y Cydsyniad Brenhinol18 Ionawr 2016

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill