Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Rheoliadau a chanllawiau

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Croes Bennawd: Rheoliadau a chanllawiau. Help about Changes to Legislation

Rheoliadau a chanllawiauLL+C

27Rheoliadau ynghylch gwasanaethau rheoleiddiedigLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig.

(2)Rhaid i ofynion a osodir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu gan ddarparwr gwasanaeth.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud rheoliadau sy’n gosod gofynion o’r math a grybwyllir yn is-adran (2), roi sylw—

(a)i bwysigrwydd llesiant unrhyw unigolion y bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu iddynt, a

(b)i’r safonau ansawdd sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw god a ddyroddir o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau a bennir mewn datganiadau llesiant).

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy, a

(b)cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o ddatganiad a gyhoeddir o dan is-adran (4)(b) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori a chyhoeddi datganiad yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 27 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)

28Rheoliadau ynghylch unigolion cyfrifolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar unigolyn cyfrifol mewn perthynas â man y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn cyfrifol benodi unigolyn o ddisgrifiad rhagnodedig i reoli’r man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.

(3)Caniateir i reoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth i swyddogaeth a roddir i unigolyn cyfrifol gan y rheoliadau gael ei dirprwyo i berson arall o dan amgylchiadau rhagnodedig yn unig ond ni chaiff darpariaeth o’r fath effeithio ar atebolrwydd neu gyfrifoldeb yr unigolyn cyfrifol am arfer y swyddogaeth.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 28 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)

29Canllawiau ynghylch rheoliadau o dan adrannau 27 a 28LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch—

(a)sut y caiff darparwyr gwasanaethau gydymffurfio â gofynion a osodir drwy reoliadau o dan adran 27(1) (gan gynnwys sut y caiff darparwyr gyrraedd unrhyw safonau ar gyfer darparu gwasanaeth rheoleiddiedig a bennir drwy reoliadau o’r fath);

(b)sut y caiff unigolion cyfrifol gydymffurfio â gofynion a osodir drwy reoliadau o dan adran 28(1).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (1) a rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig.

(3)Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6A. 29 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)

30Rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu diddymu etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson a benodir eu hysbysu am y penodiad hwnnw;

(b)i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig i ddarparwyr gwasanaethau y mae person o’r fath wedi ei benodi mewn perthynas â hwy.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “person a benodir” yw person a benodir—

(a)yn dderbynnydd neu’n dderbynnydd gweinyddol o eiddo darparwr gwasanaeth sy’n gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth;

(b)yn ddiddymwr, yn ddiddymwr dros dro neu’n weinyddwr i ddarparwr gwasanaeth sy’n gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth;

(c)yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn neu’n bartneriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8A. 30 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)

31Rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi marwLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—

(a)i’r Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw;

(b)sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynrychiolwyr personol unigolyn o’r fath hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) yn benodol ddarparu i berson rhagnodedig nad yw’n ddarparwr gwasanaeth weithredu yn y rhinwedd honno am gyfnod rhagnodedig ac i’r cyfnod hwnnw gael ei estyn o dan amgylchiadau rhagnodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10A. 31 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?