Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/12/2019
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/02/2018.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, RHAN 4.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Yn Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon ystyr “gweithiwr gofal cymdeithasol” yw person—
(a)sy’n ymgymryd â gwaith cymdeithasol perthnasol (y cyfeirir ato yn y Rhannau hynny fel “gweithiwr cymdeithasol”);
(b)sy’n rheoli man y darperir gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo neu ohono [F1(y cyfeirir ato yn y Rhannau hynny fel “rheolwr gofal cymdeithasol”)] ;
(c)sydd, yn ystod ei gyflogaeth gyda darparwr gwasanaeth, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr hwnnw;
(d)sydd, o dan gontract am wasanaethau, yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)eithrio personau o ddisgrifiad penodedig o’r diffiniad o weithiwr gofal cymdeithasol yn is-adran (1);
(b)darparu bod personau o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau yn is-adran (3), neu gategorïau o berson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau hynny, i’w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.
(3)Y disgrifiadau o bersonau yw—
(a)person sydd wedi ei ddynodi o dan Bennod 2 o Ran 1 (cofrestru etc. darparwyr gwasanaethau) yn unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â man y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef;
(b)person sy’n ymgymryd â gwaith at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol (o fewn ystyr Deddf 2014), neu â’r ddarpariaeth o wasanaethau sy’n debyg i wasanaethau y caniateir iddynt gael, neu y mae rhaid iddynt gael, eu darparu gan awdurdodau lleol wrth arfer y swyddogaethau hynny;
(c)person sy’n darparu gofal a chymorth a fyddai, oni bai am baragraff 8(2)(a) o Atodlen 1, yn gyfystyr â darparu gwasanaeth cymorth cartref;
(d)person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) fel—
(i)gwarchodwr plant, neu
(ii)darparwr gofal dydd i blant;
(e)person sy’n rheoli ymgymeriad, neu sydd wedi ei gyflogi mewn ymgymeriad, sy’n cynnal busnes cyflogi (o fewn ystyr “employment business” yn adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973 (p.35)) sy’n cyflenwi personau i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru;
(f)person sy’n rheoli ymgymeriad, neu sydd wedi ei gyflogi mewn ymgymeriad, sy’n cynnal asiantaeth gyflogi (o fewn ystyr “employment agency” yn yr adran a grybwyllir ym mharagraff (e)) sy’n darparu gwasanaethau at ddiben cyflenwi personau i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson yng Nghymru;
(g)person sy’n ymgymryd â chwrs a gymeradwyir gan GCC o dan adran 114 (cyrsiau ar gyfer personau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithiwr gofal cymdeithasol);
(h)arolygydd sy’n cynnal arolygiadau o wasanaethau rheoleiddiedig ar ran Gweinidogion Cymru o dan Bennod 3 o Ran 1 o’r Ddeddf hon (gwybodaeth ac arolygiadau);
(i)arolygydd sy’n cynnal arolygiadau o dan adran 161 o Ddeddf 2014 (arolygiadau mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol);
(j)person a gyflogir mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Plant 1989 (p.41) (arolygu cartrefi plant etc.);
(k)staff Llywodraeth Cymru sy’n arolygu mangreoedd o dan—
(i)adran 87 o Ddeddf Plant 1989 (lles plant sydd wedi eu lletya mewn ysgolion annibynnol a cholegau), neu
(ii)adran 40 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (arolygu gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru);
(l)person sy’n rheoli staff a grybwyllir ym mharagraff (j) neu (k).
(4)At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon ystyr “gwaith cymdeithasol perthnasol” yw gwaith cymdeithasol sy’n ofynnol mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir yng Nghymru.
(5)Gweler adran 2 am ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” ac adran 3 am ystyr “darparwr gwasanaeth” a “gofal a chymorth”.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 79(1)(b) wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 125(2) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 79 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 79 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i GCC gadw cofrestr—
(a)o weithwyr cymdeithasol,
(b)o weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau,F2...
(c)o weithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol (gweler adran 90) [F3 , a ]
[F4(d)o reolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol (gweler adran 90A).]
(2)Rhaid cadw rhan ar wahân o’r gofrestr—
(a)ar gyfer gweithwyr cymdeithasol;
(b)ar gyfer pob disgrifiad o weithiwr gofal cymdeithasol a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b);
(c)ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol.
[F5(d)ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol.]
(3)At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—
(a)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(a) yw’r “rhan gweithwyr cymdeithasol” o’r gofrestr;
(b)mae rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(b) yn “rhan ychwanegol” o’r gofrestr;
(c)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(c) yw’r “rhan [F6gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad]” o’r gofrestr.
[F7(d)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(d) yw'r “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad.]
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn a. 80(1)(b) wedi ei hepgor (3.4.2017) yn rhinwedd The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 127(2)(a) (ynghyd â rhl. 155)
F3Gair yn a. 80(1)(c) wedi ei fewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 127(2)(b) (ynghyd â rhl. 155)
F4A. 80(1)(d) wedi ei fewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 127(2)(c) (ynghyd â rhl. 155)
F5A. 80(2)(d) wedi ei fewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 127(3) (ynghyd â rhl. 155)
F6Geiriau yn a. 80(3)(c) wedi eu hamnewid (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 127(4)(a) (ynghyd â rhl. 155)
F7A. 80(3)(d) wedi ei fewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 127(4)(b) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I4A. 80 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i GCC benodi cofrestrydd.
(2)Mae person a benodir yn gofrestrydd yn dal y swydd ar unrhyw delerau ac amodau sy’n briodol ym marn GCC; ond rhaid i GCC ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar unrhyw delerau ac amodau ynghylch y lefelau tâl, pensiynau, lwfansau a threuliau sy’n daladwy i berson o’r fath neu mewn cysylltiad ag ef.
(3)Gweler paragraff 13 o Atodlen 2 am ddarpariaeth bellach ynghylch staff GCC.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I6A. 81 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae cais i gofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr i’w wneud i’r cofrestrydd.
(2)Rhaid i gais o dan is-adran (1) bennu pob rhan o’r gofrestr y gwneir cais i gofrestru ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I8A. 82 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i’r cofrestrydd ganiatáu cais a wneir o dan adran 82 os yw wedi ei fodloni—
(a)bod y cais wedi ei wneud ar y ffurf ac yn y modd a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC,
(b)bod yr ymgeisydd wedi talu’r ffi (os oes ffi) a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC o dan adran 74, ac
(c)bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion cofrestru.
(2)Y gofynion cofrestru yw—
(a)bod y person wedi ei gymhwyso’n briodol (gweler adran 84),
(b)nad oes unrhyw amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer ar un neu ragor o’r seiliau yn adran 117(1), ac
(c)bod y person yn bwriadu ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.
(3)At ddibenion is-adran (2)(c) caiff GCC drwy reolau bennu—
(a)gweithgareddau sydd i’w hystyried fel ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru mewn rhan o’r gofrestr;
(b)y meini prawf i’w cymhwyso gan y cofrestrydd ar gyfer dyfarnu a yw person yn bwriadu ymarfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I10A. 83 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
At ddibenion adran 83 mae person wedi ei gymhwyso’n briodol—
(a)os yw’r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol—
(i)wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithwyr cymdeithasol,
(ii)yn bodloni gofynion adran 85 (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru [F8 – gweithwyr cymdeithasol ]), neu
(iii)yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC eu gosod drwy reolau;
[F9(aa)os yw'r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol—
(i)wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy'n dymuno dod yn rheolwyr gofal cymdeithasol,
(ii)yn bodloni gofynion adran 85A (cymwysterau a geir tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol), neu
(iii)yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â rheolwyr gofal cymdeithasol;]
(b)os yw’r ymgeisydd, yn achos ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall—
(i)wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithiwr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw, neu
(ii)sy’n bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â gweithwyr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F8Geiriau yn a. 84(a)(ii) wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 129(2) (ynghyd â rhl. 155)
F9A. 84(aa) wedi ei fewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 129(3) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I12A. 84 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae ymgeisydd ar gyfer cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr yn bodloni gofynion yr adran hon os yw’r ymgeisydd yn berson esempt sydd, yn rhinwedd Rhan 3 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol, wedi ei ganiatáu i ddilyn proffesiwn gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig (ar ôl, yn benodol, gwblhau unrhyw gyfnod addasu yn llwyddiannus, neu basio unrhyw brawf tueddfryd, y caiff fod yn ofynnol i’r ymgeisydd ei gwblhau yn unol â’r Rhan honno o’r Rheoliadau hynny).
(2)Mae ymgeisydd ar gyfer cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr yn bodloni gofynion yr adran hon—
(a)os yw’r ymgeisydd wedi gwneud hyfforddiant mewn gwaith cymdeithasol yn rhywle arall ac eithrio Cymru, a
(b)os, naill ai—
(i)cydnabyddir yr hyfforddiant hwnnw gan GCC fel hyfforddiant o safon sy’n ddigonol ar gyfer cofrestriad o’r fath, neu
(ii)na chydnabyddir yr hyfforddiant yn y fath fodd, ond bod yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol gan GCC (pa un a yw hynny yng Nghymru neu yn rhywle arall).
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn a. 85 pennawd wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 131(2) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I14A. 85 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
Mae ymgeisydd ar gyfer cofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol mewn rhan ychwanegol o'r gofrestr yn bodloni gofynion yr adran hon os yw'r ymgeisydd yn berson esempt sydd, yn rhinwedd Rhan 3 o'r Rheoliadau Systemau Cyffredinol wedi ei ganiatáu i ddilyn proffesiwn rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig (ar ôl, yn benodol, gwblhau unrhyw gyfnod addasu yn llwyddiannus, neu basio unrhyw brawf tueddfryd, y caiff fod yn ofynnol i'r ymgeisydd ei gwblhau yn unol â'r Rhan honno o'r Rheoliadau hynny).]
Diwygiadau Testunol
(1)Caiff GCC drwy reolau—
(a)darparu mai dim ond am gyfnod a bennir yn y rheolau y mae cofnod yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr yn cael effaith, a
(b)gwneud darpariaeth ar gyfer adnewyddu cofnod o’r fath yn y gofrestr.
(2)Pan fo rheolau wedi eu gwneud o dan is-adran (1), rhaid i’r cofrestrydd, ar gais y person y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef, ganiatáu cais i adnewyddu—
(a)os yw’r cais wedi ei wneud ar y ffurf ac yn y modd a bennir gan reolau a wneir gan GCC,
(b)os yw’r ymgeisydd wedi talu’r ffi (os oes ffi) a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC o dan adran 74, ac
(c)os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion adnewyddu.
(3)Y gofynion adnewyddu yw—
(a)bod yr ymgeisydd wedi bodloni unrhyw ofynion i gyflawni hyfforddiant pellach a osodir gan reolau a wneir o dan adran 113 (datblygiad proffesiynol parhaus), a
(b)bod yr ymgeisydd yn bwriadu ymarfer y gwaith y mae ei gais am adnewyddu yn ymwneud ag ef.
(4)Caiff rheolau a wneir o dan adran 83(3) (meini prawf ar gyfer dyfarniadau’r cofrestrydd ynghylch bwriad ymgeisydd i ymarfer) gynnwys darpariaeth ynghylch dyfarniad cofrestrydd o dan is-adran (3)(b) o’r adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I16A. 86 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae cofrestriad person yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr yn darfod ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan GCC mewn rheolau o dan adran 86(1)(a) os nad yw’r person wedi adnewyddu ei gofrestriad yn unol â rheolau a wneir gan GCC o dan adran 86(1)(b).
(2)Ond nid yw cofrestriad person yn darfod o dan is-adran (1) os yw is-adran (3) yn gymwys i’r person.
(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson—
(a)sy’n ddarostyngedig i unrhyw achosion o dan Ran 6, gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol neu ymchwiliad o dan Bennod 2 o’r Rhan honno, sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer y gwaith y mae ei gofrestriad yn ymwneud ag ef (“y gwaith perthnasol”);
(b)y gwneir penderfyniad mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol y caniateir i apêl gael ei gwneud yn ei erbyn o dan adran 158 (apelau yn erbyn penderfyniadau panel addasrwydd i ymarfer);
(c)y mae gorchymyn cofrestru amodol mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol yn cael effaith o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c);
(d)y mae gorchymyn atal dros dro mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol yn cael effaith o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c), 154(6), (7) neu (10) neu 155(9);
(e)y mae gorchymyn interim mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol yn cael effaith o dan adran 144 neu 147.
(4)Mae is-adran (2) yn peidio â bod yn gymwys i berson a ddisgrifir yn is-adran (3)(b)—
(a)ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn adran 158(3) ar gyfer gwneud apêl, neu
(b)pan fo apêl wedi ei gwneud cyn diwedd y cyfnod hwnnw, pan ddyfernir ar yr apêl.
(5)Mae person y byddai ei gofrestriad yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr wedi darfod o dan is-adran (1) oni bai am is-adran (2) i’w drin fel pe na bai wedi ei gofrestru yn y rhan berthnasol o’r gofrestr at bob diben ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn is-adran (6), er gwaethaf bod enw’r person yn parhau i ymddangos ynddi.
(6)Mae’r person i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru at ddibenion unrhyw achosion o dan Ran 6 (gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol neu ymchwiliad o dan Bennod 2) sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer y gwaith perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I18A. 87 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r cofrestrydd i ddyfarnu o dan adran 83 a oes amhariad ar addasrwydd person i ymarfer ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau yn adran 117(1).
(2)Caiff rheolau o dan is-adran (1), yn benodol—
(a)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud cais i gofrestru ddarparu gwybodaeth at ddiben dyfarniad y cofrestrydd;
(b)darparu bod yr wybodaeth i’w darparu i’r cofrestrydd drwy ddatganiad ysgrifenedig gan y person sy’n gwneud y cais.
(3)Rhaid i GCC hefyd drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan y cofrestrydd wrth ymdrin—
(a)â cheisiadau ar gyfer cofrestru mewn rhan o’r gofrestr, a
(b)â cheisiadau ar gyfer adnewyddu, pan fo rheolau o dan adran 86 yn darparu ar gyfer adnewyddu cofnod yn y gofrestr.
(4)Caiff rheolau o dan is-adran (3), yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)y cyfnod y mae rhaid cydnabod cais i gofrestru neu i adnewyddu cofrestriad ynddo;
(b)yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu gan y cofrestrydd mewn ymateb i gais;
(c)y cyfnod y rhoddir hysbysiad o dan adran 89 ynddo;
(d)yr wybodaeth y caniateir i’r cofrestrydd ei gwneud yn ofynnol ei fod yn ei chael i ategu cais a’r weithdrefn sydd i’w dilyn gan y cofrestrydd wrth ofyn am yr wybodaeth honno;
(e)yr amgylchiadau pan gaiff y cofrestrydd ddyfarnu nad yw cais wedi bod yn llwyddiannus ar y sail bod y person a wnaeth y cais wedi methu â darparu’r wybodaeth a oedd yn ofynnol gan y cofrestrydd o fewn cyfnod a bennir gan y cofrestrydd;
(f)yr amgylchiadau pan gaiff ffi ar gyfer cofrestru ac, os yw’n berthnasol, ar gyfer adnewyddu, ei chodi a’r amgylchiadau pan ganiateir i ffi o’r fath gael ei lleihau neu ei hepgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I20A. 88 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu—
(a)caniatáu cais i gofrestru, neu
(b)caniatáu cais i adnewyddu cofrestriad.
(2)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad o’r penderfyniad i’r person y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu—
(a)gwrthod cais i gofrestru, neu
(b)gwrthod cais i adnewyddu cofrestriad person.
(4)Rhaid i’r cofrestrydd roi i’r person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef hysbysiad—
(a)o’r penderfyniad,
(b)o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac
(c)o’r hawl i apelio o dan adran 101.
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I22A. 89 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i berson esempt (“V”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon fel gweithiwr cymdeithasol mewn Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ac eithrio’r Deyrnas Unedig.
(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os oes gan V fudd rheoliad [F1212] o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol gan V yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol (os yw V wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol gan V).
(3)Mae hawlogaeth gan V i gael ei gofrestru yn y rhan [F13gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad ] o’r gofrestr, a rhaid i’r cofrestrydd roi effaith i’r hawlogaeth.
(4)Os oes gan V hawlogaeth o dan is-adran (3) i gael ei gofrestru yn y rhan [F13gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad] o’r gofrestr ond nad yw wedi ei gofrestru yn y rhan honno, mae V i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno.
(5)Mae hawlogaeth V o dan is-adran (3) yn dod i ben os yw V yn peidio, pa un ai o ganlyniad i weithredu rheoliad [F1424] o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol neu fel arall, â chael budd rheoliad [F1512] o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol gan V yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol.
(6)Os yw V wedi ei gofrestru yn y rhan [F13gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad] o’r gofrestr, caiff y cofrestrydd dynnu V oddi ar y rhan honno os daw hawlogaeth V o dan is-adran (3) i ben o ganlyniad i weithredu is-adran (5).
(7)Nid yw is-adrannau (1) i (6) yn atal adrannau 92 i 94 o’r Rhan hon neu Ran 6 (addasrwydd i ymarfer) rhag bod yn gymwys i bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan [F13gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad] o’r gofrestr.
(8)At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—
mae i “gwladolyn”, mewn perthynas â Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, yr un ystyr â “national” yng Nghytuniadau’r UE, ond nid yw’n cynnwys person nad yw, yn rhinwedd Erthygl 2 o Brotocol Rhif 3 (Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) i’r Cytuniad Ymaelodi, i gael budd darpariaethau’r UE sy’n ymwneud â rhydd symudiad personau a gwasanaethau;
ystyr “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yw Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir;
ystyr “person esempt” (“exempt person”) yw—
gwladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ac eithrio’r Deyrnas Unedig,
gwladolyn o’r Deyrnas Unedig sy’n ceisio ymgymryd â gwaith cymdeithasol perthnasol yng Nghymru [F16, neu ymgymryd â gwaith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru,] yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, neu
person nad yw’n wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ond sydd â hawlogaeth, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, i beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na gwladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol o ran yr hawl i ymgymryd â gwaith cymdeithasol perthnasol yng Nghymru [F17, neu o ran yr hawl i ymgymryd â gwaith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru] ;
[F18ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059).]
Diwygiadau Testunol
F12Gair yn a. 90(2) wedi ei amnewid (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 135(3) (ynghyd â rhl. 155)
F13Geiriau yn a. 90 wedi eu hamnewid (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 135(2) (ynghyd â rhl. 155)
F14Gair yn a. 90(5) wedi ei amnewid (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 135(4)(a) (ynghyd â rhl. 155)
F15Gair yn a. 90(5) wedi ei amnewid (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 135(4)(b) (ynghyd â rhl. 155)
F16Geiriau yn a. 90(8) wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 135(5)(a)(i) (ynghyd â rhl. 155)
F17Geiriau yn a. 90(8) wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 135(5)(a)(ii) (ynghyd â rhl. 155)
F18Geiriau yn a. 90(8) wedi eu hamnewid (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 135(5)(b) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I23A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I24A. 90 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson esempt (“X”) sydd wedi ei sefydlu'n gyfreithlon fel rheolwr gofal cymdeithasol mewn Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ac eithrio'r Deyrnas Unedig.
(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os oes gan X fudd rheoliad 12 o'r Rheoliadau Systemau Cyffredinol mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol (os yw X wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X).
(3)Mae hawlogaeth gan X i gael ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr, a rhaid i'r cofrestrydd roi effaith i'r hawlogaeth.
(4)Os oes gan X hawlogaeth o dan is-adran (3) i gael ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr ond nad yw wedi ei gofrestru yn y rhan honno, mae X i'w drin fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno.
(5)Mae hawlogaeth X o dan is-adran (3) yn dod i ben os yw X yn peidio, pa un ai o ganlyniad i weithredu rheoliad 24 o'r Rheoliadau Systemau Cyffredinol neu fel arall, â chael budd rheoliad 12 o'r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol.
(6)Os yw X wedi ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr, caiff y cofrestrydd dynnu X oddi ar y rhan honno os daw hawlogaeth X o dan is-adran (3) i ben o ganlyniad i weithredu is-adran (5).
(7)Nid yw is-adrannau (1) i (6) yn atal adrannau 92 i 94 neu Ran 6 (gweithwyr gofal cymdeithasol: addasrwydd i ymarfer) rhag bod yn gymwys i bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr.]
Diwygiadau Testunol
(1)Rhaid i gofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â pherson ddangos yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y dyddiad pan gofnodwyd y person ar y gofrestr;
(b)cymwysterau’r person i ymarfer gwaith o’r math y mae ei gofrestriad yn ymwneud ag ef;
(c)unrhyw gymwysterau eraill, gwybodaeth arall neu brofiad arall a ragnodir sy’n berthnasol i gofrestriad y person;
(d)unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer a ragnodir.
(2)Caiff GCC drwy reolau ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd, neu ei awdurdodi i—
(a)cynnwys mewn cofnod yn y gofrestr wybodaeth nad yw’n ofynnol yn rhinwedd is-adran (1);
(b)dileu o gofnod yn y gofrestr wybodaeth o fath a bennir yn y rheolau.
(3)Ni chaiff rheolau o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i gofrestrydd neu awdurdodi’r cofrestrydd i gofnodi gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.
Gwybodaeth Cychwyn
I25A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I26A. 91 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer dileu cofnod o ran o’r gofrestr ar gais y person y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(2)Rhaid i reolau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)yr amgylchiadau pan gaiff person wneud cais i gofnod gael ei ddileu o ran o’r gofrestr;
(b)ym mha fodd y caniateir i gais gael ei wneud;
(c)y meini prawf y caniateir i benderfyniad i ganiatáu neu i wrthod cais gael ei wneud drwy gyfeirio atynt;
(d)y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad mewn cysylltiad â chais.
(3)Caiff y rheolau awdurdodi GCC neu ei gwneud yn ofynnol i GCC gyfeirio cais o dan yr adran hon at banel addasrwydd i ymarfer er mwyn dyfarnu arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I27A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I28A. 92 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Pan fo person sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr wedi marw, rhaid i’r cofrestrydd o fewn y cyfnod penodedig ddileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw o’r gofrestr.
(2)Yn is-adran (1) ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu drwy reolau a wneir gan GCC.
Gwybodaeth Cychwyn
I29A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I30A. 93 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod cofnod mewn rhan o’r gofrestr, neu fod anodiad i gofnod, wedi ei gynnwys ar y gofrestr ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol, caiff y cofrestrydd ddileu’r cofnod neu’r anodiad o’r gofrestr.
(2)Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn meddwl—
(a)y gall cofnod, neu anodiad i gofnod, yn y gofrestr fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol,
(b)y gall fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, ac
(c)y gall fod angen gorchymyn interim er mwyn amddiffyn y cyhoedd.
(3)Caiff y cofrestrydd atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim.
(4)Pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu dileu cofnod mewn cysylltiad â pherson o’r gofrestr o dan yr adran hon, rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i’r person—
(a)o’r penderfyniad,
(b)o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac
(c)o’r hawl i apelio a roddir gan adran 101.
Gwybodaeth Cychwyn
I31A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I32A. 94 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
Os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod cofnod, neu fod anodiad i gofnod, wedi ei ddileu o’r gofrestr mewn camgymeriad, rhaid i’r cofrestrydd adfer y cofnod neu’r anodiad i’r gofrestr.
Gwybodaeth Cychwyn
I33A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I34A. 95 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cofnod wedi ei ddileu o’r gofrestr o dan—
(a)adran 92 (dileu drwy gytundeb);
(b)adran 94 (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol).
(2)Caiff y cofrestrydd, ar gais y person yr oedd y cofnod yn ymwneud ag ef, adfer y cofnod i’r gofrestr.
(3)Ni chaiff y cofrestrydd ganiatáu cais i adfer o dan yr adran hon ond os yw wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion cofrestru a bennir yn adran 83(2).
(4)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i’r ymgeisydd o ran a yw ei gais wedi ei ganiatáu.
(5)Os nad yw’r cais i adfer wedi ei ganiatáu rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi i’r ymgeisydd hysbysiad—
(a)o’r rhesymau dros y penderfyniad, a
(b)o unrhyw hawl i apelio mewn cysylltiad â’r penderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I35A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I36A. 96 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn dileu o dan—
(a)adran 138(9) (gwaredu yn dilyn canfyddiad o amhariad);
(b)adran 152(8)(e) (penderfyniadau yn dilyn adolygiad o ymgymeriadau);
(c)adran 153(9)(d) (penderfyniadau yn sgil adolygiad o orchmynion cofrestru amodol);
(d)adran 154(8)(d) (penderfyniadau yn sgil adolygiad o orchmynion atal dros dro).
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), caiff y person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef wneud cais i’r cofrestrydd i’r cofnod mewn cysylltiad â’r person gael ei adfer i’r gofrestr (ond gweler adran 98(4) am ddarpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff panel apelau cofrestru atal person rhag gwneud cais o’r fath).
(3)Ni chaiff y person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef—
(a)gwneud cais i adfer cofnod cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn, neu
(b)gwneud mwy nag un cais i adfer cofnod i’r gofrestr o fewn cyfnod o 12 mis.
(4)Rhaid i’r cofrestrydd atgyfeirio cais a wneir o dan is-adran (2) i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno (gweler adran 98).
(5)Pan fo panel apelau cofrestru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 98(4) (ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer)—
(a)caiff y person y rhoddir y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef wneud cais i’r cofrestrydd i’r cyfarwyddyd gael ei adolygu, a
(b)rhaid i’r cofrestrydd atgyfeirio’r cais i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno.
(6)Ni chaiff person wneud cais o dan is-adran (5)(a)—
(a)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir y cyfarwyddyd, neu
(b)o fewn y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad cais blaenorol am adolygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I37A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I38A. 97 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Pan fo’r cofrestrydd wedi atgyfeirio cais i adfer cofnod person (“P”) i ran o’r gofrestr i banel apelau cofrestru o dan adran 97(4), rhaid i’r panel—
(a)dyfarnu bod y cofnod mewn cysylltiad â P i gael ei adfer i’r rhan berthnasol o’r gofrestr, neu
(b)dyfarnu na chaniateir i’r cofnod mewn cysylltiad â P gael ei adfer i’r rhan honno o’r gofrestr.
(2)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P o ddyfarniad y panel.
(3)Os yw’r panel yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1)(b) rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi hysbysiad i P—
(a)o’i resymau dros wneud y dyfarniad, a
(b)o unrhyw hawl i apelio mewn cysylltiad â’r dyfarniad.
(4)Os yw—
(a)P wedi gwneud dau neu ragor o geisiadau o dan adran 97(2) i adfer i’r un rhan o’r gofrestr, a
(b)panel apelau cofrestru yn gwrthod, ar yr ail gais neu unrhyw gais dilynol, adfer i’r rhan honno o’r gofrestr o dan is-adran (1)(b),
caiff y panel gyfarwyddo na chaiff P wneud ceisiadau pellach o dan adran 97(2) i adfer i’r rhan honno o’r gofrestr.
(5)Os yw’r panel apelau cofrestru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P—
(a)o’r cyfarwyddyd hwnnw, a
(b)o hawl P i apelio o dan adran 104.
(6)Os yw panel apelau cofrestru yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1)(a) rhaid i’r panel gyfarwyddo’r cofrestrydd i adfer cofnod P i’r gofrestr.
Gwybodaeth Cychwyn
I39A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I40A. 98 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
(a)panel apelau cofrestru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 98(4) mewn cysylltiad â P (ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer), a
(b)atgyfeiriad i adolygu’r cyfarwyddyd wedi ei wneud gan y cofrestrydd o dan adran 97(5)(b).
(2)Rhaid i banel apelau cofrestru adolygu’r cyfarwyddyd, a chaiff ei gadarnhau neu ei ddirymu.
(3)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P o benderfyniad y panel yn sgil adolygiad.
(4)Pan fo’r panel yn cadarnhau’r cyfarwyddyd, rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi hysbysiad i P—
(a)o resymau’r panel dros gadarnhau’r cyfarwyddyd, a
(b)o’r hawl i apelio o dan adran 104.
Gwybodaeth Cychwyn
I41A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I42A. 99 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn mewn cysylltiad â chais—
(a)i adfer o dan adran 96 neu 97;
(b)i adolygu cyfarwyddyd a roddir o dan adran 98(4) (ataliad dros dro o hawl i wneud cais i adfer).
(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ar ba ffurf ac ym mha fodd y caniateir i gais gael ei wneud;
(b)yr wybodaeth sydd i’w darparu i ategu cais;
(c)y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo;
(d)y cyfnod y mae rhaid darparu ynddo unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol i’r cofrestrydd ei roi;
(e)yr amgylchiadau pan ganiateir i gais i adfer o dan adran 96 gael ei atgyfeirio i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno;
(f)y meini prawf y mae panel apelau cofrestru i gyfeirio atynt i ddyfarnu pa un a yw cofnod i gael ei adfer ai peidio neu a yw cyfarwyddyd i gael ei gadarnhau neu ei ddirymu;
(g)yr amgylchiadau pan godir ffi ar gyfer gwneud cais i adfer cofnod i’r gofrestr a’r amgylchiadau pan ganiateir i ffi o’r fath gael ei lleihau neu ei hepgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I43A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I44A. 100 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Caiff person wneud apêl i banel apelau cofrestru yn erbyn penderfyniad gan y cofrestrydd—
(a)o dan adran 83 i beidio â chaniatáu cais y person i gofrestru;
(b)o dan adran 86 i beidio â chaniatáu cais y person i adnewyddu ei gofrestriad;
(c)i ddileu cofnod mewn cysylltiad â’r person o’r gofrestr o dan adran 94;
(d)o dan adran 96 i beidio â chaniatáu cais y person i adfer ei gofnod i’r gofrestr.
(2)Ond ni chaniateir i berson apelio yn erbyn penderfyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (d) os yr unig reswm dros wneud y penderfyniad hwnnw oedd i’r person fethu—
(a)â thalu unrhyw ffi sy’n ofynnol gan GCC mewn cysylltiad â’r cais,
(b)â gwneud y cais ar y ffurf ac yn y modd sy’n ofynnol gan GCC, neu
(c)â darparu dogfennau neu wybodaeth i ategu’r cais sy’n ofynnol gan y cofrestrydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I45A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I46A. 101 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i apêl o dan adran 101 gael ei gwneud drwy roi hysbysiad apelio i’r cofrestrydd.
(2)Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod perthnasol.
(3)Ond caiff y cofrestrydd ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni bod rhesymau da dros fethu â rhoi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi o ran rhoi hysbysiad ar ôl yr amser priodol).
(4)Yn is-adran (2) ystyr “diwrnod perthnasol” yw—
(a)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn is-adran 101(1)(a) neu (b), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 89,
(b)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn adran 101(1)(c), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 94, ac
(c)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn adran 101(1)(d), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 96.
Gwybodaeth Cychwyn
I47A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I48A. 102 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
Ar apêl o dan adran 101, caiff panel apelau cofrestru—
(a)cadarnhau penderfyniad y cofrestrydd,
(b)rhoi penderfyniad arall o fath y gallai’r cofrestrydd fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn, neu
(c)anfon yr achos yn ôl at y cofrestrydd i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r panel.
Gwybodaeth Cychwyn
I49A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I50A. 103 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel apelau cofrestru—
(a)yn gwneud dyfarniad o dan adran 98(1)(b) na ddylai cofnod yn y gofrestr gael ei adfer am reswm sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;
(b)yn cyfarwyddo o dan adran 98(4) na chaiff person gyflwyno ceisiadau pellach i adfer i ran o’r gofrestr, neu’n cadarnhau cyfarwyddyd o’r fath o dan adran 99(2);
(c)yn gwneud dyfarniad mewn cysylltiad â chais i adfer a atgyfeirir iddo yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 100(2)(e) am reswm sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;
(d)yn gwneud dyfarniad o dan adran 103 mewn cysylltiad ag apêl yn erbyn penderfyniad y cofrestrydd.
(2)Caiff y person y mae penderfyniad y panel yn ymwneud ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.
(3)Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei dwyn cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad y panel.
(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).
(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—
(a)cadarnhau’r penderfyniad,
(b)rhoi penderfyniad arall y gallai’r panel fod wedi ei wneud yn lle penderfyniad y panel, neu
(c)anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.
Gwybodaeth Cychwyn
I51A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I52A. 104 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo GCC wedi gwneud penderfyniad—
(a)o dan reoliad [F2013(2)] o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol o ran a yw person yn darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig [F21neu fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig] ar sail dros dro ac achlysurol, F22...
(b)o dan Ran 3 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â phrawf tueddfryd, neu gyfnod addasu, mewn cysylltiad â pherson yn cael caniatâd, yn rhinwedd y Rhan honno, i gael mynediad at broffesiwn gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig [F23neu broffesiwn rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ] ac i ddilyn y proffesiwn hwnnw [F24, neu]
[F25(c)o dan reoliad 67 o'r Rheoliadau hynny i anfon rhybudd ynglŷn â pherson.]
(2)Caiff y person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.
(3)Rhaid i apêl o dan is-adran (2) gael ei dwyn cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad yr hysbyswyd y person gan GCC am y penderfyniad.
(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).
(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—
(a)cadarnhau’r penderfyniad,
(b)rhoi penderfyniad arall y gallai GCC fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn [F26neu, yn achos apêl yn erbyn penderfyniad sy'n dod o fewn is-adran (1)(c), cyfarwyddo bod y rhybudd yn cael ei dynnu'n ôl neu ei ddiwygio.], neu
(c)anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.
Diwygiadau Testunol
F20Gair yn a. 105(1)(a) wedi ei amnewid (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 139(2)(a) (ynghyd â rhl. 155)
F21Geiriau yn a. 105(1)(a) wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 139(2)(b) (ynghyd â rhl. 155)
F22Gair yn a. 105(1)(a) wedi ei hepgor (3.4.2017) yn rhinwedd The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 139(2)(c) (ynghyd â rhl. 155)
F23Geiriau yn a. 105(1)(b) wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 139(3)(a) (ynghyd â rhl. 155)
F24Gair yn a. 105(1)(b) wedi ei fewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 139(3)(b) (ynghyd â rhl. 155)
F25A. 105(1)(c) wedi ei fewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 139(4) (ynghyd â rhl. 155)
F26Geiriau yn a. 105(5)(b) wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 139(5) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I53A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I54A. 105 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i GCC drwy reolau ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr roi hysbysiad i’r cofrestrydd o newidiadau i’r wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
(2)Caiff rheolau o dan is-adran (1), yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)y newidiadau i roi hysbysiad yn eu cylch,
(b)ym mha fodd y mae rhaid rhoi hysbysiad a’r cyfnod ar gyfer gwneud hynny, ac
(c)canlyniadau methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys yn y rheolau (a gaiff gynnwys atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer).
Gwybodaeth Cychwyn
I55A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I56A. 106 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Caiff GCC drwy reolau awdurdodi’r cofrestrydd i wneud cais am wybodaeth oddi wrth bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr sy’n ymwneud â’u haddasrwydd i ymarfer.
(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ym mha fodd ac ar ba ffurf y mae cais i gael ei wneud;
(b)amlder y ceisiadau;
(c)yr wybodaeth y caniateir i’r cofrestrydd wneud cais amdani a’r wybodaeth na chaniateir i’r cofrestrydd wneud cais amdani;
(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â chais (a gaiff gynnwys atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer).
Gwybodaeth Cychwyn
I57A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I58A. 107 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i GCC gyhoeddi’r gofrestr yn y modd, ac ar yr adegau, sy’n briodol yn ei farn ef.
(2)Rhaid i GCC gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol a wneir gan berson i gael copi o’r gofrestr neu ddarn ohoni.
Gwybodaeth Cychwyn
I59A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I60A. 108 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i GCC gyhoeddi’r penderfyniadau a ganlyn—
(a)penderfyniad panel apelau cofrestru o dan adran 98(1)(b) i beidio ag adfer person i’r gofrestr;
(b)penderfyniad panel apelau cofrestru o dan adran 98(4) na chaiff person wneud ceisiadau pellach i adfer i’r gofrestr.
(2)Ond ni chaniateir i GCC gyhoeddi unrhyw wybodaeth am iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.
Gwybodaeth Cychwyn
I61A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I62A. 109 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i GCC gadw rhestr o’r personau y mae eu cofnodion yn y gofrestr wedi eu dileu o dan yr amgylchiadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt.
(2)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn ddarostyngedig i orchymyn dileu a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer o dan—
(a)adran 138(9) (gwaredu yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer), neu
(b)adran 152(8)(e), 153(9)(d) neu 154(8)(d) (gwaredu mewn achos adolygu yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer).
(3)Ni chaniateir i gofnod gael ei wneud yn y rhestr sy’n ymwneud â pherson sy’n ddarostyngedig i orchymyn dileu o’r fath hyd nes bod y penderfyniad wedi cymryd effaith o dan adran 141(5) neu 157(6) (yn ôl y digwydd).
(4)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys pan fo person yn ddarostyngedig i orchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer o dan—
(a)adran 135 (dileu o’r gofrestr ar sail gydsyniol), neu
(b)adran 152(2), 153(2), 154(2), neu 155(5) (gwaredu mewn achos adolygu).
(5)Pan fo person yn ddarostyngedig i orchymyn o’r fath ar gyfer dileu drwy gytundeb rhaid i’r rhestr roi manylion am y datganiad o ffeithiau y cytunwyd arno o dan adran 135(2) neu 150(2) (yn ôl y digwydd).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ffurf a chynnwys y rhestr;
(b)cyhoeddi’r rhestr neu wybodaeth benodedig o’r rhestr;
(c)yr amgylchiadau pan fo rhaid dileu cofnod sy’n ymwneud â pherson o’r rhestr.
Gwybodaeth Cychwyn
I63A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I64A. 110 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae’n drosedd i berson yng Nghymru nad yw wedi ei gofrestru mewn cofrestr berthnasol fel gweithiwr cymdeithasol—
(a)cymryd neu ddefnyddio teitl gweithiwr cymdeithasol,
(b)cymryd neu ddefnyddio unrhyw deitl neu ddisgrifiad sy’n ymhlygu cofrestriad fel gweithiwr cymdeithasol, neu
(c)esgus bod yn weithiwr cymdeithasol mewn unrhyw ffordd arall,
gyda’r bwriad o dwyllo person arall.
(2)Mae’n drosedd i berson yng Nghymru nad yw wedi ei gofrestru mewn cofrestr berthnasol fel gweithiwr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a ragnodir—
(a)cymryd neu ddefnyddio teitl y disgrifiad hwnnw o weithiwr gofal cymdeithasol,
(b)cymryd neu ddefnyddio unrhyw deitl neu ddisgrifiad sy’n ymhlygu cofrestriad fel gweithiwr gofal cymdeithasol o’r fath, neu
(c)esgus bod yn weithiwr gofal cymdeithasol o’r fath mewn unrhyw ffordd arall,
gyda’r bwriad o dwyllo person arall.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.
(4)At ddibenion yr adran hon mae cofrestr yn “cofrestr perthnasol” os yw’n gofrestr a gedwir gan—
(a)GCC,
(b)Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal,
(c)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu
(d)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (4) drwy reoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I65A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I66A. 111 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys