Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Adfer cofnod i’r gofrestrLL+C

95Dyletswydd i adfer cofnod ar gofrestrLL+C

Os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod cofnod, neu fod anodiad i gofnod, wedi ei ddileu o’r gofrestr mewn camgymeriad, rhaid i’r cofrestrydd adfer y cofnod neu’r anodiad i’r gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 95 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

96Pŵer i adfer cofnod ar gofrestrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cofnod wedi ei ddileu o’r gofrestr o dan—

(a)adran 92 (dileu drwy gytundeb);

(b)adran 94 (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol).

(2)Caiff y cofrestrydd, ar gais y person yr oedd y cofnod yn ymwneud ag ef, adfer y cofnod i’r gofrestr.

(3)Ni chaiff y cofrestrydd ganiatáu cais i adfer o dan yr adran hon ond os yw wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion cofrestru a bennir yn adran 83(2).

(4)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i’r ymgeisydd o ran a yw ei gais wedi ei ganiatáu.

(5)Os nad yw’r cais i adfer wedi ei ganiatáu rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi i’r ymgeisydd hysbysiad—

(a)o’r rhesymau dros y penderfyniad, a

(b)o unrhyw hawl i apelio mewn cysylltiad â’r penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 96 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

97Adfer yn dilyn achos addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn dileu o dan—

(a)adran 138(9) (gwaredu yn dilyn canfyddiad o amhariad);

(b)adran 152(8)(e) (penderfyniadau yn dilyn adolygiad o ymgymeriadau);

(c)adran 153(9)(d) (penderfyniadau yn sgil adolygiad o orchmynion cofrestru amodol);

(d)adran 154(8)(d) (penderfyniadau yn sgil adolygiad o orchmynion atal dros dro).

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), caiff y person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef wneud cais i’r cofrestrydd i’r cofnod mewn cysylltiad â’r person gael ei adfer i’r gofrestr (ond gweler adran 98(4) am ddarpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff panel apelau cofrestru atal person rhag gwneud cais o’r fath).

(3)Ni chaiff y person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef—

(a)gwneud cais i adfer cofnod cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn, neu

(b)gwneud mwy nag un cais i adfer cofnod i’r gofrestr o fewn cyfnod o 12 mis.

(4)Rhaid i’r cofrestrydd atgyfeirio cais a wneir o dan is-adran (2) i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno (gweler adran 98).

(5)Pan fo panel apelau cofrestru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 98(4) (ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer)—

(a)caiff y person y rhoddir y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef wneud cais i’r cofrestrydd i’r cyfarwyddyd gael ei adolygu, a

(b)rhaid i’r cofrestrydd atgyfeirio’r cais i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno.

(6)Ni chaiff person wneud cais o dan is-adran (5)(a)—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir y cyfarwyddyd, neu

(b)o fewn y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad cais blaenorol am adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6A. 97 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

98Achosion adferLL+C

(1)Pan fo’r cofrestrydd wedi atgyfeirio cais i adfer cofnod person (“P”) i ran o’r gofrestr i banel apelau cofrestru o dan adran 97(4), rhaid i’r panel—

(a)dyfarnu bod y cofnod mewn cysylltiad â P i gael ei adfer i’r rhan berthnasol o’r gofrestr, neu

(b)dyfarnu na chaniateir i’r cofnod mewn cysylltiad â P gael ei adfer i’r rhan honno o’r gofrestr.

(2)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P o ddyfarniad y panel.

(3)Os yw’r panel yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1)(b) rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi hysbysiad i P—

(a)o’i resymau dros wneud y dyfarniad, a

(b)o unrhyw hawl i apelio mewn cysylltiad â’r dyfarniad.

(4)Os yw—

(a)P wedi gwneud dau neu ragor o geisiadau o dan adran 97(2) i adfer i’r un rhan o’r gofrestr, a

(b)panel apelau cofrestru yn gwrthod, ar yr ail gais neu unrhyw gais dilynol, adfer i’r rhan honno o’r gofrestr o dan is-adran (1)(b),

caiff y panel gyfarwyddo na chaiff P wneud ceisiadau pellach o dan adran 97(2) i adfer i’r rhan honno o’r gofrestr.

(5)Os yw’r panel apelau cofrestru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P—

(a)o’r cyfarwyddyd hwnnw, a

(b)o hawl P i apelio o dan adran 104.

(6)Os yw panel apelau cofrestru yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1)(a) rhaid i’r panel gyfarwyddo’r cofrestrydd i adfer cofnod P i’r gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8A. 98 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

99Adolygu ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adferLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)panel apelau cofrestru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 98(4) mewn cysylltiad â P (ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer), a

(b)atgyfeiriad i adolygu’r cyfarwyddyd wedi ei wneud gan y cofrestrydd o dan adran 97(5)(b).

(2)Rhaid i banel apelau cofrestru adolygu’r cyfarwyddyd, a chaiff ei gadarnhau neu ei ddirymu.

(3)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P o benderfyniad y panel yn sgil adolygiad.

(4)Pan fo’r panel yn cadarnhau’r cyfarwyddyd, rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi hysbysiad i P⁠—

(a)o resymau’r panel dros gadarnhau’r cyfarwyddyd, a

(b)o’r hawl i apelio o dan adran 104.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10A. 99 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

100Rheolau ynghylch ceisiadau o dan adran 96 ac 97LL+C

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn mewn cysylltiad â chais—

(a)i adfer o dan adran 96 neu 97;

(b)i adolygu cyfarwyddyd a roddir o dan adran 98(4) (ataliad dros dro o hawl i wneud cais i adfer).

(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)ar ba ffurf ac ym mha fodd y caniateir i gais gael ei wneud;

(b)yr wybodaeth sydd i’w darparu i ategu cais;

(c)y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo;

(d)y cyfnod y mae rhaid darparu ynddo unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol i’r cofrestrydd ei roi;

(e)yr amgylchiadau pan ganiateir i gais i adfer o dan adran 96 gael ei atgyfeirio i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno;

(f)y meini prawf y mae panel apelau cofrestru i gyfeirio atynt i ddyfarnu pa un a yw cofnod i gael ei adfer ai peidio neu a yw cyfarwyddyd i gael ei gadarnhau neu ei ddirymu;

(g)yr amgylchiadau pan godir ffi ar gyfer gwneud cais i adfer cofnod i’r gofrestr a’r amgylchiadau pan ganiateir i ffi o’r fath gael ei lleihau neu ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I12A. 100 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)