Cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestrLL+C
82Cais i gofrestruLL+C
(1)Mae cais i gofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr i’w wneud i’r cofrestrydd.
(2)Rhaid i gais o dan is-adran (1) bennu pob rhan o’r gofrestr y gwneir cais i gofrestru ynddi.
83CofrestruLL+C
(1)Rhaid i’r cofrestrydd ganiatáu cais a wneir o dan adran 82 os yw wedi ei fodloni—
(a)bod y cais wedi ei wneud ar y ffurf ac yn y modd a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC,
(b)bod yr ymgeisydd wedi talu’r ffi (os oes ffi) a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC o dan adran 74, ac
(c)bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion cofrestru.
(2)Y gofynion cofrestru yw—
(a)bod y person wedi ei gymhwyso’n briodol (gweler adran 84),
(b)nad oes unrhyw amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer ar un neu ragor o’r seiliau yn adran 117(1), ac
(c)bod y person yn bwriadu ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.
(3)At ddibenion is-adran (2)(c) caiff GCC drwy reolau bennu—
(a)gweithgareddau sydd i’w hystyried fel ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru mewn rhan o’r gofrestr;
(b)y meini prawf i’w cymhwyso gan y cofrestrydd ar gyfer dyfarnu a yw person yn bwriadu ymarfer.
[83ACofrestru dros dro mewn argyfyngau sy'n cynnwys colli bywyd dynol neu salwch dynol etcLL+C
(1)Caiff y cofrestrydd gofrestru person fel gweithiwr cymdeithasol yn rhan gweithwyr cymdeithasol y gofrestr, neu bersonau sy'n ffurfio grŵp penodedig o bersonau fel gweithwyr cymdeithasol yn y rhan honno, —
(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi cynghori'r cofrestrydd bod argyfwng wedi codi, yn codi neu ar fin codi, ac y dylai'r cofrestrydd ystyried gweithredu o dan yr adran hon, a
(b)os yw'r cofrestrydd yn ystyried bod y gofyniad ar gyfer cofrestru mewn argyfwng wedi ei fodloni mewn perthynas â'r person neu'r grŵp o bersonau.
(2)At ddibenion is-adran (1)(b) mae'r gofyniad ar gyfer cofrestru mewn argyfwng yn cael ei fodloni—
(a)mewn perthynas â pherson, os yw'r cofrestrydd yn ystyried bod y person yn berson addas a phriodol sydd â phrofiad cyfaddas i gael ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol o ran yr argyfwng;
(b)mewn perthynas â grŵp o bersonau, os yw'r cofrestrydd yn ystyried bod y grŵp yn cael ei ffurfio o bersonau sydd o fath y gellir eu hystyried yn rhesymol yn bersonau addas a phriodol sydd â phrofiad cyfaddas i gael eu cofrestru fel gweithwyr cymdeithasol o ran yr argyfwng.
(3)Caiff y cofrestrydd gofrestru pob un o'r personau sy'n ffurfio grŵp penodedig o bersonau heb enwi'n gyntaf bob person yn y grŵp.
(4)Caiff y cofrestrydd gynnwys anodiad yn rhan gweithwyr cymdeithasol y gofrestr sy'n dynodi bod person wedi cael ei gofrestru o dan yr adran hon.
(5)Mae cofrestriad person o dan yr adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan y cofrestrydd; a chaiff y cofrestrydd amrywio neu ddirymu unrhyw amod o'r fath neu ychwanegu unrhyw amodau newydd ar unrhyw adeg.
(6)Pan fo person wedi ei gofrestru o dan yr adran hon fel aelod o grŵp penodedig, caniateir i gofrestriad y person fod (ond nid oes rhaid iddo fod) yn ddarostyngedig i'r un amodau â chofrestriad aelodau eraill o'r grŵp.
(7)Mae cofrestriad person o dan yr adran hon yn peidio â chael effaith os caiff ei ddirymu gan y cofrestrydd; a—
(a)rhaid i'r cofrestrydd ddirymu'r cofrestriad os yw Gweinidogion Cymru yn cynghori'r cofrestrydd nad yw'r amgylchiadau a arweiniodd Gweinidogion Cymru at roi'r cyngor y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) bellach yn bodoli;
(b)caiff y cofrestrydd, ar unrhyw adeg, ddirymu'r cofrestriad am unrhyw reswm arall, gan gynnwys pan fo'r cofrestrydd yn amau y gall addasrwydd y person i ymarfer fod wedi ei amharu.
(8)Caniateir i gofrestriad person fel aelod o grŵp penodedig gael ei ddirymu—
(a)heb ddirymu cofrestriad aelodau eraill o'r grŵp, neu
(b)o ganlyniad i benderfyniad i ddirymu cofrestriad pob aelod o'r grŵp.
(9)Os yw cofrestriad unrhyw berson yn cael ei ddirymu o dan is-adran (7)(a), mae'r cofrestriad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau â'r diwrnod y caiff ei ddirymu.
(10)Os yw cofrestriad unrhyw berson yn cael ei ddirymu o dan is-adran (7)(b), mae'r cofrestriad yn peidio â chael effaith ar unwaith.
(11)Ni chaiff rheolau o dan adran 74 ddarparu ar gyfer codi ffioedd o ran cofrestriad person o dan yr adran hon.
(12)Nid yw darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys i bersonau a gofrestrir o dan yr adran hon—
(a)adrannau 82, 83, 84, 86, 87, 89, 94 a 95 (darpariaethau sy'n ymwneud â chofrestru) o'r Ddeddf hon;
(b)adrannau 113 i 115 (datblygiad proffesiynol parhaus) o'r Ddeddf hon a rheolau a wneir o dan unrhyw un o'r adrannau hynny;
(c)Rhan 6 (gweithwyr gofal cymdeithasol: addasrwydd i ymarfer) o'r Ddeddf hon ac eithrio adran 160(1) a (3) i (5).
(13)Os yw person yn torri amod y mae cofrestriad y person o dan yr adran hon yn ddarostyngedig iddo, mae unrhyw beth a wneir gan y person yn groes i'r amod i'w drin fel peth nad yw wedi ei wneud gan berson a gofrestrwyd yn rhan gweithwyr cymdeithasol y gofrestr.
(14)Yn yr adran hon mae i “argyfwng” yr ystyr a roddir i'r math o “emergency” a ddisgrifir yn adran 19(1)(a) o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, wedi ei darllen ynghyd ag is-adran (2)(a) a (b) o'r adran honno.]