Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 7

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Paragraff 7. Help about Changes to Legislation

Gwasanaethau eirioliLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

7(1)Mae “gwasanaeth eirioli” yn wasanaeth a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Ni chaniateir i wasanaeth gael ei bennu’n wasanaeth eirioli oni bai bod y gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â’r gwasanaeth, ac i’r graddau y maent wedi eu bodloni felly.

(3)Y gofyniad cyntaf yw bod y gwasanaeth yn wasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) at ddiben cynrychioli safbwyntiau unigolion, neu helpu unigolion i fynegi’r safbwyntiau hynny, mewn cysylltiad â materion sy’n ymwneud ag anghenion yr unigolion hynny am ofal a chymorth (gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag asesu pa un a yw’r anghenion hynny’n bodoli).

(4)Yr ail ofyniad yw nad yw’r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan berson sydd, yng nghwrs gweithgaredd cyfreithiol (o fewn yr ystyr a roddir i “legal activity” yn Neddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29))—

(a)yn berson awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno, F1...

[F2(b)[F3yn berson y mae un o’r darpariaethau a ganlyn yn cael effaith ar ei gyfer er mwyn caniatáu i’r person hwnnw barhau i ymarfer fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu’r Alban, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)rheoliad 5 (darpariaeth drosiannol: Gorchymyn 1978 a’r Swistir) o Reoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Dirymu etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 (“Rheoliadau 2020”);

(ii)rheoliad 5 (darpariaeth drosiannol: Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Gwasanaethau Cyfreithwyr) 1978 a’r Swistir) o Reoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Ymadael â’r UE) (Yr Alban) (Diwygio etc.) 2019 (“Rheoliadau 2019”);

(iii)rheoliad 6 (darpariaeth drosiannol: Rheoliadau 2000 a chyfreithwyr Swisaidd) o Reoliadau 2020;

(iv)rheoliad 7 (darpariaeth drosiannol: Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Ymarfer Cyfreithwyr) (Yr Alban) 2000 a chyfreithwyr Swisaidd) o Reoliadau 2019.]

(c)yn unigolyn y mae’r darpariaethau yn rheoliad 4A neu 5A o’r Rheoliadau Dirymu yn cael effaith ar ei gyfer er mwyn caniatáu i’r person hwnnw barhau i ymarfer fel cyfreithiwr yn y Deyrnas Unedig ar ôl y diwrnod ymadael.]

[F4(4A)Yn is-baragraff (4)—

  • F5...

  • ystyr “y Rheoliadau Dirymu” (“the Revocation Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Dirymu etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/375).]

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(6)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-baragraff hwnnw, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i‘w diwygio.

Diwygiadau Testunol

F3Atod. 1 para. 7(4)(b) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan S.I. 2019/761, rhl. 14 (ynghyd â rhlau. 15A-19) (as wedi ei amnewid gan Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1626), rhlau. 1(2), 4 (ynghyd â rhlau. 3, 5-13))

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019 gan O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(a)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth