Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: RHAN 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, RHAN 3. Help about Changes to Legislation

RHAN 3LL+CPWERAU CYFFREDINOL

PwyllgorauLL+C

7(1)Caiff GCC sefydlu pwyllgorau.

(2)Caiff pwyllgorau a sefydlir o dan is-baragraff (1) sefydlu is-bwyllgorau.

(3)Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o GCC neu fod â phersonau o’r fath yn unig.

(4)Caiff GCC dalu tâl, treuliau a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a

(b)nad yw’n aelod o GCC nac yn aelod o’i staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

DirprwyoLL+C

8(1)Caiff GCC drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—

(a)o’i bwyllgorau,

(b)o’i is-bwyllgorau,

(c)o’i aelodau, neu

(d)o’i staff.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb GCC am arfer swyddogaethau dirprwyedig nac ar ei allu i arfer swyddogaethau dirprwyedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Pwerau atodolLL+C

9Caiff GCC wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth