Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 163

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Adran 163. Help about Changes to Legislation

163Atal dros dro: atodolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn cysylltiad â pherson sy’n ddarostyngedig—

(a)i orchymyn atal dros dro a wneir o dan adran 138(8) (gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o amhariad);

(b)i orchymyn atal dros dro a wneir, a gadarnheir neu a amrywir yn sgil adolygiad o dan adran 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7);

(c)i orchymyn atal dros dro amhenodol a wneir neu a gadarnheir yn sgil adolygiad o dan adran 154(10) neu 155(9);

(d)i orchymyn atal dros dro interim a wneir, a gadarnheir neu a amrywir o dan adran 144 neu 147.

(2)Mae’r person i’w drin at bob diben ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn is-adran (3) fel pe na bai wedi ei gofrestru yn y gofrestr er gwaethaf y ffaith bod enw’r person yn parhau i ymddangos ynddi.

(3)Mae’r person i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru at ddiben—

(a)unrhyw achosion o dan y Rhan hon (gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol neu ymchwiliad o dan Bennod 2) sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;

(b)cais a wneir o dan reolau o dan adran 92 i gofnod gael ei ddileu o ran o’r gofrestr drwy gytundeb;

(c)achosion o dan adran 94 (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol) sy’n ymwneud â chofnod mewn rhan o’r gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 163 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 163 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?