177Awdurdodau perthnasolLL+C
(1)Yn y Rhan hon yr awdurdodau perthnasol yw—
(a)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru,
(b)Cyngor y Gweithlu Addysg,
(c)pob awdurdod lleol,
(d)pob Bwrdd Iechyd Lleol,
(e)Ymddiriedolaeth GIG,
(f)awdurdod tân ac achub Cymreig,
F1(g). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(h)unrhyw berson arall a ragnodir.
(2)Yn is-adran (1)—
(a)ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei chyfansoddi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);
(b)ystyr “awdurdod tân ac achub Cymreig” yw awdurdod yng Nghymru sydd wedi ei gyfansoddi drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
F2(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1A. 177(1)(g) wedi ei hepgor (1.4.2023) yn rhinwedd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (asc 1), a. 29(2), Atod. 3 para. 14(a); O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)
F2A. 177(2)(c) wedi ei hepgor (1.4.2023) yn rhinwedd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (asc 1), a. 29(2), Atod. 3 para. 14(b); O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 177 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)