xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 3LL+CGWYBODAETH AC AROLYGIADAU

32Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparuLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu unrhyw wybodaeth iddynt sy’n ymwneud â gwasanaeth rheoleiddiedig y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus ei chael at ddibenion arfer eu swyddogaethau o dan Bennod 2 a’r Bennod hon o’r Rhan hon neu o dan adrannau 38 i 40.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth os yw datgelu’r wybodaeth honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(3)At ddibenion is-adran (1), ystyr “person perthnasol” yw—

(a)darparwr gwasanaeth,

(b)unigolyn cyfrifol,

(c)person a gyflogir gan ddarparwr gwasanaeth neu sydd fel arall yn gweithio i ddarparwr gwasanaeth, a

(d)unrhyw berson sydd wedi dal unrhyw un neu ragor o’r swyddi hynny.

(4)Mae’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (1) yn cynnwys—

(a)pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu darparu o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill), a

(b)pŵer i’w gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ar ffurf ddarllenadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 32 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)