xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)
C2Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
C3Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
C4Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais o dan adran 6 os ydynt wedi eu bodloni—
(a)bod y cais—
(i)yn cynnwys popeth sy’n ofynnol gan neu o dan is-adran (1) o’r adran honno,
(ii)yn achos cais sy’n ymwneud â gwasanaeth cymorth cartref, yn cynnwys yr ymgymeriad yn adran 8, a
(iii)yn bodloni’r gofynion a ragnodir o dan adran 6(2);
(b)bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth (gweler adran 9);
(c)o ran pob unigolyn sydd i’w ddynodi’n unigolyn cyfrifol—
(i)ei fod yn gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol yn unol ag adran 21(2),
(ii)ei fod yn berson addas a phriodol i fod yn unigolyn cyfrifol (gweler adran 9), a
(iii)y bydd yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion mewn rheoliadau o dan adran 28 (i’r graddau y bônt yn gymwys);
(d)y bydd cydymffurfedd â gofynion—
(i)unrhyw reoliadau o dan adran 27 (gan gynnwys unrhyw ofynion o ran safon y gofal a’r cymorth y mae rhaid eu darparu), a
(ii)unrhyw ddeddfiad arall yr ymddengys i Weinidogion Cymru ei fod yn berthnasol,
(i’r graddau y bônt yn gymwys) mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig.
(2)Mewn unrhyw achos arall rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais.
(3)O ran caniatáu cais—
(a)rhaid iddo fod yn ddarostyngedig i amod sy’n pennu—
(i)y mannau y mae’r darparwr gwasanaeth i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy, a
(ii)yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol ar gyfer pob un o’r mannau hynny, a
(b)caiff fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau pellach sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(4)Pan fo person wedi gwneud un cais mewn cysylltiad â dau neu ragor o wasanaethau rheoleiddiedig caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod y cais ar wahân mewn cysylltiad â phob gwasanaeth.
(5)Ond dim ond os yw gofynion adrannau 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y bônt yn gymwys) y mae caniatâd i gais yn cymryd effaith.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C5A. 7(1)(2) addaswyd (dd.) (29.4.2019) gan Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 6, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2019 (O.S. 2019/864), ergl. 8
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 7 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d) (ynghyd ag ergl. 9)