71Ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasolLL+C
(1)Rhaid i GCC—
(a)rhoi gwybodaeth am GCC a’r arferiad o’i swyddogaethau ar gael i—
(i)y cyhoedd, a
(ii)gweithwyr gofal cymdeithasol;
(b)llunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi mewn cysylltiad â chynnwys y cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasol yn yr arferiad o’r swyddogaethau hynny (pa un ai drwy ymgynghoriad neu drwy ddulliau eraill).
(2)O ran GCC—
(a)caiff ddiwygio ei ddatganiad polisi a rhaid iddo gyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu
(b)caiff gyhoeddi datganiad polisi newydd.
(3)Rhaid i GCC roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer ei swyddogaethau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 71 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)