xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i gofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â pherson ddangos yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y dyddiad pan gofnodwyd y person ar y gofrestr;
(b)cymwysterau’r person i ymarfer gwaith o’r math y mae ei gofrestriad yn ymwneud ag ef;
(c)unrhyw gymwysterau eraill, gwybodaeth arall neu brofiad arall a ragnodir sy’n berthnasol i gofrestriad y person;
(d)unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer a ragnodir.
(2)Caiff GCC drwy reolau ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd, neu ei awdurdodi i—
(a)cynnwys mewn cofnod yn y gofrestr wybodaeth nad yw’n ofynnol yn rhinwedd is-adran (1);
(b)dileu o gofnod yn y gofrestr wybodaeth o fath a bennir yn y rheolau.
(3)Ni chaiff rheolau o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i gofrestrydd neu awdurdodi’r cofrestrydd i gofnodi gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 91 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)