Adran 6 – Dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau
36.Mae adran 6 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus, fel y’u diffinnir yn is-adran (9), i geisio cynnal a gwella amrywiaeth fiolegol (y cyfeirir ati fel bioamrywiaeth). Mae’n ofynnol i bob corff cyhoeddus, ymgymerwr statudol, Gweinidog y Goron a deiliaid swyddi cyhoeddus eraill gymhwyso’r ddyletswydd pan fyddant yn cyflawni unrhyw swyddogaethau yng Nghymru, neu mewn perthynas â Chymru. Nodir dau eithriad yn is-adran (3): nid yw swyddogaethau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi na swyddogaethau barnwrol llysoedd a thribiwnlysoedd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd.
37.Pan fo’r ddyletswydd yn adran 6 yn gymwys, mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio â’r ddyletswydd honno yn hytrach na’r ddyletswydd yn adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.
38.Roedd adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr roi sylw i ddiogelu bioamrywiaeth wrth gyflawni ei swyddogaethau. Mae adran 40 wedi ei diwygio fel ei bod yn parhau i fod yn gymwys pan fo Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyflawni ei swyddogaethau, a phan fo awdurdodau cyhoeddus eraill yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â Lloegr (gweler paragraff 9(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf).
39.Mae adran 6(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, wrth gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, wneud hynny mewn ffordd sy’n ceisio gwella bioamrywiaeth, yn hytrach na’i lleihau, ac wrth wneud hynny rhaid iddynt geisio gwneud ecosystemau yn fwy cydnerth. Rhoddir diffiniad o fioamrywiaeth yn adran 26 er mwyn hwyluso dehongliad cyffredinol o’r term, ac mae’n ymwneud ag amrywiaeth yr holl organeddau byw ar y gwahanol lefelau lle maent yn bodoli. Er nad yw cydnerthedd yn cael ei ddiffinio yn adran 6, mae is-adran (2) yn cynnwys amryw o’i brif nodweddion.
40.Mae adran 6(2) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, wrth gyflawni’r rhwymedigaeth o dan is-adran (1), ystyried amrywiaeth rhwng ecosystemau ac o fewn iddynt, er enghraifft amrywiaeth rhywogaethau a chynefinoedd, ar raddfa, cyflwr a chysylltedd ecosystemau, ac ar eu gallu i ymdopi â digwyddiadau annisgwyl megis effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ac adfer ohonynt. Ni fwriedir i’r rhestr yn is-adran (2) gynnwys pob mater y mae’n rhaid ei ystyried, gan ei bod yn bosibl na fydd rhai materion yn berthnasol i bob sefyllfa. Gweler y nodiadau ar gyfer adran 4 hefyd.
41.O dan adran 6(4) o’r Ddeddf, mae dyletswydd ychwanegol ar Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, adrannau’r llywodraeth a Gweinidogion y Goron i dalu sylw arbennig i Gonfensiwn Bioamrywiaeth Fiolegol 1992(1), sef cytundeb rhyngwladol sy’n ymdrin â phob agwedd ar fioamrywiaeth. Nid yw’r ddyletswydd hon yn gymwys i’r awdurdodau cyhoeddus eraill a ddiffinnir yn is-adran (5), ond mae’n ofynnol i’r awdurdodau cyhoeddus eraill hynny roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 6.
42.Mae is-adran 6(5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, ac eithrio Gweinidogion y Goron neu adrannau’r llywodraeth, wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 6(1), roi sylw i’r rhestr o organeddau byw a mathau o gynefinoedd a gyhoeddir o dan adran 7, adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8 ac unrhyw ddatganiadau ardal a gyhoeddir o dan adran 11, sy’n ymwneud ag ardal yr awdurdod cyhoeddus.
43.Rhaid i awdurdod cyhoeddus, ac eithrio Gweinidogion y Goron neu adrannau’r llywodraeth, gyhoeddi cynllun sy’n amlinellu sut y bydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1). Rhaid i’r cynllun gael ei adolygu yn sgil adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (7).
44.Mae adran 6(7) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus gyhoeddi adroddiad, bob tair blynedd, sy’n dangos sut y maent wedi bodloni eu rhwymedigaethau o dan y ddyletswydd bioamrywiaeth. Gallai awdurdodau cyhoeddus ymgorffori’r adroddiad hwn mewn unrhyw adroddiadau eraill y mae’n ofynnol iddynt eu cyhoeddi.
45.Mae adran 6(9) yn rhestru’r awdurdodau cyhoeddus y mae’r ddyletswydd yn adran 6(1) yn gymwys iddynt. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrff, gan gynnwys, er enghraifft, fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau iechyd cenedlaethol ac awdurdodau parciau cenedlaethol.
46.Er mai dim ond mewn perthynas â Chymru y mae adran 6 yn gymwys, nid yw hyn yn golygu ei bod yn ymwneud â bioamrywiaeth yng Nghymru yn unig. Mae’n gymwys i fioamrywiaeth ar raddfa fyd-eang ac yn golygu ei bod yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ystyried effaith penderfyniadau a wneir yng Nghymru, neu weithgareddau a gynhelir yng Nghymru, i’r graddau y gallai’r rheini fod â goblygiadau i fioamrywiaeth y tu allan i Gymru. Enghraifft bosibl o hyn fyddai awdurdod cyhoeddus yng Nghymru sy’n ystyried a ddylai brynu nwyddau a wnaed o ddeunyddiau sy’n tarddu o fforest law drofannol. Byddai angen i’r awdurdod cyhoeddus ystyried goblygiadau’r penderfyniad hwnnw i brynu o ran bioamrywiaeth. Mae’r tabl isod yn nodi’r awdurdodau cyhoeddus hynny y gosodir gofynion arnynt o dan bob adran o adran 6.
Adran: Dyletswydd | Llywodraeth Cymru | Gweinidogion y Goron ac Adrannau’r Llywodraeth | Awdurdodau cyhoeddus eraill |
---|---|---|---|
Adrannau (6)(1),(2) | Oes | Oes | Oes |
Adran (6)(4)(a) | Oes | Oes | Oes |
Adran (6)(4)(b) | Oes | Oes | Oes |
Adran (6)(5) | Oes | Nac oes | Oes |
Adran (6)(6) | Oes | Nac oes | Oes |
Adran (6)(7) | Oes | Oes | Oes |
Adran (6)(8) | Oes | Nac oes | Oes |