xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Yn ddilys o 21/05/2016

RHAN 1LL+CRHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

RhagarweiniadLL+C

1Diben y Rhan honLL+C

Diben y Rhan hon yw hyrwyddo rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)

2Adnoddau naturiolLL+C

Yn y Rhan hon, mae “adnoddau naturiol” yn cynnwys y canlynol (ond nid yw wedi ei gyfyngu iddynt)—

(a)anifeiliaid, planhigion ac organeddau eraill;

(b)yr aer, dŵr a phridd;

(c)mwynau;

(d)nodweddion a phrosesau daearegol;

(e)nodweddion ffisiograffigol;

(f)nodweddion a phrosesau hinsoddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)

3Rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiolLL+C

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” yw—

(a)defnyddio adnoddau naturiol mewn modd ac ar gyfradd sy’n hyrwyddo cyflawni’r amcan yn is-adran (2),

(b)cymryd camau eraill sy’n hyrwyddo cyflawni’r amcan hwnnw, ac

(c)peidio â chymryd camau sy’n llesteirio cyflawni’r amcan hwnnw.

(2)Yr amcan yw cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau a’r manteision a gynigir ganddynt ac, wrth wneud hynny—

(a)diwallu anghenion y cenedlaethau presennol o bobl heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau, a

(b)cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)

4Egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiolLL+C

Yn y Rhan hon, “egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” yw—

(a)rheoli mewn modd ymaddasol, drwy gynllunio, monitro, adolygu a, phan fo hynny’n briodol, newid gweithredoedd;

(b)ystyried y raddfa ofodol briodol ar gyfer gweithredu;

(c)hyrwyddo cydweithio a chydweithredu, a chyfranogi ynddynt;

(d)gwneud trefniadau priodol i’r cyhoedd gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau;

(e)ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol a chasglu tystiolaeth mewn perthynas â materion y ceir ansicrwydd yn eu cylch;

(f)ystyried manteision a gwerth cynhenid adnoddau naturiol ac ecosystemau;

(g)ystyried effeithiau tymor byr, tymor canolig a hirdymor gweithredoedd;

(h)cymryd camau i atal niwed arwyddocaol i ecosystemau;

(i)ystyried cydnerthedd ecosystemau ac yn benodol, yr agweddau a ganlyn—

(i)amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;

(ii)y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;

(iii)graddfa ecosystemau;

(iv)cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);

(v)gallu ecosystemau i addasu.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)