Cosbau ariannol
8(1)Os yw rheoliadau bagiau siopa yn rhoi pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol i berson dalu cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio, gallant gynnwys darpariaeth—
(a)ar gyfer disgowntiau am dalu’n gynnar;
(b)ar gyfer talu llog neu gosbau ariannol eraill am dalu’r gosb yn hwyr, y llog hwnnw neu’r cosbau ariannol eraill hynny nad ydynt gyda’i gilydd i fod yn fwy na swm y gosb honno;
(c)ar gyfer gorfodi’r gosb.
(2)Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)(c) gynnwys—
(a)darpariaeth i’r gweinyddwr adennill cosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu’n hwyr, fel dyled sifil;
(b)darpariaeth i’r gosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu’n hwyr fod yn adenilladwy, ar orchymyn gan lys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.