Adran 18 – Cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol
116.Mae adran 18(1) yn mewnosod adran newydd 41A yn Rhan 3 o Ddeddf 1979, sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Mae’r gofrestr hon yn cymryd lle’r gofrestr anstatudol o barciau a gerddi hanesyddol a luniwyd o’r blaen gan Lywodraeth Cymru.
41A Cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru
117.Mae’r diffiniad o barciau a gerddi hanesyddol wedi ei gynnwys yn adran 41A(1) a (2). Mae’n cynnwys parciau, gerddi, tirweddau addurnol sydd wedi eu dylunio, mannau hamdden a thiroedd eraill sydd wedi eu dylunio, a allai gynnwys, er enghraifft, mynwentydd. Wrth nodi parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gynnwys tir sy’n gyfagos i’r tiroedd sy’n cael eu cofrestru neu’n gyffiniol â hwy, neu unrhyw adeilad neu ddŵr ar y tiroedd hynny neu’n gyfagos iddynt neu’n gyffiniol â hwy. Bydd hyn yn caniatáu i farn broffesiynol gael ei harfer wrth ddiffinio’r ffin sydd fwyaf rhesymegol. Er enghraifft, gellid cynnwys mewn cofnod yn y gofrestr fynedfa eang a chrand i dramwyfa, sydd y tu allan i furiau ystad ond sy’n amlwg yn rhan o’r dyluniad. Fel arall, gellid eithrio bloc o stablau neu dŷ gwydr modern o gofnod.
118.Mae adran 41A(3) a (4) yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru i ychwanegu, dileu neu ddiwygio cofnodion yn y gofrestr, ond wrth wneud hynny rhaid iddynt hysbysu’r perchennog, y meddiannydd a’r awdurdod lleol neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol. Mae adran 56 o Ddeddf 1979 (cyflwyno dogfennau) yn gymwys i unrhyw hysbysiad o dan is-adran (4).
119.Mae adran 41A(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gofrestr gyfredol. Cefnogir y gofrestr gan gofnod ar-lein ar gyfer y cyhoedd sy’n seiliedig ar fapiau, lle y caiff yr holl asedau hanesyddol sydd wedi eu dynodi a’u cofrestru’n genedlaethol eu dangos.
120.Mae adran 18(2) yn diwygio adran 50 o Ddeddf 1979 (cymhwyso i dir y Goron) er mwyn caniatáu i barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig ar dir y Goron gael eu cynnwys ar y gofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru.