Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2018
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/01/2018.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, RHAN 10.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol neu atodol sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion y Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hi.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 188 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)
(1)Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol, a
(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 18(2), 156 neu 172(7) (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth arall) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 189 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn [F1Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,] yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad i berson (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “dyroddi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (9)).
[F2(1A)Rhaid i hysbysiad bennu’r dyddiad y’i dyroddir.
(1B)Os na all y person y dyroddir yr hysbysiad iddo ganfod yn rhesymol effaith yr hysbysiad oherwydd camgymeriad ynddo neu hepgoriad ohono (gan gynnwys camgymeriad neu hepgoriad sy’n ymwneud ag enw’r person), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei ddyroddi.]
(2)Caniateir dyroddi’r hysbysiad i’r person—
(a)drwy ei ddanfon yn bersonol i’r person,
(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,
(c)drwy ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu
(d)pan fo is-adran (3) yn gymwys, drwy ei anfon yn electronig i gyfeiriad a ddarparwyd at y diben hwnnw.
(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person y mae’r hysbysiad i’w ddyroddi iddo wedi cytuno mewn ysgrifen iddo gael ei anfon yn electronig.
(4)At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir danfon hysbysiad yn bersonol i gorff corfforaethol drwy ei roi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.
(5)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(b), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn ar yr adeg y’i gadawyd yng nghyfeiriad priodol y person oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.
(6)At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—
(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
(b)yn achos person sy’n gweithredu yn rhinwedd partner mewn partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;
(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.
(7)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(c) drwy ei anfon i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.
(8)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(d), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.
(9)Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw hysbysiad y gall ACC—
(a)ei ddarparu i berson o dan adran 103(4) neu 105(3) [F3(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5))], neu
(b)ei roi i’r tribiwnlys.
(10)Yn yr adran hon mae “hysbysiad” yn cynnwys copi o hysbysiad.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 190(1) wedi eu hamnewid (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 68(a); O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(v)
F2A. 190(1A)(1B) wedi ei fewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 68(b); O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(v)
F3Geiriau yn a. 190(9)(a) wedi eu mewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 18; O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 190 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn [F4Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,] yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i berson [F5ddychwelyd ffurflen dreth neu] roi hysbysiad neu ddogfen arall i ACC (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (4)).
[F6(2)Rhaid i’r ffurflen dreth, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall—
(a)bod ar ba bynnag ffurf,
(b)cynnwys pa bynnag wybodaeth,
(c)cynnwys gydag ef neu hi ba bynnag ddogfennau eraill, a
(d)cael ei roi neu ei rhoi ym mha bynnag fodd,
a bennir gan ACC.]
(3)Ond mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth wahanol a wneir yn [F7Neddfau Trethi Cymru neu oddi tanynt].
(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw ddogfen a roddir i ACC gan Weinidogion Cymru neu’r tribiwnlys.
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn a. 191(1) wedi eu hamnewid (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 69(a)(i); O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(v)
F5Geiriau yn a. 191(1) wedi eu mewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 69(a)(ii); O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(v)
F6A. 191(2) wedi ei amnewid (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 69(b); O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(v)
F7Geiriau yn a. 191(3) wedi eu hamnewid (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 69(c); O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(v)
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 191 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)
(1)At ddibenion y Ddeddf hon, dyfernir yn derfynol ynghylch apêl neu atgyfeiriad—
(a)pan fo wedi ei dyfarnu neu ei ddyfarnu, a
(b)pan nad oes unrhyw bosibilrwydd pellach y caiff y dyfarniad ei amrywio neu ei roi o’r neilltu (gan ddiystyru unrhyw bŵer i roi caniatâd i apelio oddi allan i’r cyfnod).
(2)Yn y Ddeddf hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,
cyngor dosbarth neu gyngor sir yn Lloegr, un o gynghorau bwrdeistref Llundain, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain neu Gyngor Ynysoedd Scilly,
cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994 (p. 39), neu
cyngor dosbarth yng Ngogledd Iwerddon;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—
y cyfnod sy’n dechrau â sefydlu ACC ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol, a
pob cyfnod dilynol o flwyddyn sy’n dod i ben â 31 Mawrth;
ystyr “cyfnod treth” (“tax period”) yw cyfnod y codir treth ddatganoledig ar ei gyfer;
[F8ystyr “Deddfau Trethi Cymru” (“the Welsh Tax Acts”) yw—
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
Deddf Seneddol,
Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu
is-ddeddfwriaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wnaed o dan—
Deddf Seneddol, neu
Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
[F11“ystyr “DTGT” (“LDTA“) yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3);]
[F8ystyr “DTLlG” (“TCEA”) yw Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15);]
[F8ystyr “DTTT” (“LTTA”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 0);]
ystyr “ffurflen dreth” (“tax return”) yw ffurflen sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;
ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—
partneriaeth o fewn Deddf Bartneriaeth 1890 (p. 39),
partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24), neu
ffyrm neu endid tebyg ei gymeriad a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
[F8mae i “prynwr” (“buyer”) yr un ystyr ag yn DTTT;]
ystyr “setliad contract” (“contract settlement”) yw cytundeb a wneir mewn cysylltiad â rhwymedigaeth unrhyw berson i wneud taliad i ACC o dan unrhyw ddeddfiad;
[F8mae i “trafodiad tir” (“land transaction”) yr un ystyr ag yn DTTT;]
mae i “treth ddatganoledig” yr ystyr a roddir i “devolved tax” gan adran 116A(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
ystyr “trethdalwr datganoledig” (“devolved taxpayer”) yw person sy’n agored i dalu treth ddatganoledig;
[F11“mae i “treth gwarediadau tirlenwi” (“landfill disposals tax”) yr un ystyr ag yn DTGT;]
ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yw—
Tribiwnlys yr Haen Gyntaf, neu
pan bennir hynny gan neu o dan Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlys, yr Uwch Dribiwnlys.
Diwygiadau Testunol
F8Geiriau yn a. 192(2) wedi eu mewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 70; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(v)
F9Gair yn a. 192(2) wedi ei hepgor (25.1.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 19(b)(i); O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)
F10Geiriau yn a. 192(2) wedi eu mewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 19(b)(ii); O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)
F11Geiriau yn a. 192(2) wedi eu mewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 19(a); O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 192 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)
Mae’r Tabl a ganlyn yn rhestru ymadroddion a ddiffinnir neu a eglurir fel arall yn y Ddeddf hon.
Ymadrodd | Adran |
---|---|
ACC (“WRA”) | adran 2(2) |
Aelod anweithredol (“non-executive member”) | adran 3(4)(a) |
Aelod gweithredol (“executive member”) | adran 3(4)(b) |
Aelod gweithredol etholedig (“elected executive member”) | adran 3(4)(c) |
Asedau busnes (“business assets”) | adran 111 |
Asesiad ACC (“WRA assessment”) | adran 56 |
Awdurdod lleol (“local authority”) | adran 192(2) |
Blwyddyn ariannol (“financial year”) | adran 192(2) |
Cyfnod treth (“tax period”) | adran 192(2) |
Cyfradd llog ad-daliadau (“repayment interest rate”) | adran 163(2) |
Cyfradd llog taliadau hwyr (“late payment interest rate”) | adran 163(1) |
Cytundeb setlo (“settlement agreement”) | adran 184(1) |
Deddfiad (“enactment”) | adran 192(2) |
[F12DTGT (“LDTA | adran 192(2)] |
Dogfennau busnes (“business documents”) | adran 111 |
Dyddiad cosbi (“penalty date”) | adran 122(2) |
Dyddiad dechrau llog ad-daliadau (“repayment interest start date”) | adran 161(4) |
Dyddiad dechrau llog taliadau hwyr (“late payment interest start date”) | adrannau 157(3), 159(2) a 160(2) |
Dyddiad ffeilio (“filing date”) | adran 40 |
Dyfarniad ACC (“WRA determination”) | adran 52(3) |
Elusen (“charity”) | adran 85(3) |
Ffurflen dreth (“tax return”) | adran 192(2) |
Gwybodaeth warchodedig am drethdalwr (“protected taxpayer information”) | adran 17(3) a (4) |
Hysbysiad (“notice”) | adran 192(2) |
Hysbysiad adnabod (“identification notice”) | adran 92(1) |
Hysbysiad am gais (“notice of request”) | adran 173(1) |
Hysbysiad cau (“closure notice”) | dran 50(1) (mewn perthynas ag ymholiad i ffurflen dreth) ac adran 75(1) (mewn perthynas ag ymholiad i hawliad) |
Hysbysiad cyswllt dyledwr (“debtor contact notice”) | adran 93(1) |
Hysbysiad gwybodaeth (“information notice”) | adran 83 |
Hysbysiad trethdalwr (“taxpayer notice”) | adran 86(1) |
Hysbysiad trydydd parti (“third party notice”) | adran 87(1) |
Hysbysiad trydydd parti anhysbys (“unidentified third party notice”) | adran 89(1) |
Hysbysiad ymholiad (“notice of enquiry”) | adran 43(1) (mewn perthynas â ffurflen dreth) ac adran 74(1) (mewn perthynas â hawliad) |
Llog ad-daliadau (“repayment interest”) | adran 161(3) |
Llog taliadau hwyr (“late payment interest”) | adran 157(2) |
Mangre (“premises”) | adran 111 |
Mangre busnes (“business premises”) | adran 111 |
Partneriaeth (“partnership”) | adran 192(2) |
Penderfyniad apeliadwy (“appealable decision”) | adran 172(2) a (3) |
Refeniw posibl a gollir (“potential lost revenue”) | adran 134 |
Rhedeg busnes (“carrying on a business”) | adran 85 |
Sefyllfa dreth (“tax position”) | adran 84 |
Setliad contract (“contract settlement”) | adran 192(2) |
Swyddog perthnasol (“relevant official”) | adran 17(2) |
Treth ddatganoledig (“devolved tax”) | adran 192(2) |
Trethdalwr datganoledig (“devolved taxpayer”) | adran 192(2) |
[F12Treth gwarediadau tirlenwi (“landfill disposals tax”) | adran 192(2)] |
Y tribiwnlys (“the tribunal”) | adran 192(2) |
Diwygiadau Testunol
F12Geiriau yn a. 193 Table 1 wedi eu mewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 20; O.S. 2018/35, ergl. 2(z)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 193 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)
(1)Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—
(a)Rhan 1;
(b)adrannau 37, 82, 117 a 171;
(c)y Rhan hon.
(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 194 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 195 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys