xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CDARPARIAETHAU TERFYNOL

[F1187ACymhwyso i’r Goron at ddibenion Treth Trafodiadau TirLL+C

(1)I’r graddau y mae darpariaethau canlynol y Ddeddf hon yn gymwys i dreth trafodiadau tir, maent yn rhwymo’r Goron—

(a)Rhan 3;

(b)Rhan 4 (ac eithrio Pennod 6);

(c)Rhan 6 (ac eithrio adrannau 157A, 160 a 161(2)(b));

(d)Rhan 7 (ac eithrio adrannau 168, 169 a 170);

(e)Rhan 8 (ac eithrio adrannau 172(1)(d) ac (e), (3)(b) ac (c), (4), (5) a (6), 182 a 183);

(f)adrannau 190 a 191.

(2)Ond nid yw Rhan 4 yn gymwys i Ei Mawrhydi fel unigolyn preifat (o fewn ystyr adran 38(3) o Ddeddf Achosion yn erbyn y Goron 1947 (p. 44)).]

188Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol neu atodol sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion y Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hi.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 188 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)

189RheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol, a

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 18(2), [F2122(5),] 156 neu 172(7) (boed ar ei ben ei hun neu ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth arall) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 189 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)

190Dyroddi hysbysiadau gan ACCLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn [F3Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,] yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad i berson (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “dyroddi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (9)).

[F4(1A)Rhaid i hysbysiad bennu’r dyddiad y’i dyroddir.

(1B)Os na all y person y dyroddir yr hysbysiad iddo ganfod yn rhesymol effaith yr hysbysiad oherwydd camgymeriad ynddo neu hepgoriad ohono (gan gynnwys camgymeriad neu hepgoriad sy’n ymwneud ag enw’r person), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei ddyroddi.]

(2)Caniateir dyroddi’r hysbysiad i’r person—

(a)drwy ei ddanfon yn bersonol i’r person,

(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)drwy ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu

(d)pan fo is-adran (3) yn gymwys, drwy ei anfon yn electronig i gyfeiriad a ddarparwyd at y diben hwnnw.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person y mae’r hysbysiad i’w ddyroddi iddo wedi cytuno mewn ysgrifen iddo gael ei anfon yn electronig.

(4)At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir danfon hysbysiad yn bersonol i gorff corfforaethol drwy ei roi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(5)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(b), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn ar yr adeg y’i gadawyd yng nghyfeiriad priodol y person oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(6)At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)yn achos person sy’n gweithredu yn rhinwedd partner mewn partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

(7)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(c) drwy ei anfon i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(8)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(d), mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(9)Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw hysbysiad y gall ACC—

(a)ei ddarparu i berson o dan adran 103(4) neu 105(3) [F5(gan gynnwys unrhyw hysbysiad a roddir o dan adran 103(4) fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5))] , neu

(b)ei roi i’r tribiwnlys.

(10)Yn yr adran hon mae “hysbysiad” yn cynnwys copi o hysbysiad.

191Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i ACCLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn [F6Neddfau Trethi Cymru, neu mewn rheoliadau a wneir oddi tanynt,] yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i berson [F7ddychwelyd ffurflen dreth neu] roi hysbysiad neu ddogfen arall i ACC (pa un a ddefnyddir yr ymadrodd “rhoi” neu unrhyw ymadrodd arall) (ond gweler is-adran (4)).

[F8(2)Rhaid i’r ffurflen dreth, yr hysbysiad neu’r ddogfen arall—

(a)bod ar ba bynnag ffurf,

(b)cynnwys pa bynnag wybodaeth,

(c)cynnwys gydag ef neu hi ba bynnag ddogfennau eraill, a

(d)cael ei roi neu ei rhoi ym mha bynnag fodd,

a bennir gan ACC.]

(3)Ond mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth wahanol a wneir yn [F9Neddfau Trethi Cymru neu oddi tanynt] .

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw ddogfen a roddir i ACC gan Weinidogion Cymru neu’r tribiwnlys.

192DehongliLL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, dyfernir yn derfynol ynghylch apêl neu atgyfeiriad—

(a)pan fo wedi ei dyfarnu neu ei ddyfarnu, a

(b)pan nad oes unrhyw bosibilrwydd pellach y caiff y dyfarniad ei amrywio neu ei roi o’r neilltu (gan ddiystyru unrhyw bŵer i roi caniatâd i apelio oddi allan i’r cyfnod).

(2)Yn y Ddeddf hon—

193Mynegai o ymadroddion a ddiffinnirLL+C

Mae’r Tabl a ganlyn yn rhestru ymadroddion a ddiffinnir neu a eglurir fel arall yn y Ddeddf hon.

TABL 1

YmadroddAdran
ACC (“WRA”)adran 2(2)
Aelod anweithredol (“non-executive member”)adran 3(4)(a)
Aelod gweithredol (“executive member”)adran 3(4)(b)
Aelod gweithredol etholedig (“elected executive member”)adran 3(4)(c)
[F15Artiffisial (mewn perthynas â’r rheol gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol) (“artificial”) adran 81C]
Asedau busnes (“business assets”)adran 111
Asesiad ACC (“WRA assessment”)adran 56
Awdurdod lleol (“local authority”)adran 192(2)
Blwyddyn ariannol (“financial year”)adran 192(2)
[F16Credyd treth (“tax credit”)adran 192(2)]
Cyfnod treth (“tax period”)adran 192(2)
Cyfradd llog ad-daliadau (“repayment interest rate”)adran 163(2)
Cyfradd llog taliadau hwyr (“late payment interest rate”)adran 163(1)
Cytundeb setlo (“settlement agreement”)adran 184(1)
[F15Deddfau Trethi Cymru (“Welsh Tax Acts”) adran 192(2)]
Deddfiad (“enactment”)adran 192(2)
[F17DTGT (“LDTAadran 192(2)]
Dogfennau busnes (“business documents”)adran 111
[F15DTLlG (“TCEA”) adran 192(2)]
[F15DTTT (“LTTA”) adran 192(2)]
Dyddiad cosbi (“penalty date”)adran 122(2)
Dyddiad dechrau llog ad-daliadau (“repayment interest start date”)adran 161(4)
Dyddiad dechrau llog taliadau hwyr (“late payment interest start date”)adrannau 157(3), 159(2) a 160(2)
Dyddiad ffeilio (“filing date”)adran 40
Dyfarniad ACC (“WRA determination”)adran 52(3)
Elusen (“charity”)adran 85(3)
Ffurflen dreth (“tax return”)adran 192(2)
Gwybodaeth warchodedig am drethdalwr (“protected taxpayer information”)adran 17(3) a (4)
Hysbysiad (“notice”)adran 192(2)
Hysbysiad adnabod (“identification notice”)adran 92(1)
Hysbysiad am gais (“notice of request”)adran 173(1)
Hysbysiad cau (“closure notice”)dran 50(1) (mewn perthynas ag ymholiad i ffurflen dreth) ac adran 75(1) (mewn perthynas ag ymholiad i hawliad)
Hysbysiad cyswllt dyledwr (“debtor contact notice”)adran 93(1)
[F15Hysbysiad gwrthweithio arfaethedig (“proposed counteraction notice”) adran 81F]
[F15Hysbysiad gwrthweithio terfynol (“final counteraction notice”) adran 81G]
Hysbysiad gwybodaeth (“information notice”)adran 83
Hysbysiad trethdalwr (“taxpayer notice”)adran 86(1)
Hysbysiad trydydd parti (“third party notice”)adran 87(1)
Hysbysiad trydydd parti anhysbys (“unidentified third party notice”)adran 89(1)
Hysbysiad ymholiad (“notice of enquiry”)adran 43(1) (mewn perthynas â ffurflen dreth) ac adran 74(1) (mewn perthynas â hawliad)
Llog ad-daliadau (“repayment interest”)adran 161(3)
Llog taliadau hwyr (“late payment interest”)adran 157(2)
Mangre (“premises”)adran 111
Mangre busnes (“business premises”)adran 111
[F15Mantais drethiannol (“tax advantage”) adran 81D]
Partneriaeth (“partnership”)adran 192(2)
Penderfyniad apeliadwy (“appealable decision”)adran 172(2) a (3)
[F15Prynwr (“buyer”) adran 192(2)]
Refeniw posibl a gollir (“potential lost revenue”)adran 134
Rhedeg busnes (“carrying on a business”)adran 85
[F15Rheol gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol (“general anti-avoidance rule”) adran 81A(2)]
Sefyllfa dreth (“tax position”)adran 84
Setliad contract (“contract settlement”)adran 192(2)
Swyddog perthnasol (“relevant official”)adran 17(2)
[F15Trefniant (mewn perthynas â’r rheol gwrthweithio osgoi trethi cyffredinol) (“arrangement”) adran 81B(3)A]
Treth ddatganoledig (“devolved tax”)adran 192(2)
Trethdalwr datganoledig (“devolved taxpayer”)adran 192(2)
[F17Treth gwarediadau tirlenwi (“landfill disposals tax”) adran 192(2)]
[F15Trefniant osgoi trethi (“tax avoidance arrangement”) adran 81B]
Y tribiwnlys (“the tribunal”)adran 192(2)

194Dod i rymLL+C

(1)Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adrannau 37, 82, 117 a 171;

(c)y Rhan hon.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar unrhyw ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 194 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)

195Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 195 mewn grym ar 26.4.2016, gweler a. 194(1)(c)