ArianLL+C
23CyllidLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru dalu i ACC unrhyw symiau sy’n briodol yn eu barn hwy mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau ACC.
(2)Mae’r taliadau i’w gwneud ar yr adegau, ac yn ddarostyngedig i’r amodau, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 23 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2
24GwobrauLL+C
Caiff ACC roi gwobr i berson yn dâl am wasanaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.
Yn ddilys o 25/01/2018
25Talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol CymruLL+C
(1)Rhaid i ACC dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru.
(2)Ond caiff ACC wneud hynny ar ôl didynnu alldaliadau ar ffurf ad-daliadau o drethi datganoledig (gan gynnwys llog ar ad-daliadau o’r fath) a chredydau mewn cysylltiad â threthi datganoledig.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)