Diwygiadau canlyniadol
34Cofnodion cyhoeddus Cymru
Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ystyr “Welsh public records”), yn is-adran (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)administrative and departmental records belonging to Her Majesty which are records of or held by the Welsh Revenue Authority;”.
35Yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p. 10) (awdurdodau rhestredig), ar ôl yr eitem yn ymwneud â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewnosoder—
“Taxation
Welsh Revenue Authority.”
36Archwilydd Cyffredinol Cymru
Yn adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3) (darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan adran 31 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mewn cysylltiad â Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru;”.