Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, RHAN 2. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 2LL+CAWDURDOD CYLLID CYMRU

Sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, a’i statwsLL+C

2Awdurdod Cyllid CymruLL+C

(1)Bydd corff corfforaethol a adwaenir fel Awdurdod Cyllid Cymru neu the Welsh Revenue Authority.

(2)Yn y Ddeddf hon, cyfeirir at Awdurdod Cyllid Cymru fel “ACC”.

(3)Cyflawnir swyddogaethau ACC ar ran y Goron ac felly mae eiddo, hawliau a rhwymedigaethau ACC yn eiddo, yn hawliau ac yn rhwymedigaethau i’r Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 2 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

AelodaethLL+C

3AelodaethLL+C

(1)Aelodau ACC yw—

(a)cadeirydd a benodir gan Weinidogion Cymru,

(b)dim llai na 4, na dim mwy nag 8, o bersonau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru,

(c)y prif weithredwr (gweler adran 9),

(d)naill ai 1 neu 2 aelod arall o staff ACC a benodir gan y prif weithredwr, ac

(e)1 aelod arall o staff ACC a benodir o dan adran 6.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi un o’r aelodau a benodir o dan is-adran (1)(b) yn is-gadeirydd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau er mwyn rhoi nifer gwahanol yn lle unrhyw un neu ragor o’r niferoedd a bennir ynddi am y tro; ond rhaid i’r rheoliadau sicrhau bod nifer yr aelodau anweithredol yn parhau i fod yn uwch na nifer yr aelodau gweithredol.

(4)Yn y Rhan hon—

(a)cyfeirir ar y cyd at gadeirydd ac at aelodau o ACC a benodir o dan is-adran (1)(b) fel “aelodau anweithredol”;

(b)cyfeirir ar y cyd at y prif weithredwr ac at aelodau o ACC a benodir o dan is-adran (1)(d) neu o dan adran 6 fel “aelodau gweithredol”;

(c)cyfeirir at yr aelod o ACC a benodir o dan adran 6 fel “aelod gweithredol etholedig”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 3 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

4Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredolLL+C

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi yn aelod anweithredol o ACC os yw’r person—

(a)yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin, o Dŷ’r Arglwyddi, o Senedd yr Alban neu o Gynulliad Gogledd Iwerddon,

F1(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(d)yn aelod o awdurdod lleol,

(e)yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol,

(f)yn aelod o Lywodraeth Cymru,

(g)yn un o Weinidogion y Goron, yn aelod o Lywodraeth yr Alban neu’n un o Weinidogion Gogledd Iwerddon,

(h)yn gomisiynydd heddlu a throseddu,

(i)yn berson sy’n dal swydd o dan y Goron,

(j)yn berson sydd wedi ei gyflogi gan wasanaeth sifil y Wladwriaeth, neu

(k)yn deiliad swydd, neu’n aelod neu’n aelod o staff corff, a ragnodwyd drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 4 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

5Telerau aelodaeth anweithredolLL+C

(1)Mae aelod anweithredol o ACC yn dal swydd fel aelod am unrhyw gyfnod ac ar unrhyw delerau a bennir yn nhelerau penodiad yr aelod (ond yn ddarostyngedig i is-adran (4) ac adran 7).

(2)Ni chaiff y cyfnod yn y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 5 mlynedd.

(3)Mae aelod anweithredol o ACC a benodir yn is-gadeirydd yn dal swydd fel is-gadeirydd am unrhyw gyfnod ac ar unrhyw delerau a bennir yn nhelerau penodiad y person yn is-gadeirydd (ond yn ddarostyngedig i is-adran (4) ac adran 7).

(4)Caiff person ymddiswyddo fel aelod anweithredol o ACC, neu fel is-gadeirydd ACC, drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru.

(5)Caniateir ailbenodi person sy’n aelod anweithredol o ACC neu sydd wedi bod yn aelod anweithredol o ACC yn aelod anweithredol unwaith yn unig.

(6)Caniateir ailbenodi person sy’n is-gadeirydd ACC neu sydd wedi bod yn is-gadeirydd ACC yn is-gadeirydd.

(7)Caiff ACC dalu i’w aelodau anweithredol—

(a)unrhyw dâl a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, a

(b)unrhyw symiau a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, i ad-dalu’r treuliau yr aethant iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I8A. 5 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

6Penodi aelod gweithredol etholedigLL+C

(1)Rhaid i ACC gynnal pleidlais gudd ymhlith ei staff at ddiben penodi aelod o staff yn aelod gweithredol etholedig o ACC.

(2)Rhaid i aelodau anweithredol ACC—

(a)penodi enillydd y bleidlais gudd yn aelod gweithredol etholedig o ACC, a

(b)pennu telerau penodiad y person hwnnw.

(3)Mae aelod gweithredol etholedig o ACC yn gwasanaethu fel aelod am ba bynnag gyfnod ac ar ba bynnag delerau a bennir yn nhelerau penodiad yr aelod (ond yn ddarostyngedig i is-adran (4) ac adran 7).

(4)Caiff aelod gweithredol etholedig o ACC ymddiswyddo drwy roi hysbysiad i aelodau anweithredol ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I10A. 6 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

7Diswyddo aelodau etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo person fel aelod anweithredol o ACC drwy roi hysbysiad—

(a)os daw’r person yn anghymwys i’w benodi yn aelod anweithredol yn rhinwedd adran 4,

(b)os yw’r person wedi bod yn absennol o gyfarfodydd ACC am gyfnod hwy na 6 mis heb ganiatâd ACC, neu

(c)os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r person yn addas i fod yn aelod neu nad yw’r person yn gallu neu’n fodlon cyflawni ei swyddogaethau fel aelod.

(2)Caiff aelodau anweithredol ACC ddiswyddo person fel aelod gweithredol etholedig o ACC drwy roi hysbysiad—

(a)os yw’r person wedi bod yn absennol o gyfarfodydd ACC am gyfnod hwy na 6 mis heb ganiatâd ACC, neu

(b)os yw aelodau anweithredol ACC o’r farn nad yw’r person yn addas i fod yn aelod neu nad yw’r person yn gallu neu’n fodlon cyflawni ei swyddogaethau fel aelod.

(3)Mae person yn peidio â bod yn is-gadeirydd ACC pan fydd yn peidio â bod yn aelod anweithredol.

(4)Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol o ACC os daw’r person yn aelod o staff ACC.

(5)Mae person yn peidio â bod yn aelod gweithredol o ACC pan fydd yn peidio â bod yn brif weithredwr neu’n aelod arall o staff ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I12A. 7 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Pwyllgorau a staffLL+C

8Pwyllgorau ac is-bwyllgorauLL+C

(1)Caiff ACC sefydlu pwyllgorau at unrhyw ddiben sy’n ymwneud â’i swyddogaethau.

(2)Caiff ACC bennu cyfansoddiad ei bwyllgorau.

(3)Caiff ACC benodi personau nad ydynt yn aelodau o ACC i fod yn aelodau o bwyllgor, ond nid oes gan y personau hynny hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd y pwyllgor.

(4)Caiff pwyllgor o ACC sefydlu is-bwyllgorau.

(5)Caiff pwyllgor sy’n sefydlu is-bwyllgor bennu ei gyfansoddiad.

(6)Caiff pwyllgor benodi personau nad ydynt yn aelodau o ACC i fod yn aelodau o is-bwyllgor, ond nid oes gan y personau hynny hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd yr is-bwyllgor.

(7)Caiff ACC dalu i unrhyw aelodau o bwyllgor a sefydlir ganddo, neu i unrhyw aelodau o is-bwyllgor a sefydlir gan bwyllgor o’r fath, nad ydynt yn aelodau o ACC—

(a)unrhyw dâl a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, a

(b)unrhyw symiau a bennir gan ACC, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, i ad-dalu’r treuliau yr aethant iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I14A. 8 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

9Prif weithredwr ac aelodau staff eraillLL+C

(1)Bydd prif weithredwr i ACC.

(2)Mae’r prif weithredwr yn atebol am (ymysg pethau eraill) sicrhau bod swyddogaethau ACC yn cael eu cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol.

(3)Mae’r person cyntaf a gyflogir fel prif weithredwr i’w benodi gan Weinidogion Cymru ar unrhyw delerau a bennir ganddynt.

(4)Mae pob prif weithredwr dilynol i’w benodi gan aelodau anweithredol ACC ar unrhyw delerau a bennir ganddynt gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(5)Caiff ACC benodi aelodau staff eraill ar unrhyw delerau a bennir gan ACC gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(6)Mae gwasanaeth fel prif weithredwr ACC neu fel unrhyw aelod arall o staff ACC yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I16A. 9 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Gweithdrefn a dilysrwyddLL+C

10GweithdrefnLL+C

(1)Rhaid i ACC lunio rheolau i reoli ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys ei gworwm) yn ogystal â gweithdrefn unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor.

(2)Rhaid i’r rheolau ddarparu nad oes cworwm mewn cyfarfod o ACC oni bai bod mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol yn aelodau anweithredol o ACC.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I18A. 10 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

11Dilysrwydd trafodion a gweithredoeddLL+C

Nid yw’r materion a ganlyn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw un neu ragor o drafodion neu weithredoedd ACC (nac unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor)—

(a)unrhyw swydd wag ymhlith ei aelodaeth,

(b)unrhyw ddiffyg o ran penodiad aelod, neu

(c)unrhyw aelod anweithredol yn dod yn anghymwys ar gyfer ei benodi yn rhinwedd adran 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I20A. 11 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

SwyddogaethauLL+C

12Prif swyddogaethauLL+C

(1)Swyddogaeth gyffredinol ACC yw casglu a rheoli trethi datganoledig.

(2)Mae gan ACC y swyddogaethau penodol a ganlyn—

(a)darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â threthi datganoledig i Weinidogion Cymru;

(b)darparu gwybodaeth a chymorth yn ymwneud â threthi datganoledig i drethdalwyr datganoledig, eu hasiantiaid a phersonau eraill;

(c)datrys cwynion ac anghydfodau yn ymwneud â threthi datganoledig;

(d)hybu cydymffurfedd â’r gyfraith sy’n ymwneud â threthi datganoledig ac amddiffyn rhag efadu trethi ac osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig.

(3)Rhaid i ACC ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, unrhyw gyngor neu unrhyw gymorth yn ymwneud â’i swyddogaethau y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol o bryd i’w gilydd ar unrhyw ffurf y bydd Gweinidogion Cymru yn ei phennu.

(4)Yn ychwanegol at unrhyw bwerau eraill sydd ganddo, caiff ACC wneud unrhyw beth sydd, yn ei farn ef—

(a)yn angenrheidiol neu’n hwylus mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, neu

(b)yn atodol i arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol i hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I22A. 12 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

13Awdurdodiad mewnol i gyflawni swyddogaethauLL+C

(1)Caiff ACC awdurdodi’r canlynol i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (i unrhyw raddau)—

(a)aelod o ACC,

(b)pwyllgor o ACC neu is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath, neu

(c)prif weithredwr ACC neu unrhyw aelod arall o staff ACC.

(2)Ond ni chaiff ACC awdurdodi pwyllgor neu is-bwyllgor i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (i unrhyw raddau) oni bai bod o leiaf un o aelodau’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor yn aelod anweithredol o ACC.

(3)Nid yw’r awdurdodiad i gyflawni swyddogaeth o dan yr adran hon yn effeithio ar—

(a)gallu ACC i arfer y swyddogaeth, na

(b)cyfrifoldeb ACC dros arfer y swyddogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I24A. 13 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

14Dirprwyo swyddogaethauLL+C

(1)Caiff ACC ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i unrhyw berson a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff ACC roi cyfarwyddydau i berson y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo ynghylch sut y mae’r swyddogaethau dirprwyedig i’w harfer a rhaid i’r person y dirprwywyd y swyddogaethau iddo gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.

(3)Caniateir amrywio neu ddirymu dirprwyaethau neu gyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

(4)Rhaid i ACC gyhoeddi gwybodaeth ynghylch—

(a)dirprwyaethau o dan yr adran hon, a

(b)cyfarwyddydau o dan yr adran hon.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i’r graddau y mae ACC o’r farn y byddai cyhoeddi gwybodaeth yn niweidio ei allu i arfer ei swyddogaethau yn effeithiol.

(6)Nid yw dirprwyo swyddogaeth o dan yr adran hon yn effeithio ar—

(a)gallu ACC i arfer y swyddogaeth, na

(b)cyfrifoldeb ACC dros arfer y swyddogaeth.

(7)Caiff ACC wneud taliadau i berson y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau dirprwyedig gan y person.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I26A. 14 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

15Cyfarwyddydau cyffredinolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau o natur gyffredinol i ACC.

(2)Rhaid i ACC, wrth arfer ei swyddogaethau, gydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).

(3)Ni chaiff cyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1) ymwneud ag arfer y swyddogaethau yn adrannau 29 na 30.

(4)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I28A. 15 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

GwybodaethLL+C

16Defnydd ACC a’i ddirprwyon o wybodaethLL+C

(1)O ran gwybodaeth sy’n dod i law—

(a)ACC, neu

(b)person y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo,

mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC, caniateir ei defnyddio yn unol ag is-adran (2) yn unig.

(2)Caniateir defnyddio’r wybodaeth—

(a)gan ACC, neu

(b)gan unrhyw berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo,

mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau ACC.

(3)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig sy’n cyfyngu ar y defnydd o wybodaeth neu’n gwahardd ei defnyddio.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I30A. 16 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

17Cyfrinachedd gwybodaeth warchodedig am drethdalwrLL+C

(1)Ni chaiff unigolyn sy’n swyddog perthnasol, neu sydd wedi bod yn swyddog perthnasol, ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr oni bai bod adran 18 yn caniatáu ei datgelu.

(2)Yn yr adran hon ac yn adran 19, ystyr “swyddog perthnasol” yw unigolyn—

(a)sy’n aelod o ACC, yn aelod o bwyllgor o ACC, neu’n aelod o is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath,

(b)sy’n berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo, yn aelod o gorff y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo, yn aelod o bwyllgor o gorff o’r fath neu’n aelod o is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath, neu’n dal swydd mewn corff o’r fath,

(c)sy’n aelod o staff ACC,

(d)sy’n aelod o staff person y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo a gyflogir mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny,

(e)sy’n berson sy’n darparu gwasanaethau i ACC, neu

(f)sy’n berson sy’n darparu gwasanaethau i berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny.

(3)Yn is-adran (1) ac adran 18, ystyr “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr” yw gwybodaeth yn ymwneud â pherson (y “person a effeithir”)—

(a)a ddaeth i law ACC neu a ddaeth i law person y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o swyddogaethau ACC iddo mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, a

(b)y gellir adnabod y person a effeithir ohoni (boed oherwydd bod yr wybodaeth yn nodi pwy yw’r person a effeithir neu oherwydd y gellir casglu pwy ydyw ohoni).

(4)Ond nid yw gwybodaeth yn “wybodaeth warchodedig am drethdalwr” os yw’n wybodaeth am drefniadau gweinyddol mewnol ACC neu berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo (pa un a yw’r wybodaeth yn ymwneud ag aelodau o staff ACC neu staff person o’r fath neu â phersonau eraill).

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I32A. 17 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

18Datgelu a ganiateirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn caniatáu datgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr—

(a)os gwneir hynny gyda chydsyniad pob person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef,

(b)os gwneir hynny er mwyn cael gwasanaethau mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC,

(c)os gwneir hynny at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol neu at ddibenion atal troseddu neu ganfod trosedd,

(d)os gwneir hynny i gorff sydd â chyfrifoldeb am reoleiddio proffesiwn mewn cysylltiad â chamymddwyn ar ran aelod o’r proffesiwn sy’n ymwneud ag un o swyddogaethau ACC,

(e)os gwneir hynny at ddibenion achos sifil,

(f)os gwneir hynny yn unol â gorchymyn llys neu dribiwnlys,

(g)os gwneir hynny yn unol â deddfiad sy’n gwneud ei datgelu yn ofynnol neu’n caniatáu hynny, F2...

(h)os gwneir hynny i ACC neu i berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo ar gyfer ei defnyddio yn unol ag adran 16[F3,]

[F4(i)os gwneir hynny i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, neu

(j)os gwneir hynny i Gyllid yr Alban mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad â chasglu a rheoli treth ddatganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved tax” yn Neddf yr Alban 1998 (p. 46).]

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I34A. 18 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

19Datganiad ynghylch cyfrinacheddLL+C

(1)Rhaid i bob unigolyn sy’n swyddog perthnasol wneud datganiad sy’n cydnabod y rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd o dan adran 17.

(2)Rhaid gwneud datganiad—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penodi’r unigolyn, a

(b)mewn unrhyw ffurf a modd a bennir gan ACC.

(3)At ddibenion is-adran (2)(a)—

(a)nid yw adnewyddu penodiad cyfnod sefydlog i’w drin fel penodiad,

(b)mae unigolyn sydd o fewn adran 17(2)(e) i’w drin fel pe bai wedi ei benodi pan fo’r unigolyn yn darparu’r gwasanaethau a grybwyllir yno gyntaf, ac

(c)os penodwyd unigolyn sydd o fewn adran 17(2)(b), (d) neu (f) (neu os trinnir yr unigolyn fel pe bai wedi ei benodi) cyn dirprwyo’r swyddogaethau o dan sylw, mae’r unigolyn i’w drin fel pe bai’n ofynnol iddo wneud y datganiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dirprwyo’r swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I36A. 19 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

20Y drosedd o ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr ar gamLL+C

(1)Mae unigolyn sy’n datgelu gwybodaeth yn groes i adran 17(1) yn cyflawni trosedd.

(2)Mae’n amddiffyniad i unigolyn a gyhuddir o drosedd o dan is-adran (1) brofi bod yr unigolyn yn credu’n rhesymol—

(a)bod adran 18 yn caniatáu datgelu’r wybodaeth, neu

(b)bod yr wybodaeth eisoes wedi ei darparu yn gyfreithlon i’r cyhoedd.

(3)Mae unigolyn sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i garchar am gyfnod nad yw’n [F5wy na’r terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr)] neu i ddirwy (neu’r ddau);

(b)ar gollfarn ar dditiad, i garchar am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd neu i ddirwy (neu’r ddau).

(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar y gallu i fynd ar drywydd unrhyw rwymedi na chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â thorri adran 17(1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I38A. 20 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Achosion llys a thystiolaethLL+C

21Achosion llysLL+C

(1)Caiff ACC gychwyn achosion troseddol ac achosion sifil yng Nghymru a Lloegr.

(2)Mae gan unigolyn sydd wedi ei awdurdodi i gynnal achosion troseddol neu achosion sifil mewn llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr—

(a)gan ACC, neu

(b)gan berson y mae ACC wedi dirprwyo iddo’r swyddogaeth o awdurdodi cynnal achosion o’r fath,

hawl i wneud hynny er nad yw’n berson a awdurdodir at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p. 29).

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I40A. 21(1) mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

I41A. 21(2) mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

22TystiolaethLL+C

(1)Mae dogfen yr honnir iddi gael ei dyroddi neu ei llofnodi gan ACC neu gydag awdurdod ACC—

(a)i’w thrin fel pe bai wedi ei dyroddi neu ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb, a

(b)yn dderbyniol mewn unrhyw achos cyfreithiol.

(2)Mae dogfen yr honnir iddi gael ei dyroddi gan ACC ac sy’n ardystio unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir yn is-adran (3) yn dystiolaeth ddigonol o’r ffaith honno oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(3)Y materion yw—

(a)bod person penodedig wedi ei benodi’n aelod o ACC ar ddyddiad penodedig;

(b)bod person penodedig wedi ei benodi’n aelod o staff ACC ar ddyddiad penodedig;

(c)bod aelod penodedig o ACC, ar adeg benodedig neu at ddiben penodedig (neu’r ddau), wedi ei awdurdodi i arfer un o swyddogaethau ACC;

(d)bod pwyllgor penodedig o ACC neu is-bwyllgor penodedig o bwyllgor o’r fath, ar adeg benodedig neu at ddiben penodedig (neu’r ddau), wedi ei awdurdodi i arfer un o swyddogaethau ACC;

(e)ar adeg benodedig neu at ddiben penodedig (neu’r ddau)—

(i)bod aelod penodedig o staff ACC, neu

(ii)bod aelod o ddisgrifiad penodedig o staff ACC,

wedi ei awdurdodi i arfer un o swyddogaethau ACC;

(f)bod un o swyddogaethau ACC, ar adeg benodedig neu at ddiben penodedig (neu’r ddau), wedi ei dirprwyo i berson penodedig arall.

(4)Mae dogfen yr honnir iddi gael ei dyroddi gan ACC neu gydag awdurdod ACC ac sy’n ardystio—

(a)nad yw ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd i ACC wedi ei dychwelyd, neu

(b)nad yw hysbysiad yr oedd yn ofynnol ei roi i ACC wedi ei roi,

yn dystiolaeth ddigonol o’r ffaith honno oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(5)Mae copi o ddogfen a ddyroddwyd gan ACC (neu ar ei ran) neu a ddaeth i law ACC (neu berson sy’n gweithredu ar ei ran), yr ardystiodd ACC (neu yr ardystiwyd ar ei ran) ei fod yn gopi cywir, yn dderbyniol mewn unrhyw achos cyfreithiol i’r un graddau â’r ddogfen ei hun ac mae’n dystiolaeth ddigonol o’r ddogfen honno oni phrofir i’r gwrthwyneb.

(6)Gweler adran 168 (tystysgrifau dyled) am ddarpariaeth ynghylch ardystio dyled.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I43A. 22 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

ArianLL+C

23CyllidLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru dalu i ACC unrhyw symiau sy’n briodol yn eu barn hwy mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau ACC.

(2)Mae’r taliadau i’w gwneud ar yr adegau, ac yn ddarostyngedig i’r amodau, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I45A. 23 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

24GwobrauLL+C

Caiff ACC roi gwobr i berson yn dâl am wasanaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I47A. 24 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

25Talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol CymruLL+C

(1)Rhaid i ACC dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru.

(2)Ond caiff ACC wneud hynny ar ôl didynnu alldaliadau ar ffurf ad-daliadau o drethi datganoledig (gan gynnwys llog ar ad-daliadau o’r fath) a chredydau mewn cysylltiad â threthi datganoledig.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I49A. 25 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(a)

Siarter safonau a gwerthoeddLL+C

26Siarter safonau a gwerthoeddLL+C

(1)Rhaid i ACC baratoi Siarter.

(2)Rhaid i’r Siarter gynnwys—

(a)safonau gwasanaeth, safonau ymddygiad a gwerthoedd y disgwylir i ACC gadw atynt wrth ymdrin â threthdalwyr datganoledig, eu hasiantiaid a phersonau eraill wrth arfer ei swyddogaethau, a

(b)safonau ymddygiad a gwerthoedd y mae ACC yn disgwyl i drethdalwyr datganoledig, eu hasiantiaid a phersonau eraill gadw atynt wrth ymdrin ag ACC.

(3)Rhaid i ACC—

(a)cyhoeddi’r Siarter,

(b)adolygu’r Siarter—

(i)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y Siarter, a

(ii)wedi hynny, o leiaf unwaith yn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dilyn adolygiad⁠, ac

(c)diwygio’r Siarter pan fo’n briodol gwneud hynny, ym marn ACC, a chyhoeddi’r Siarter ddiwygiedig.

(4)Cyn cyhoeddi’r Siarter neu Siarter ddiwygiedig rhaid i ACC ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn ei farn.

(5)Rhaid i ACC osod y Siarter ac unrhyw Siarter ddiwygiedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Rhaid cyhoeddi’r Siarter gyntaf o fewn 3 mis i’r adran hon ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I51A. 26 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(b)

Cynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol, cyfrifon etc.LL+C

27Cynllun corfforaetholLL+C

(1)Rhaid i ACC, ar gyfer pob cyfnod cynllunio, baratoi cynllun corfforaethol a’i gyflwyno i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r cynllun corfforaethol nodi—

(a)prif amcanion ACC ar gyfer y cyfnod cynllunio,

(b)y canlyniadau y gellir mesur i ba raddau y cyflawnwyd y prif amcanion drwy gyfeirio atynt, ac

(c)y gweithgareddau y mae ACC yn disgwyl ymgymryd â hwy yn ystod y cyfnod cynllunio.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun corfforaethol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau a gytunir rhyngddynt hwy ac ACC.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r cynllun corfforaethol, rhaid i ACC—

(a)cyhoeddi’r cynllun, a

(b)gosod copi o’r cynllun gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Caiff ACC, yn ystod y cyfnod cynllunio y mae cynllun corfforaethol yn ymwneud ag ef, adolygu’r cynllun a chyflwyno cynllun corfforaethol diwygiedig i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(6)Mae is-adrannau (2) i (4) yn gymwys i gynllun corfforaethol diwygiedig fel y maent yn gymwys i gynllun corfforaethol.

(7)Ystyr “cyfnod cynllunio” yw—

(a)cyfnod cyntaf a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a

(b)pob cyfnod dilynol o 3 blynedd.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi unrhyw gyfnod arall sy’n briodol yn eu barn hwy yn lle’r cyfnod a bennir am y tro yn is-adran (7)(b).

(9)Rhaid cyflwyno’r cynllun corfforaethol ar gyfer y cyfnod cynllunio cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo yn ddim hwyrach na 6 mis ar ôl sefydlu ACC; a rhaid cyflwyno’r cynllun corfforaethol ar gyfer pob cyfnod cynllunio dilynol cyn dechrau’r cyfnod cynllunio.

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I53A. 27 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

28Adroddiad blynyddolLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i ACC—

(a)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y modd yr arferwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno,

(b)anfon copi o’r adroddiad at Weinidogion Cymru, ac

(c)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Rhaid i’r adroddiad gynnwys (yn benodol) asesiad o’r graddau y mae ACC, yn ystod y flwyddyn ariannol, wedi amlygu’r safonau gwasanaeth, y safonau ymddygiad a’r gwerthoedd y mae’r Siarter yn datgan y disgwylir iddo gadw atynt.

(3)Caiff ACC gyhoeddi unrhyw adroddiadau eraill ac unrhyw wybodaeth arall am faterion sy’n berthnasol i’w swyddogaethau ag y bo’n briodol yn ei farn.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I55A. 28 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

29CyfrifonLL+C

(1)Rhaid i ACC—

(a)cadw cofnodion cyfrifo priodol, a

(b)paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru gynnwys (ymysg pethau eraill) gyfarwyddydau o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;

(b)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;

(c)gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r cyfrifon.

(3)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I57A. 29 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

30Datganiad TrethLL+C

(1)Rhaid i ACC baratoi mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, ddatganiad o swm yr arian a gasglwyd ganddo yn ystod y flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (“Datganiad Treth”).

(2)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddydau o dan yr adran hon unrhyw bryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I59A. 30 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

31ArchwilioLL+C

(1)Rhaid i ACC gyflwyno—

(a)y cyfrifon a baratowyd ar gyfer blwyddyn ariannol, a

(b)y Datganiad Treth ar gyfer blwyddyn ariannol,

i Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddim hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio, ardystio ac adrodd ar y cyfrifon a’r Datganiad Treth, a

(b)yn ddim hwyrach na diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y’u cyflwynir, gosod copi o’r cyfrifon a’r Datganiad Treth ardystiedig, a’r adroddiadau arnynt, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Wrth archwilio’r cyfrifon a gyflwynir o dan yr adran hon, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru fod wedi ei fodloni yn benodol—

(a)yr aed i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n ei lywodraethu, a

(b)nad yw arian a dderbyniwyd at ddiben penodol neu at ddibenion penodol wedi ei wario ar unrhyw beth heblaw’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny.

(4)Wrth archwilio’r Datganiad Treth a gyflwynir o dan yr adran hon, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru fod wedi ei fodloni yn benodol—

(a)bod yr arian a gasglwyd gan ACC, y mae’r Datganiad Treth yn ymwneud ag ef, wedi ei gasglu’n gyfreithlon, a

(b)bod unrhyw alldaliadau a ddidynnwyd wedi eu didynnu yn unol ag adran 25(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I61A. 31 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

32Archwilio’r defnydd o adnoddauLL+C

(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau o’r graddau y defnyddiwyd adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol wrth gyflawni swyddogaethau ACC.

(2)Ond nid yw hynny yn rhoi’r hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu rhinweddau amcanion polisi ACC.

(3)Cyn cynnal archwiliad rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ystyried barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gynhaliwyd o dan yr adran hon, a

(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I63A. 32 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

33Swyddog cyfrifoLL+C

(1)Prif weithredwr ACC yw swyddog cyfrifo ACC.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifo, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid ACC, y cyfrifoldebau a bennir am y tro gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan yr adran hon yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon ACC a’r Datganiad Treth;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid ACC;

(c)cyfrifoldebau am ddefnyddio adnoddau ACC yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i Weinidogion Cymru neu i un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I65A. 33 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Diwygiadau canlyniadolLL+C

34Cofnodion cyhoeddus CymruLL+C

Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ystyr “Welsh public records”), yn is-adran (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)administrative and departmental records belonging to Her Majesty which are records of or held by the Welsh Revenue Authority;.

Gwybodaeth Cychwyn

I66A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I67A. 34 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

35Yr Ombwdsmon Gwasanaethau CyhoeddusLL+C

Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p. 10) (awdurdodau rhestredig), ar ôl yr eitem yn ymwneud â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewnosoder—

  • Taxation

    • Welsh Revenue Authority.

Gwybodaeth Cychwyn

I68A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I69A. 35 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

36Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

Yn adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3) (darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan adran 31 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mewn cysylltiad â Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru;.

Gwybodaeth Cychwyn

I70A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I71A. 36 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill