xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Yn adrannau 58 i 61, ystyr “trethdalwr” yw—
(a)mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 54, y person y mae’r dreth ddatganoledig i’w chodi arno,
(b)mewn perthynas ag asesiad ACC o dan adran 55 [F1neu 55A], y person a grybwyllir yno.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 57(b) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 14
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 57 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)O ran asesiad ACC—
(a)caniateir ei wneud yn y [F2pedwar] achos a bennir yn is-adrannau [F3(2), (3) [F4, (3A) a (3B)]] yn unig, a
(b)ni chaniateir ei wneud yn yr amgylchiadau a bennir yn is-adran (4).
(2)Yr achos cyntaf yw pan fo’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 wedi ei pheri’n ddiofal neu’n fwriadol gan—
(a)y trethdalwr,
(b)person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu
(c)person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.
[F5(3)Yr ail achos yw—
(a)pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd,
(b)pan fo hawl ACC i ddyroddi hysbysiad ymholiad i’r ffurflen dreth wedi dod i ben, neu pan fo wedi cwblhau ei ymholiadau iddi, ac
(c)ar yr adeg y daeth yr hawl honno ar ran ACC i ben neu y cwblhaodd yr ymholiadau hynny, na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo fod yn ymwybodol o’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 na 55 ar sail gwybodaeth a ddarparwyd i ACC cyn yr adeg honno.]
[F6(3A)Y trydydd achos yw pan fo ACC yn gwneud addasiad o dan y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi (gweler Rhan 3A, ac adran 81E yn benodol).]
[F7(3B)Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.]
(4)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC [F8yn yr achos cyntaf na’r ail achos] —
(a)os gellir priodoli’r sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55 i gamgymeriad [F9mewn ffurflen dreth] o ran ar ba sail y dylid bod wedi cyfrifo’r rhwymedigaeth i’r dreth ddatganoledig, a
(b)os gwnaed y camgymeriad oherwydd bod y ffurflen dreth wedi ei dychwelyd ar y sail a oedd yn bodoli ar yr adeg y’i dychwelwyd, neu yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol bryd hynny.
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn a. 58(1)(a) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 15(2)(a)
F3Geiriau yn a. 58(1)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 18(a)(ii); O.S. 2018/34, ergl. 3
F4Geiriau yn a. 58(1)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 15(2)(b)
F5A. 58(3) wedi ei amnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 18(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
F6A. 58(3A) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 18(c); O.S. 2018/34, ergl. 3
F7A. 58(3B) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 15(3)
F8Geiriau yn a. 58(4) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 18(d)(i); O.S. 2018/34, ergl. 3
F9Geiriau yn a. 58(4)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 18(d)(ii); O.S. 2018/34, ergl. 3
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 58 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 7 para. 43(2); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I4A. 58 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC dros 4 blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol [F10mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b)] .
(2)Ond caniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 6 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F11, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n ddiofal gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.
(3)A chaniateir gwneud asesiad ACC o drethdalwr hyd at 20 mlynedd ar ôl y dyddiad perthnasol mewn unrhyw achos sy’n cynnwys sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 [F12, 55 neu 55A(a) neu (b)] sydd wedi ei pheri’n fwriadol gan y trethdalwr neu gan berson cysylltiedig.
(4)Nid yw asesiad ACC o dan adran 55 oddi allan i’r cyfnod os caiff ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed yr ad-daliad o dan sylw.
[F13(4A)Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—
(a)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a
(b)fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.]
(5)Os yw’r trethdalwr wedi marw—
(a)rhaid gwneud unrhyw asesiad ACC o’r cynrychiolwyr personol cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â dyddiad y farwolaeth, a
(b)ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn perthynas â dyddiad perthnasol dros 6 mlynedd cyn y dyddiad hwnnw.
(6)Ni ellir gwrthwynebu gwneud asesiad ACC ar y sail fod y terfyn amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio ond fel rhan o adolygiad o’r asesiad neu apêl yn ei erbyn.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) [F14, mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55,] yw—
[F17ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), yw—
pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, y dyddiad ffeilio;
pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth;
pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod y gwnaed yr hawliad.]
ystyr “person cysylltiedig” (“related person”), mewn perthynas â’r trethdalwr, yw—
person sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr, neu
person a oedd yn bartner yn yr un bartneriaeth â’r trethdalwr.
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn a. 59(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(2)
F11Geiriau yn a. 59(2) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(3)
F12Geiriau yn a. 59(3) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(4)
F13A. 59(4A) wedi ei fewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(5)
F14Geiriau yn a. 59(7) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(6)(a)
F15Geiriau yn a. 59(7) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 19(a); O.S. 2018/34, ergl. 3
F16Geiriau yn a. 59(7) wedi eu hamnewid (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 19(b); O.S. 2018/34, ergl. 3
F17Geiriau yn a. 59(7) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/101), rhl. 1(2), Atod. para. 16(6)(b)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2A. 59 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 7 para. 43(3); O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I6A. 59 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 58 a 59.
(2)Caiff sefyllfa ei pheri’n ddiofal gan berson os yw’r person yn methu â chymryd gofal rhesymol i osgoi peri’r sefyllfa honno.
(3)Pan fo—
(a)gwybodaeth yn cael ei darparu i ACC,
(b)y person a ddarparodd yr wybodaeth, neu’r person y’i darparwyd ar ei ran, yn darganfod yn nes ymlaen bod yr wybodaeth yn anghywir, ac
(c)y person hwnnw yn methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC,
mae unrhyw sefyllfa sy’n cael ei pheri gan yr anghywirdeb i’w thrin fel pe bai wedi ei pheri’n ddiofal gan y person hwnnw.
(4)Mae cyfeiriadau at sefyllfa sy’n cael ei pheri’n fwriadol gan berson yn cynnwys sefyllfa sy’n cael ei pheri o ganlyniad i anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I8A. 60 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3
(1)Rhaid dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr am asesiad ACC.
(2)Rhaid talu’r swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad.
F18(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F18A. 61(3) wedi ei hepgor (1.4.2018) yn rhinwedd Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 20; O.S. 2018/34, ergl. 3
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I10A. 61 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3