Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F1Trefniadau artiffisial i osgoi trethiLL+C

81BTrefniadau osgoi trethiLL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant yn “trefniant osgoi trethi” os cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae trethdalwr yn ymrwymo i’r trefniant.

(2)Wrth benderfynu ai prif ddiben trefniant, neu un o’i brif ddibenion, yw cael mantais drethiannol, caniateir ystyried yn benodol y swm o dreth ddatganoledig a fyddai i’w godi yn absenoldeb y trefniant.

(3)Yn y Rhan hon—

(a)mae “trefniant” yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw weithred, unrhyw weithrediad, unrhyw gytundeb, unrhyw grant, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, unrhyw ymgymeriad, unrhyw ddigwyddiad neu unrhyw gyfres o unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny (pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio);

(b)mae cyfeiriadau at drefniant i’w darllen fel pe baent yn cynnwys—

(i)cyfres o drefniadau, a

(ii)unrhyw ran o drefniant neu unrhyw gam o drefniant sy’n cynnwys mwy nag un ran neu gam;

(c)ystyr “trethdalwr” yw person sy’n agored i dreth ddatganoledig neu a fyddai’n agored iddi oni bai am y trefniant osgoi trethi o dan sylw.

81CTrefniadau artiffisial i osgoi trethiLL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae trefniant osgoi trethi yn “artiffisial” os nad yw ymrwymo iddo neu ei gyflawni yn weithred resymol mewn perthynas â darpariaethau deddfwriaeth drethi Cymru sy’n gymwys i’r trefniadau.

(2)Wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial, caniateir ystyried yn benodol—

(a)unrhyw sylwedd economaidd neu fasnachol dilys sydd i’r trefniant (ac eithrio cael mantais drethiannol);

(b)pa un ai canlyniad y trefniant yw bod swm o dreth i’w godi y mae’n rhesymol cymryd nad hwnnw oedd y canlyniad a ragwelwyd pan ddeddfwyd darpariaeth berthnasol deddfwriaeth drethi Cymru.

(3)Ond nid yw trefniant yn artiffisial os oedd, ar yr adeg yr ymrwymwyd iddo neu y’i cyflawnwyd—

(a)y trefniant yn gyson â’r arferion a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd, a

(b)ACC wedi mynegi ei fod yn derbyn yr arfer hwnnw.

(4)Pan fo trefniant osgoi trethi yn rhan o unrhyw drefniadau eraill, rhaid rhoi sylw i’r trefniadau eraill hynny hefyd wrth benderfynu pa un a yw’r trefniant osgoi trethi yn artiffisial.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth drethi Cymru” yw—

(a)Deddfau Trethi Cymru, a

(b)unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30)) a wneir o dan y Deddfau hynny.

81DYstyr “treth” a “mantais drethiannolLL+C

At ddibenion y Rhan hon—

  • ystyr “mantais drethiannol” (“tax advantage”) yw—

    (a)

    rhyddhad rhag treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth,

    (b)

    ad-daliad treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth,

    (c)

    osgoi swm y codir treth arno neu leihau swm y codir treth arno,

    (d)

    gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth, F2...

    (e)

    osgoi rhwymedigaeth i ddidynnu treth neu roi cyfrif am dreth [F3, ac

    (f)

    credyd treth neu gredyd treth uwch.]

  • ystyr “treth” (“tax”) yw unrhyw dreth ddatganoledig.]