Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F1TrosolwgLL+C

81AYstyr “y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi” a throsolwg ohoniLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwrthweithio manteision treth sy’n deillio o drefniadau artiffisial i osgoi trethi, gan gynnwys darpariaeth—

(a)ynghylch ystyr “trefniant osgoi trethi”, “artiffisial” a “mantais drethiannol” (adrannau 81B i 81D);

(b)ynghylch pŵer ACC i wneud addasiadau i wrthweithio manteision treth a’r camau i’w cymryd gan ACC mewn cysylltiad ag addasiadau o’r fath (adrannau 81E i 81G).

(2)Enw’r rheolau yn y Rhan hon gyda’i gilydd yw “y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi”.]